Thema celf: bywyd llonydd

Yn hanesyddol, gwrthrychau fel ffrwythau, blodau, pryfed ac/neu eitemau casgladwy oedd testun y lluniau sy’n perthyn i’r genre ‘bywyd llonydd’. Roedd gan rai gwrthrychau werth symbolaidd, er enghraifft gall blodyn fod yn symbol o fywyd a marwolaeth – mae’n hardd wrth flodeuo ond yn gwywo’n gyflym. Roedd paentiadau bywyd llonydd fel arfer yn fach, wedi eu creu ar gyfer cartrefi yn hytrach nag adeiladau mawr cyhoeddus.

Erbyn hyn, mae bywyd llonydd yn gallu cymryd sawl ffurf – o waith lled-haniaethol (gyda gwrthrychau wedi’u symleiddio ond yn dal yn bosib i’w hadnabod) i gwbl haniaethol (lle na ellir adnabod unrhyw beth, ond lle mae’r siâp wedi’i symleiddio i’w ffurf fwyaf elfennol). Gall bywyd llonydd hyd yn oed fod ar ffurf ‘gwrthrych hapgael’ (found object), fel llestr neu fwrdd ac ati, sydd wedi’i gyflwyno a’i ddogfennu fel 'celf'.

Cefndir cyd-destunol i athrawon

The Pink Tablecloth (1924–1925)
Henri Matisse (1869–1954)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Dimensiynau: uchder 60.3 x lled 81 cm

Roedd Henri Matisse yn aml yn paentio pynciau traddodiadol, yn eu plith bywyd llonydd . Beth oedd yn arolesol am ei waith oedd ei fod yn paentio’r pynciau hyn mewn ffyrdd newydd ac arbrofol. Mae’r bywyd llonydd hwn wedi’i haniaethu, hynny yw, gallwn adnabod y gwrthrychau, ond mae eu ffurfiau wedi’u symleiddio gymaint nes nad ydyn nhw bellach yn realistig nac yn gredadwy.

Drwy symleiddio’r siapau a chael gwared ar unrhyw awgrym bod y gofod yn dri dimensiwn, mae’r artist yn pwysleisio bod lliw, iddo ef, yn ffordd o addurno ac o gyfleu naws. Yn hytrach na chuddio marciau’r brws, mae Matisse yn eu pwysleisio ac yn datgelu’r broses o baentio yn ogystal a’i deimladau, drwy liw a siâp.

O ran gofod, mae yna ychydig o wrthdaro gan fod rhai gwrthrychau yn dilyn rheolau persbectif (er enghraifft elips y fowlen ffrwythau), tra bod eraill yn ymddangos yn ddau ddimensiwn gan nad ydynt wedi’u modelu mewn gofod tri dimensiwn. A oes unrhyw wrthrychau’n creu cysgod? Mae arwyneb y bwrdd ychydig ar ongl i ddangos enciliad (recession), ond pa effaith mae’r ongli yma’n ei gael mewn gwirionedd?

Edrych, disgrifio a thrafod

Agorwch fersiwn sgrin gyfan o’r llun y gallwch ei chwyddo mewn ffenestr newydd.

Gofynnwch i’ch disgyblion ddisgrifio’r gwaith celf. Anogwch nhw i ddweud yn syml iawn beth maen nhw’n gallu ei weld.

 

Gallwch ddechrau drwy ddangos y llun cyfan ac yna chwyddo’r paentiad i archwilio’r manylion sydd ynddo. Neu gallwch ddechrau drwy ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i ddangos un manylyn cyn tynnu’r ffocws allan i weld mwy o’r llun.

Anogwch eich disgyblion i edrych yn ofalus – dyma yw ‘grym y gweld’! Mae’n well peidio rhoi gormod o wybodaeth gefndirol eto, er mwyn i’r disgyblion allu datblygu eu syniadau a’u barn eu hunain.

Mae disgrifiad sain o’r paentiad ar gael, yn ogystal â thrawsgrifiad llawn ohono y gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r paentiad.

Cwestiynau annog

Edrychwch ar y paentiad eto a gofynnwch gwestiynau mwy penodol (er mwyn ‘annog):

  • A fyddech chi’n rhoi unrhyw beth bregus neu werthfawr ar y bwrdd yma? Pam neu pam ddim?
  • Ydy hwn yn baentiad realistig? Pam neu pam ddim? Oes angen i baentiad edrych yn realistig er mwyn i ni ei ddisgrifio fel paentiad da? Ydy’r ffordd mae paentiad yn gwneud i ni deimlo yn fwy pwysig na’r ffordd mae’n edrych?
  • Beth gallech chi ei arogli petaech chi’n gallu camu i mewn i’r paentiad?
  • Sut fyddech chi’n disgrifio naws y paentiad, a pham?
  • Ydych chi’n meddwl bod pobl yn oes Matisse wedi ystyried y paentiad yma’n un da?

Cwestiynau o Becyn Grym y Gweld

Gallwn nawr archwilio ‘elfennau’r’ paentiad.

Ar gyfer y gwaith celf hwn, byddwch chi’n canolbwyntio ar yr elfennau canlynol o'r Pecyn Grym y Gweld:

  • Gofod 
  • Lliw
  • Cyfansoddiad

Gofynnwch i’ch disgyblion roi tystiolaeth i gefnogi eu sylwadau:

  • ble yn union maen nhw’n edrych wrth wneud eu pwynt?
  • ydy pawb yn gallu gweld beth maen nhw’n ei weld?
  • arafwch, cymerwch eich amser i edrych yn ofalus

Wrth ofyn y cwestiynau hyn, gallwch gyflwyno gwybodaeth o’r ‘Cefndir cyd-destunol i athrawon’. Mae ymatebion defnyddiol hefyd i’w cael yn y nodiadau i athrawon.

Pawb yn dysgu

Gallwch ddarganfod mwy am ddull anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Grym y Gweld ar hafan Grym y Gweld.

Nawr mae’n bryd edrych ar y gwaith celf mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhestr hon o weithgareddau synhwyraidd yn annog disgyblion i gymhwyso eu dysgu, ac mae’n addas ar gyfer nifer o anghenion dysgu.

Creu
Rydym yn awgrymu gweithgareddau creadigol i bob dysgwr, gan gynnwys opsiwn cyffyrddol i gefnogi disgyblion sydd ag amhariad ar y golwg: mae’r gweithgareddau hyn yn archwilio nodweddion cyffyrddol defnyddiau, yn ogystal â marciau ystumiol, er mwyn archwilio’r gwaith celf ymhellach.

  • Ewch ati i greu trefniant bywyd llonydd. Pa wrthrychau bydd eich disgyblion yn cynnwys yn eu bywyd llonydd? Gall y disgyblion ddogfennu eu trefniant drwy dynnu llun (ffotograff) ohono neu ei ddarlunio yn eu llyfr braslunio.
  • Opsiwn cyffyrddol: ewch ati i greu collage cyffyrddol o fywyd llonydd drwy dorri neu rwygo papur i greu ffrwythau a blodau. Ceisiwch sgrwnsio’r papur gyntaf er mwyn newid ei deimlad. Defnyddiwch liwiau sy’n cyferbynnu er mwyn cefnogi unrhyw ddisgyblion sydd â golwg gwan.

 

Experience

  • Gwrandewch ar y disgrifiad sain o’r paentiad.

 

  • Crëwch fywyd llonydd synhwyraidd drwy osod lemonau, eirin a blodau mewn fâs ar liain bwrdd. Pa aroglau mae’r disgyblion yn eu hoffi fwyaf?

 

Cyfathrebu

  • Mewn parau, rhestrwch y lliwiau sydd yn y paentiad. Pa enwau newydd hoffai’r disgyblion roi i’r lliwiau hyn (er enghraifft, pinc blodau ceirios, glas y paun)?
  • Dysgwch yr arwydd Makaton ar gyfer 'lemon'.

Y cam olaf: adolygu

Gofynnwch i’ch disgyblion wneud y canlynol:

  • rhannu eu llyfrau braslunio mewn grwpiau a thrafod yr 'elfennau' maen nhw wedi eu hadnabod
  • dewis yr elfen/agwedd sydd fwyaf diddorol iddyn nhw am y gwaith celf a’i gofnodi yn eu llyfrau braslunio
  • dewis teitl eu hunain ar gyfer y gwaith celf
  • meddwl am gwestiwn yr hoffen nhw ei ofyn i’r artist

 

Llongyfarchiadau!

Rydych chi wedi cwblhau’r adnodd gwers hwn ar Rym y Gweld.

Mae mwy o adnoddau yn y thema hon i chi roi cynnig arnyn nhw – edrychwch ar yr adran ‘gwersi nesaf’ isod.


Do you know someone who would love this resource?
Tell them about it...

More The Superpower of Looking resources

See all