Mae artistiaid benywaidd ar y cyfan yn absennol o hanes celf. Ac mae portreadau o fenywod yn brin ar waliau ein horielau, oni bai am y Forwyn Fair, aelodau o'r frenhiniaeth neu wragedd cyfoethog (neu bortreadau sy'n trin menywod fel gwrthrychau noeth neu rywiol wrth gwrs – mae llawer o'r rheiny!)

Charlotte (Grenville), Lady Williams-Wynn (1754-1830), and her Children

Charlotte (Grenville), Lady Williams-Wynn (1754-1830), and her Children c.1778

Joshua Reynolds (1723–1792)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Nid yw Cymru yn wahanol yn hynny o beth. Ystyriwch, er enghraifft, esiampl nodweddiadol o'r wraig ddelfrydol. Dyma bortread o Charlotte Williams-Wynn a'i phlant gan brif baentiwr portreadau'r cyfnod, Joshua Reynolds. Mae'r portread llawn symbolau o gyfoeth a statws: yr ystafell ffasiynol, gyda'i fâs glasurol, carped patrymog, a defnyddiau moethus felfed, sidan, satin a ffwr carlwm. Roedd gŵr Charlotte, Watkin Williams-Wynn, yn hanu o deulu o Gymry pwerus a oedd yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth, ac yn hynod gyfoethog.

Fe ofynnodd yr hanesydd celf Linda Nochlin nôl ym 1971, Why Have There Been No Great Women Artists? Roedd ei thraethawd yn nodi'r nifer o nodweddion sefydliadol a strwythyrol a rwystrai artistiaid benywaidd rhag llwyddo. Mae'r cwestiwn hwn yn parhau i boeni haneswyr heddiw, gan gynnwys Katy Hessel, awdur The Story of Art Without Men a phodlediad The Great Women Artists. Ni ellir amddiffyn gwaharddiad menywod o hanes celf, ac mae mynd i'r afael â hyn yn frwydr barhaol.

Mae gwaith yr artist Seren Morgan Jones yn un enghraifft eithriadol yng Nghymru. Mae ei gwaith yn adennill ac yn ail-ddychmygu rôl menywod yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru: mewn erthygl o 2015, fe ddywedodd, 'mae mwy i Gymru a'i hanes na'r pyllau glo, rygbi a dynion.'

Biologist

Biologist 2021

Seren Morgan Jones (b.1985)

Rediscovering Art by Women

Mae'r berthynas rhwng paentiwr portread a'r fodel yn creu gofod emosiynol, trwm. Ond pwy yw'r modelau ym mhortreadau Seren Morgan Jones? Mae'r artist am ein hatgoffa ni o'r menywod dienw, a'i diystyrwyd yn aml yn ein hanes. Ond ym mhle a sut y gall hi ddod o hyd iddyn nhw? Mae cyn lleied o naratif menywod cyffredin wedi'i ddogfennu yn hanesyddol, bod gan yr artist dim dewis ond llenwi'r bylchau â chwedloniaeth creadigol ei hun.

Mae hyn yn golygu'r weithred radical o ail-ddychmygu. Mae Jones yn chwilota drwy gofnodion hanesyddol, casgliadau gwisgoedd amgueddfeydd, hen luniau a chofnodion yr heddlu, gan gloddio'r gorffennol er mwyn dod o hyd i dameidiau o fenywod coll  er mwyn cynhyrchu portreadau cyfansawdd o'r newydd. Mae hi'n dweud 'mae'n bwysig bod y gwyliwr yn gallu uniaethu â'r merched hyn ac felly mae'n rhaid iddyn nhw ymddangos fel petaent wedi byw unwaith.' Gan gyfuno straeon real a dychmygol, mae'r portreadau hyn yn ychwanegiad radical i'r naratif o'r hyn y gall 'portread' fod.

Yn 2015 fe greodd yr artist 'Portreadau o Brotestwyr', arddangosfa o baentiadau o swffragetiaid o Gymru. Mae'n hynod o brin canfod y menywod hyn ar gynfas. Fe baentiwyd y swffragét Boneddiges y Rhondda (Margaret Haig Thomas) gan Alice Mary Burton yn y 1930au, ond roedd hi'n anarferol am ei bod hi'n gyfoethog ac yn fenyw busnes ac ymgyrchydd llwyddiannus – a doedd neb yn mynd i anwybyddu'r ffeminist angerddol hon!

Margaret Haig Thomas (1883–1958), Viscountess Rhondda

Margaret Haig Thomas (1883–1958), Viscountess Rhondda c.1930

Alice Mary Burton (1892–1973)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

A beth am ddiwylliant Cymreig? Ac eithrio'r ddelwedd ramantus o fenywod cefn gwlad mewn gwisg Cymreig, mae menywod yn amlwg yn absennol o hanes gweledol Cymru. Dywedodd Jones: 'Dw i'n creu delwedd amgen o fenywod Cymru er mwyn gwrthsefyll y gynrychiolaeth a welir yn aml mewn siopau twristiaid. Byddai rhai'n dadlau mai dyma'r unig bresenoldeb o fenywod o orffennol Cymru a welir ymhobman.'

Welsh Landscape with Two Women Knitting

Welsh Landscape with Two Women Knitting 1860

William Dyce (1806–1864)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Gyda'i defnydd o iaith baentio glasurol, ond gyda thro ffeministaidd chwareus, mae Jones yn creu portreadau o fenywod o Gymru sy'n herio hen ystrydebau diflas. Mae rhai o'i menywod herfeiddiol yn dangos eu bronnau, neu'n creu'r arwydd 'v' gyda'u bysedd, fel y gwelir yn Gofal plant am ddim, nawr! Ond mae'r artist hefyd yn cynnwys yr het ddu draddodiadol, y siòl bersli, a chlogyn o wlân Cymreig yn y delweddau, gan roi'r cyfle i'r gwyliwr ail-ystyried ystrydebau a neilltuad diwylliannol.

 
 
 
 
 
View this post on Instagram
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by Seren Morgan Jones (@serenmorganjones)

Mae artist ifanc arall o Gymru, Meinir Mathias, hefyd yn herio'r gynrychiolaeth draddodiadol, gyda'i phortreadau o arwyr gwerinol. Mae ei ffigyrau yn herio normau rhywedd, ac yn ailgysylltu'r gwyliwr gyda realiti hanes Cymru  ar lawr gwlad, tra eu bod gwisgo amrywiadau o wisg genedlaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sicr, nid dyma'r gofrodd 'Cymraes ar liain sychu llestri' parchus y mae'r byd wedi arfer ag ef!

You'll Never Conquer Mam! A Portrait of Jemima Nicholas

You'll Never Conquer Mam! A Portrait of Jemima Nicholas 2021

Meinir Mathias (b.1981)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Gan fynd hyd yn oed ymhellach yn ôl i fytholeg Cymru, mae Seren Morgan Jones wedi peintio portreadau a ysbrydolwyd gan y Mabinogi. I Seren Morgan Jones, mae gan y delweddau mytholegol hyn gysylltiad teuluol: fe greodd ei mam-gu, yr artist a'r darlunydd enwog Margaret D. Jones, ddelweddau ar gyfer fersiwn Gwyn Thomas o Y Mabinogi yn y 1980au.

Daw Jones â gwaddol ei mam-gu yn syth i'r presennol gyda'i menywod chwedlonol sydd wedi heneiddio'n amlwg, a chanddynt grychau a chyrff menywod go iawn. Ar ei thudalen Facebook, fe ddywedodd: 'Roedd hi'n bwysig i mi weld rhai o'r menywod hyn yn hŷn, gan eu bod nhw mor aml yn cael eu dehongli fel menywod Celtaidd tlws, ifanc a thenau. Dw i'n meddwl bod fy menywod i'n wych, ac yn ddathliad byw am flynyddoedd maith.'

Creirwy

Creirwy 2020

Seren Morgan Jones (b.1985)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Dywed Seren Morgan Jones bod ei phaentiadau wedi heneiddio gyda hi. Mae hi am ddathlu cyrff menywod, ac amlygu eu doethineb. Gan ei bod hi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i fenywod gyda chrychau naturiol ar-lein, mae hi'n defnyddio ei mam fel model. Does dim lle am ragfarnau ar sail oed na phwysau yn ei gwaith hi, ac mae hi'n glir ei bod hi am gyflwyno elfen o rywioldeb - un sy'n hunan-hyderus ac yn gadarnhaol am y corff.

Ceridwen

Ceridwen 2020

Seren Morgan Jones (b.1985)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Er ei synwyrusrwydd cyfoes, mae ei phortreadau yn dal i fod, i raddau helaeth, yn nhraddodiad y portread. Maent yn ddelweddau pen ac ysgwydd cryf, realistig, sy'n edrych allan ar y gwyliwr gyda threm bwerus ac uniongyrchol. Ychydig iawn o fanylion cefndirol sydd ar rai o'r rhain – mae'r ffocws ar y fenyw.

Gall eraill gynnwys steil unigryw o ddillad, symbolau neu arteffactau personol – dull traddodiadol a ddefnyddir i roi cliwiau i ni am y pwnc. Yn Porteadau o Brotestwyr dywedodd yr hanesydd celf Mari Griffith ‘trwy ddefnyddio hen draddodiadau gweledol... mae hi'n unioni rhai o anghyfiawnderau hanes.'

Mae'r diffyg cynrychiolaeth o fenywod o wahanol ethnigrwydd yn un o'r nifer o anghyfiawnderau o fewn eiconograffig draddodiadol diwylliant Cymru. Dywedodd yr artist ei bod hi'n teimlo dyletswydd i amlygu gwaharddiad pobl lleiafrifol o gelfyddyd Gymreig fodern, gan ddweud ei bod hi am wneud i bobl ailfeddwl eu syniadau cul ynglŷn â beth yw Cymreictod heddiw.

Blue Gloves, Orange Chair (Menig Glas, Cadair Oren)

Blue Gloves, Orange Chair (Menig Glas, Cadair Oren) 2016

Seren Morgan Jones (b.1985)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Mae gwaith cyfareddol a phryfoclyd Seren Morgan Jones yn ceisio ehangu a ffrwydro natur y portread traddodiadol. Mae hi'n erfyn arnom ni i ehangu ein gorwelion – mae trem heriol y menywod yn ei phortreadau yn mynnu ein sylw. Mae ei gwaith yn cynnig tirwedd weledol newydd i fenywod Cymru sy'n ddyledus ers tro.

Candy Bedworth, awdur

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch mwy o straeon yn y Gymraeg

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth pellach

Gwefan Seren Morgan Jones

Cyfweliad rhwng Seren Morgan Jones a Cat Gardiner, gallery/ten, 2015

Seren Morgan Jones, Oriel Ffin y Parc, 2019

Katy Hessel, The Story of Art Without Men, Hutchinson Heinemann, 2022

Catalog arddangosfa 'It's About Time', Amgueddfa Ceredigion, 2018

Karen Price, 'Portraits of Protestors', Wales Online, 2015

Maisie Skidmore, 'Portraits of Defiant Suffragists by Welsh Artist Seren Morgan Jones', It's Nice That, 2015