Thema celf: golygfeydd o fywyd bob dydd

Mae haneswyr celf yn galw paentiadau o olygfeydd o fywyd pob dydd yn baentiadau 'genre'. Mae’r darluniau hyn fel arfer yn dangos pobl gyffredin ac anhysbys yn gwneud pethau arferol. Y gwrthwyneb felly i'r hyn y mae haneswyr celf yn ei alw'n baentiadau 'hanes', lle mae'r artist yn dangos golygfa benodol sy’n tarddu o hanes neu chwedl.

Cefndir cyd-destunol i athrawon

Miners (1951)
Josef Herman (1911–2000)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Dimensiynau: uchder 281 x lled 618 cm

Artist a anwyd yng Ngwlad Pwyl oedd Josef Herman, sy’n cael ei gofio am ei ddarluniau o’r gymuned lofaol Gymreig yn Ystradgynlais. O 1944 ymlaen, fe fu’n byw am un mlynedd ar ddeg ar ben Cwm Abertawe, lle roedd y bobl leol yn ei alw’n ‘Joe Bach’. Fe adawodd Gymru (i fyw yn Sbaen ac yna yn Llundain) wedi i leithder yr hinsawdd ddechrau effeithio ar ei iechyd.

Fe gomisiynwyd y gwaith hwn, sydd ar chwe phanel mawr, ym 1951 ar gyfer Pafiliwn ‘Minerals of the Island’ yn y Festival of Britain. Mae’n dangos chwe glöwr yn gorffwys y tu allan i’r pwll ar ddiwedd eu sifft. Dywedodd Herman am y gwaith: 'Dw i’n meddwl bod hwn yn un o fy narluniau allweddol, a’r un pwysicaf i mi ei wneud yng Nghymru'.

Edrych, disgrifio a thrafod

Agorwch fersiwn sgrin gyfan o’r llun y gallwch ei chwyddo mewn ffenestr newydd.

Gofynnwch i’ch disgyblion ddisgrifio’r gwaith celf. Anogwch nhw i ddweud yn syml iawn beth maen nhw’n gallu ei weld.

Gallwch ddechrau drwy ddangos y llun cyfan ac yna chwyddo’r paentiad i archwilio’r manylion sydd ynddo. Neu gallwch ddechrau drwy ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i ddangos un manylyn cyn tynnu’r ffocws allan i weld mwy o’r llun.

Anogwch eich disgyblion i edrych yn ofalus – dyma yw ‘grym y gweld’! Mae’n well peidio rhoi gormod o wybodaeth gefndirol eto, er mwyn i’r disgyblion allu datblygu eu syniadau a’u barn eu hunain.

Mae disgrifiad sain o’r paentiad ar gael, yn ogystal â thrawsgrifiad llawn, y gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r paentiad.

Cwestiynau annog

Edrychwch ar y paentiad eto a gofynnwch gwestiynau mwy penodol (er mwyn ‘annog’):

  • Beth ydych chi’n sylwi am y bobl yn y paentiad?
  • Oes yna gliwiau sy’n datgelu beth yw gwaith y dynion a ble maen nhw’n gweithio?  
  • Ydych chi’n meddwl bod y paentiad yn edrych yn realistig? Pam/pam ddim?
  • Sut fyddech chi’n teimlo petaech yn cael eich cludo i mewn i’r olygfa yma?
  • Pa synau ac aroglau fyddech chi’n eu profi petaech chi’n gallu camu i mewn i’r paentiad?

Cwestiynau o Becyn Grym y Gweld

Gallwn nawr ddechrau archwilio ‘elfennau’r’ paentiad.

Ar gyfer y gwaith celf hwn, byddwch chi’n canolbwyntio ar yr elfennau canlynol o'r Pecyn Grym y Gweld (Saesneg yn unig): 

  • Cyfansoddiad
  • Ffigyrau
  • Lliw

Gofynnwch i’ch disgyblion roi tystiolaeth i gefnogi eu sylwadau:

  • ble yn union maen nhw’n edrych wrth wneud eu pwynt?
  • ydy pawb yn gallu gweld beth maen nhw’n ei weld?
  • arafwch, cymerwch eich amser i edrych yn ofalus

Wrth ofyn y cwestiynau hyn, gallwch gyflwyno gwybodaeth o’r ‘Cefndir cyd-destunol i athrawon’. Mae atebion defnyddiol hefyd i’w cael yn y nodiadau i athrawon.

Pawb yn dysgu

Gallwch ddarganfod mwy am ddull anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Grym y Gweld ar hafan Grym y Gweld.

Nawr mae’n bryd archwilio’r gwaith celf mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhestr hon o weithgareddau synhwyraidd yn annog disgyblion i gymhwyso eu dysgu, ac mae’n addas ar gyfer nifer o anghenion dysgu.

Creu
Rydym yn awgrymu gweithgareddau creadigol i bob dysgwr, gan gynnwys opsiwn cyffyrddol i gefnogi disgyblion sydd ag amhariad ar y golwg: mae’r gweithgareddau hyn yn archwilio nodweddion cyffyrddol defnyddiau, yn ogystal â marciau ystumiol, er mwyn archwilio’r gwaith celf ymhellach.

  • Darluniwch bortread o’ch ffrind gan ddilyn arddull Josef Herman: edrychwch ar sut mae Herman yn haniaethu’r wynebau’n flociau ac yn gorliwio’r trwynau. Mae sialc a phasteli yn gyfrwng da ar gyfer y dasg hon, yn enwedig ar bapur du. Ceisiwch greu’r amlinelliad yn gyntaf, yna diffoddwch y goleuadau ac archwiliwch effeithiau cysgodi dramatig drwy ddefnyddio torsh i oleuo un ochr o wyneb eich ffrind.
  • Opsiwn cyffyrddol: ewch ati i greu model o wyneb mewn arddull blociog ar arwyneb gwastad. Defnyddiwch gerdyn rhychiog i adeiladu haenau, a glud PVA i’w gludo i lawr. Cymerwch ysbrydoliaeth o wynebau’r glowyr – mae eu trwynau yn fawr ac wedi’u gorliwio.

Profiad

  • Sut fyddai’n teimlo i sefyll i fyny ar ôl bod ar eich cwrcwd fel y glowyr hyn? Arbrofwch drwy fynd ar eich cwrcwd am funud, yna sefyll yn dal. Pwyswch eich breichiau yn erbyn ffrâm y drws am funud ac yna camwch ymlaen: bydd eich breichiau’n teimlo fel petaen nhw’n codi! Pwyswch eich cefn yn erbyn y wal a llithrwch i lawr i eistedd fel petai ar gadair. Daliwch yr ystum am gyn hired â phosib! Sut  ydych chi’n teimlo ar ôl gwneud hyn, a faint o amser mae’n gymryd i chi fynd yn ôl i normal?
  • Diffoddwch y goleuadau a defnyddiwch dorsh i greu cysgodion ar wal. Fe allech ddefnyddio’ch dwylo, eich cyrff, neu ddodrefn a gwrthrychau sydd yn y dosbarth i greu tirwedd danddaearol gysgodol fel yr un y mae’r glowyr yn gweithio ynddi.
  • Gwrandewch ar y disgrifiad sain o’r paentiad.

 


Cyfathrebu

  • Dewiswch bar o lowyr ac ysgrifennwch sgwrs rhyngddynt. Cyfnewidiwch gyda phâr arall ac actiwch y sgwrs.
  • Roedd yn hanfodol bod glowyr yn gallu cyfathrebu â’i gilydd yn y tywyllwch. Roedd arwyddion sain yn bwysig, gan gynnwys bloeddiadau, chwibanu a chlychau, ac roedd glowyr angen deall ystyr bob sain. Ewch ati gyda ffrind i greu ‘iaith’ sain syml gan ddefnyddio’r defnyddiau o’ch amgylch (er enghraifft, clapio, chwibanu, tapio’r ddesg ac ati). Dyfeisiwch sain sy’n golygu ‘ymlaen’, ‘yn ôl’ a ‘stop’. Gallwch gyfeirio'ch ffrind i ddod o hyd i rywbeth ym mhen draw’r ystafell (neu’r bwrdd, gan ddefnyddio bysedd 'cerdded') gan ddefnyddio'r synau hynny'n unig?

Y cam olaf: adolygu

Gofynnwch i’ch disgyblion wneud y canlynol:

  • rhannu eu llyfrau braslunio mewn grwpiau a thrafod yr 'elfennau' maen nhw wedi eu hadnabod
  • dewis yr elfen/agwedd sydd fwyaf diddorol iddyn nhw am y gwaith celf a’i gofnodi yn eu llyfrau braslunio
  • dewis teitl eu hunain ar gyfer y gwaith celf
  • meddwl am gwestiwn yr hoffen nhw ei ofyn i’r artist

 

Llongyfarchiadau!

Rydych chi wedi cwblhau’r adnodd gwers hwn ar Rym y Gweld.

Mae mwy o adnoddau yn y thema hon i chi roi cynnig arnyn nhw – edrychwch ar yr adran ‘gwersi nesaf’ isod.


Do you know someone who would love this resource?
Tell them about it...

More The Superpower of Looking resources

See all