Thema celf: tirluniau

Mae ‘tirlun’ yn derm eang sydd hefyd yn cynnwys morluniau a lluniau o ddinasoedd a threfi. Yn hanesyddol, roedd tirluniau yn cael eu cysylltu â golygfeydd o’r byd naturiol. Weithiau does dim ffigyrau mewn tirlun, neu mae’r gweithgarwch dynol yn llai pwysig na’r olygfa sy’n ei amgylchynu. Mae’r categori wedi tyfu’n llai eang dros amser, ac erbyn hyn mae tirluniau’n gallu cwmpasu darluniadau sy’n ganwl gywir yn ogystal â dehongliadau mwy haniaethol o’r tir a’r môr.

Cefndir cyd-destunol i athrawon

Surprised! (1891)
Henri Rousseau (1844–1910)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Dimensiynau: uchder 129.8 x lled 161.9 cm

Er ei fod yn artist enwog, ni chafodd Henri Rousseau hyfforddiant proffesiynol. Ac er nad oes unrhyw dystiolaeth ei fod erioed wedi gadael Ffrainc, datblygodd ei weledigaeth unigryw ei hun o’r byd a daeth yn enwog am ei ‘baentiadau jyngl’.

Cafodd Rousseau ei ysbrydoli ar gyfer y gwaith hwn, a gwaith arall sy’n debyg iddo, gan ei ymweliadau â’r Gerddi Botanegol a’r Amgueddfa Hanes Naturiol ym Mharis. Mewn gwirionedd, roedd llawer o’r planhigion sydd i’w gweld yn Surprised! yn blanhigion tŷ mawrion. Mae’r ffordd llawn dychymyg y mae’r artist yn defnyddio’r planhigion brodorol cyffredin hyn i greu tirlun ‘egsotig’ yn rhoi teimlad breuddwydiol i’r llun, sy’n nodweddiadol o’i waith.

Edrych, disgrifio a thrafod

Agorwch fersiwn sgrin gyfan o’r llun y gallwch ei chwyddo mewn ffenestr newydd.

Gofynnwch i’ch disgyblion ddisgrifio’r gwaith celf. Anogwch nhw i ddweud yn syml iawn beth maen nhw’n gallu ei weld.

Gallwch ddechrau drwy ddangos y llun cyfan ac yna chwyddo’r paentiad i archwilio’r manylion sydd ynddo. Neu gallwch ddechrau drwy ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i ddangos un manylyn cyn tynnu’r ffocws allan i weld mwy o’r llun.

Anogwch eich disgyblion i edrych yn ofalus – dyma yw ‘grym y gweld’! Mae’n well peidio rhoi gormod o wybodaeth gefndirol eto, er mwyn i’r disgyblion allu datblygu eu syniadau a’u barn eu hunain.

Mae disgrifiad sain o’r paentiad ar gael, yn ogystal â thrawsgrifiad llawn ohono y gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r paentiad. Mae yna hefyd lyfr sain a chyffyrddol o’r paentiad y gellir ei fenthyg gan Living Paintings.

Cwestiynau annog 

Edrychwch ar y paentiad eto a gofynnwch gwestiynau mwy penodol (er mwyn ‘annog’):

  • Sut mae’r artist wedi creu’r teimlad o jyngl?
  • Sut fyddech chi’n teimlo os byddech chi’n gallu camu i mewn i’r olygfa? A fyddai’n gwneud gwahaniaeth lle yn y llun y byddech yn glanio? Pa seiniau fyddech chi’n eu clywed?
  • Beth neu bwy sy’n tynnu sylw’r teigr, yn eich barn chi?
  • Sut dywydd ydy hi? Ydy’r tywydd yn eich helpu chi i weithio allan beth sy’n mynd ymlaen?
  • Mae’r fellten yn awgrymu bod y teigr ar fin gwneud rhywbeth. Beth?

Cwestiynau o Becyn Grym y Gweld

Gallwn nawr archwilio ‘elfennau’r paentiad.

Ar gyfer y gwaith celf hwn, byddwch chi’n canolbwyntio ar yr elfennau canlynol o'r Pecyn Grym y Gweld:

  • Cyfansoddiad
  • Lliw 
  • Llinell

Gofynnwch i’ch disgyblion roi tystiolaeth i gefnogi eu sylwadau:

  • ble yn union maen nhw’n edrych wrth wneud eu pwynt?
  • ydy pawb yn gallu gweld beth maen nhw’n ei weld?
  • arafwch, cymerwch eich amser i edrych yn ofalus

Wrth ofyn y cwestiynau hyn, gallwch gyflwyno gwybodaeth o’r ‘Cefndir cyd-destunol i athrawon’. Mae ymatebion defnyddiol hefyd i’w cael yn y nodiadau i athrawon.

Pawb yn dysgu

Gallwch ddarganfod mwy am ddull anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Grym y Gweld ar hafan Grym y Gweld.

Nawr mae’n bryd edrych ar y gwaith celf mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhestr hon o weithgareddau synhwyraidd yn annog y disgyblion i gymhwyso eu dysgu, ac mae’n addas ar gyfer nifer o anghenion dysgu.

Creu
Rydym yn awgrymu gweithgareddau creadigol i bob dysgwr, gan gynnwys opsiwn cyffyrddol i gefnogi disgyblion sydd ag amhariad ar y golwg: mae’r gweithgareddau hyn yn archwilio nodweddion cyffyrddol defnyddiau, yn ogystal â marciau ystumiol, er mwyn archwilio’r gwaith celf ymhellach.

  • Estynnwch y paentiad y tu hwnt i’r ffrâm. Mewn llyfrau braslunio, tynnwch linell o amgylch y darlun gwreiddiol. Ydy’r disgyblion am ehangu’r jyngl neu tynnu llun rhywbeth y mae’r teigr yn edrych arno?
  • Opsiwn cyffyrddol: dyfeisiodd Rousseau ei jyngl gan ddefnyddio astudiaethau o blanhigion tŷ. Gofynnwch i’r disgyblion greu dail sydd â gweadau gwahanol (defnyddiwch bapur sidan, cerdyn, papur cetris wedi’i wasgu a’i grychu, ac ati), yna cyfunwch rhain mewn collage i greu un olygfa jyngl fawr gyda’r dosbarth cyfan.

 

Profiad

  • Gwrandewch ar y disgrifiad sain o’r paentiad.

 

  • Defnyddiwch blanhigion tŷ i greu jyngl ar fwrdd. Anogwch y disgyblion i symud eu dwylo drwy’r dail i greu teimlad tebyg i’r teigr yn cripian drwy’r isdyfiant. Pa sŵn mae’n ei greu?

 

Cyfathrebu

  • Gwyliwch y fideo hwn gan BBC Earth sy’n dangos sut mae teigrod yn cyfathrebu â’i gilydd. Beth maen nhw’n ei ddweud, yn eich barn chi? Nawr archwiliwch ‘siarad’ a symud fel teigr, yn llech-hela, rhedeg ac ymosod! Sut mae pobl eraill yn gwybod eich bod ar fin ymosod? Allwch chi syfrdanu rhywun?

 

  • Dysgwch yr arwydd Makaton ar gyfer ‘teigr’.

Y cam olaf: adolygu

Gofynnwch i’ch disgyblion wneud y canlynol:

  • rhannu eu llyfrau brasluniau mewn grwpiau a thrafod yr ‘elfennau’ maen nhw wedi eu hadnabod
  • dewis yr elfen/agwedd sydd fwyaf diddorol iddyn nhw am y gwaith celf a’i gofnodi yn eu llyfrau braslunio
  • dewis eu teitl eu hunain ar gyfer y gwaith celf
  • meddwl am gwestiwn yr hoffen nhw ei ofyn i’r artist

 

Llongyfarchiadau!

Rydych wedi cwblhau’r adnodd gwers hwn ar Rym y Gweld.

Mae mwy o adnoddau yn y thema hon i chi roi cynnig arnyn nhw – edrychwch ar yr adran ‘gwersi nesaf’ isod.


Do you know someone who would love this resource?
Tell them about it...

More The Superpower of Looking resources

See all