Thema celf: tirluniau

Mae 'tirlun' yn derm eang sydd hefyd yn cynnwys morluniau a lluniau o ddinasoedd a threfi. Yn hanesyddol, roedd tirluniau yn cael eu cysylltu â golygfeydd o’r byd naturiol. Weithiau does dim ffigyrau mewn tirlun neu mae’r gweithgarwch dynol yn llai pwysig na’r olygfa sy’n ei amgylchynu. Mae’r categori wedi tyfu’n fwy eang dros amser, ac erbyn hyn mae tirluniau’n gallu cwmpasu darluniadau sy’n fanwl gywir yn ogystal â dehongliadau haniaethol o’r tir a’r môr.

Cefndir cyd-destunol i athrawon

Pwerdy Ceunant (2019)
Mary Lloyd Jones (g.1934)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Dimensiynau: uchder 155 x lled 185 cm

Mae’r artist tirluniau Mary Lloyd Jones yn creu gwaith sy’n ymwneud ag ardal ei magwraeth yng nghanolbarth Cymru. Mae ei phaentiadau’n archwilio’r berthynas sy’n bodoli rhyngom ni a’n hamgylchfyd naturiol ac yn ystyried sut mae’r tir yn siapio hunaniaeth drwy ddaearyddiaeth, hanes, diwylliant ac iaith.

Mae sir enedigol Lloyd Jones, Ceredigion, yn amlwg iawn yn ei gwaith, yn enwedig y creithiau y mae canrifoedd o fwyngloddio am blwm wedi gadael ar y tir. Mae ganddi ddiddordeb hefyd yn y marciau hynafol y mae bodau dynol wedi’u gwneud ar y tir, ac yn ei lluniau, mae hi’n cyfuno systemau cynnar yr wyddor gyda ffurfiau naturiol a’i defnydd nodedig o liw.

Mae’r iaith Gymraeg yn ganolog i weledigaeth Lloyd Jones: yn Pwerdy Ceunant, mae enwau lleoedd wedi’u paentio ochr yn ochr ag arwyddion caligraffig a symbolau er mwyn cynrychioli’r tir mewn ffordd haniaethol. Mae ganddi ddiddordeb mawr yng ngwaith y bardd Iolo Morganwg (1747–1826) a ddatblygodd system o lythrennau a symbolau a elwir yn Goelbren y Beirdd. Yn ôl Iolo Morganwg, gwyddor hynafol y beirdd oedd hwn.

Mae’r teitl, Pwerdy Ceunant, o bosib yn cyfeirio at yr orsaf pŵer hydro yng Ngheunant yn y canolbarth. 

Mae Lloyd Jones wedi sôn nad oedd modelau rôl ganddi – fel artist benywaidd – wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru. Ond un dylanwad pwysig arni oedd cwiltio, gweithgaredd a wnaed yn draddodiadol gan fenywod. Fel mewn cwilt, mae siapiau lliw cryf wedi bod yn elfen cyson o’i thirluniau drwy gydol ei gyrfa.

Edrych, disgrifio a thrafod

Agorwch fersiwn sgrin gyfan o’r llun y gallwch ei chwyddo mewn ffenestr newydd.

Gofynnwch i’ch disgyblion ddisgrifio’r gwaith celf. Anogwch nhw i ddweud yn syml iawn beth maen nhw’n gallu ei weld.

Gallwch ddechrau drwy ddangos y llun cyfan ac yna chwyddo’r paentiad i archwilio’r manylion sydd ynddo. Neu gallwch ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i ddangos un manylyn cyn tynnu’r ffocws allan i weld mwy o’r llun.

Anogwch eich disgyblion i edrych yn ofalus – dyma yw ‘grym y gweld’! Mae’n well peidio rhoi gormod o wybodaeth gefndirol eto, er mwyn i’r disgyblion allu datblygu eu syniadau a’u barn eu hunain.

Mae disgrifiad sain o’r paentiad ar gael, yn ogystal â thrawsgrifiad llawn ohono y gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r paentiad.

Cwestiynau annog

Edrychwch ar y paentiad eto a gofynnwch gwestiynau mwy penodol (er mwyn ‘annog’):

  • Oes yna gliwiau sy’n dangos mai tirlun yw hwn (er enghraifft, nodweddion sy’n perthyn i’r tir a chefn gwlad)?
  • A yw hwn yn baentiad realistig o olygfa ym myd natur? Pam/pam ddim?
  • A yw’r paentiad hwn yn eich atgoffa chi o unrhyw beth arall?
  • Sut mae’r tywydd yn yr olygfa hon? Sut ydych chi’n gwybod?

Cwestiynau o Becyn Grym y Gweld

Gallwn nawr archwilio ‘elfennau’r’ paentiad.

Ar gyfer y gwaith celf hwn, byddwch chi'n canolbwyntio ar yr elfennau canlynol o'r Pecyn Grym y Gweld (Saesneg yn unig):

  • Cyfansoddiad
  • Lliw
  • Llinell

Gofynnwch i’ch disgyblion roi tystiolaeth i gefnogi eu sylwadau:

  • ble yn union maen nhw’n edrych wrth wneud eu pwynt?
  • ydy pawb yn gallu gweld beth maen nhw’n ei weld?
  • arafwch, cymerwch eich amser i edrych yn ofalus

Wrth ofyn y cwestiynau hyn, gallwch gyflwyno gwybodaeth o’r ‘Cefndir cyd-destunol i athrawon’. Mae ymatebion defnyddiol hefyd i’w cael yn y nodiadau i athrawon.

Pawb yn dysgu

Gallwch ddarganfod mwy am ddull anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Grym y Gweld ar hafan Grym y Gweld.

Nawr mae’n bryd edrych ar gwaith celf mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhestr hon o weithgareddau synhwyraidd yn annog disgyblion i gymhwyso eu dysgu, ac mae’n addas ar gyfer nifer o anghenion dysgu.

Creu
Rydym yn awgrymu gweithgareddau creadigol i bob dysgwr, gan gynnwys opsiwn cyffyrddol i gefnogi disgyblion sydd ag amhariad ar y golwg: mae’r gweithgareddau hyn yn archwilio nodweddion cyffyrddol defnyddiau, yn ogystal â marciau ystumiol, er mwyn archwilio’r gwaith celf ymhellach.

  • Chwiliwch ar-lein am lun o dirlun mynyddig a gofynnwch i’ch disgyblion symleiddio’r llun nes ei fod yn flociau o liw. Gofynnwch iddyn nhw giledrych er mwyn canfod y lliw a’r cysgod yn y llun, cyn paentio’u tirlun haniaethol eu hunain. Oes unrhyw liw yn peri syndod i’r disgyblion, fel y pinc yn Pwerdy Ceunant
  • Opsiwn cyffyrddol: mae’r paentiad yma’n fawr – yn dalach ac yn lletach na disgybl yn sefyll gyda breichiau agored. Ceisiwch greu tirlun mynyddig i’r un raddfa, gan ddefnyddio sialc lliwgar ar yr iard chwarae. Defnyddiwch raff neu bibell ddŵr i greu crib y mynyddoedd – fel canllaw i’r disgyblion. Gofynnwch iddyn nhw ddarlunio hyd at y grib mewn un lliw a thu hwnt i’r grib mewn lliw arall. Gall y gweithgaredd hefyd weithio ar raddfa lai yn yr ystafell ddosbarth: gludwch ddarnau o gortyn ar ddarn trwchus o bapur. Pan mae’n sych, defnyddiwch y ‘cribau’ fel canllaw i greu tirlun mynyddig gyda phaent, pastel neu sialc.

 

Profiad

  • Gwrandewch ar y disgrifiad sain o’r paentiad.

 

  • Gwnewch fersiwn tri dimensiwn o’r paentiad gyda thoes halen. Cymysgwch 1 cwpan o flawd plaen (tua 250g), hanner cwpan o halen (tua 125g) a hanner cwpan o ddŵr (125ml). Gofynnwch i’r disgyblion ffurfio mynyddoedd a dyffrynnoedd ar y bwrdd, gan gysylltu efallai â thirlun eu cymydog. Gall y ‘mynyddoedd’ toes halen gael eu pobi ar wres isel nes eu bod yn solet, ac yna eu paentio (mae siapiau trwchus iawn yn cymryd ychydig oriau). 

 

Cyfathrebu

  • Mae’r paentiad yn cynnwys gwyddor a ddyfeisiwyd – Coelbren y Beirdd – sy’n defnyddio llinellau syth i ffurfio llythrennau onglog, tebyg i lythrennau rwnig. Gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu disgrifiad byr o dirlun y maen nhw’n ei adnabod, gan ddefnyddio’u llawysgrifen arferol. Yna, ar ddarn arall o bapur, gofynnwch iddyn nhw ailysgrifennu’r disgrifiad gyda llythrennau sydd â llinellau syth yn unig. A oes un fersiwn sy’n gweddu i’r tirlun yn well na’r llall? 
  • Dysgwch yr arwydd Makaton ar gyfer ‘cwm/dyffryn'.

Y cam olaf: adolygu

Gofynnwch i’ch disgyblion wneud y canlynol:

  • rhannu eu llyfrau braslunio mewn grwpiau a thrafod yr 'elfennau' maen nhw wedi eu hadnabod
  • dewis yr elfen o’r gwaith/agwedd sydd fwyaf ddiddorol iddyn nhw am y gwaith celf a’i gofnodi yn eu llyfrau braslunio
  • dewis teitl eu hunain ar gyfer y gwaith celf
  • meddwl am gwestiwn yr hoffen nhw ei ofyn i’r artist

 

Llongyfarchiadau!

Rydych chi wedi cwblhau’r adnodd gwers hwn ar Rym y Gweld.

Mae mwy o adnoddau yn y thema hon i chi roi cynnig arnyn nhw – edrychwch ar yr adran ‘gwersi nesaf’ isod.


Do you know someone who would love this resource?
Tell them about it...

More The Superpower of Looking resources

See all