Thema celf: golygfeydd o fywyd bob dydd

Mae haneswyr celf yn galw paentiadau o olygfeydd o fywyd pob dydd yn baentiadau 'genre'. Mae’r darluniau hyn fel arfer yn dangos pobl gyffredin ac anhysbys yn gwneud pethau arferol. Y gwrthwyneb felly i'r hyn y mae haneswyr celf yn ei alw'n baentiadau 'hanes', lle mae'r artist yn dangos golygfa benodol sy’n tarddu o hanes neu chwedl.

Cefndir cyd-destunol i athrawon

An Experiment on a Bird in the Air Pump (1768)
Joseph Wright of Derby (1734–1797)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Dimensiynau: uchder 183 x lled 244 cm

Mae'n debyg bod y 'Derby' yn enw Joseph Wright of Derby yn cyfleu balchder yr artist yn ei dref enedigol. Roedd tref Derby yn enwog am ddatblygiadau gwyddonol a oedd yn gwasanaethu diwydiant – fel Silicon Valley yn maes technoleg heddiw. 

Roedd y ddeunawfed ganrif yn oes o ddarganfyddiadau ym Mhrydain – daeth entrepreneuriaid i'r amlwg, a ffurfiwyd gymdeithasau gan bobl a oedd â diddordebau tebyg. Un o’r cymdeithasau hyn oedd The Lunar Society of Birmingham, sef grŵp o ddynion ysbrydoledig (a dynion yn unig) a fyddai’n cwrdd i drafod gwyddoniaeth, athroniaeth, y celfyddydau a masnach cyn cael eu cludo adref yng ngolau’r lleuad. Ffordd Wright o rannu syniadau gwyddonol gyda phawb – nid dim ond cynulleidfa ddethol – yw’r llun hwn, ac o ddangos ymateb pobl gyffredin i’r syniadau hyn.

Roedd Wright of Derby yn arbenigo mewn golygfeydd wedi eu goleuo gan olau canwyll.  Dyma'r un mwyaf a baentiodd. Ynddo, mae yna aderyn mewn jar wydr ac mae’r aer yn cael ei bwmpio allan. Mae’r artist yn creu naws ddramatig trwy ei ddefnydd o olau a chysgod, a thrwy ystumiau'r ffigyrau a’r olwg ar eu hwynebau.

Edrych, disgrifio a thrafod

Agorwch fersiwn sgrin gyfan o’r llun y gallwch ei chwyddo mewn ffenestr newydd.

Gofynnwch i’ch disgyblion ddisgrifio’r gwaith celf. Anogwch nhw i ddweud yn syml iawn beth maen nhw’n gallu ei weld.

Gallwch ddechrau drwy ddangos y llun cyfan ac yna chwyddo’r paentiad i archwilio’r manylion sydd ynddo. Neu gallwch ddechrau drwy ddefnyddio’r nodwedd chwyddo i ddangos un manylyn cyn tynnu’r ffocws allan i weld mwy o’r llun.

Anogwch eich disgyblion i edrych yn ofalus – dyma yw ‘grym y gweld’! Mae’n well peidio rhoi gormod o wybodaeth gefndirol eto, er mwyn i’r disgyblion allu datblygu eu syniadau a’u barn eu hunain.

Mae disgrifiad sain o’r paentiad ar gael, yn ogystal â thrawsgrifiad llawn ohono y gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio’r paentiad.

Cwestiynau annog

Edrychwch ar y paentiad eto a gofynnwch gwestiynau mwy penodol (er mwyn ‘annog’):

  • Beth sy’n digwydd yma, yn eich barn chi? Pwy neu beth mae’r artist eisiau i ni edrych arno gyntaf?
  • Beth ydych chi’n sylwi am y bobl yn y paentiad? Ydyn ni’n gallu darganfod unrhyw beth am eu cymeriad nhw?
  • Faint o’r gloch yw hi? Ydy hi’n ddydd neu nos? Sut ydych chi’n gallu dweud? Ydy’r goleuo’n creu teimlad neu naws benodol?
  • Ydy’r profiad yn un diddorol neu frawychus i’r bobl sydd o amgylch y bwrdd?
  • Beth fyddech chi’n gallu ei arogli petaech chi’n gallu camu i mewn i’r paentiad?

Cwestiynau o Becyn Grym y Gweld

Gallwn nawr archwilio ‘elfennau’r’ paentiad.

Ar gyfer y gwaith celf hwn, byddwch chi’n canolbwyntio ar yr elfennau canlynol o'r Pecyn Grym y Gweld

  • Cyfansoddiad
  • Lliw
  • Golau

Gofynnwch i’ch disgyblion roi tystiolaeth i gefnogi eu sylwadau:

  • ble yn union maen nhw’n edrych wrth wneud eu pwynt?
  • ydy pawb yn gallu gweld beth maen nhw’n ei weld?
  • arafwch, cymerwch eich amser i edrych yn ofalus

Wrth ofyn y cwestiynau hyn, gallwch gyflwyno gwybodaeth o’r ‘Cefndir cyd-destunol i athrawon’. Mae atebion defnyddiol hefyd i’w cael yn y nodiadau i athrawon.

Pawb yn dysgu

Gallwch ddarganfod mwy am ddull anghenion dysgu ychwanegol (ADY) Grym y Gweld ar hafan Grym y Gweld.

Nawr mae’n bryd archwilio’r gwaith celf mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhestr hon o weithgareddau synhwyraidd yn annog disgyblion i gymhwyso eu dysgu, ac mae’n addas ar gyfer nifer o anghenion dysgu.

Creu
Rydym yn awgrymu gweithgareddau creadigol i bob dysgwr, gan gynnwys opsiwn cyffyrddol i gefnogi disgyblion sydd ag amhariad ar y golwg: mae’r gweithgareddau hyn yn archwilio nodweddion cyffyrddol defnyddiau, yn ogystal â marciau ystumiol, er mwyn archwilio’r gwaith celf ymhellach.

  • Ewch ati i ail-greu’r olygfa yn eich ystafell ddosbarth. Gwnewch yr ystafell mor dywyll â phosib a threfnwch deg disgybl o amgylch bwrdd a'u goleuo â tortshys. Gall gweddill y dosbarth helpu i osod y cymeriadau. Tynnwch lun gyda chamera, yna trowch y goleuadau ymlaen a darluniwch eich golygfa ar bapur du gan ddefnyddio sialc.
  • Opsiwn cyffyrddol: ar ochr dde'r ddesg mae pluen, neu gwils, mewn potel o hylif. Rhowch gynnig ar wneud marciau gyda phlu: a yw darlunio â phluen yn teimlo’n wahanol i ddefnyddio beiro? Ym mha ffordd?

 

Profiad

  • Gwrandewch ar y disgrifiad sain o’r paentiad.

 

  • Gwnewch arbrawf gwactod (vacuum) gan ddefnyddio jar, cannwyll ac ychydig o ddŵr wedi’i liwio. Goleuwch gannwyll yng nghanol dysgl fawr. Arllwyswch ddŵr wedi’i liwio o'i gwmpas (mae hylif lliwio bwyd yn ei gwneud hi’n haws gweld yr arbrawf). Rhowch jar wag sych dros ben y gannwyll. Wrth i'r fflam sugno'r ocsigen yn y jar, mae'r dŵr lliw yn dechrau llenwi’r gofod.

 

Cyfathrebu

  • Dewiswch gymeriad o'r paentiad. Ysgrifennwch gofnod dyddiadur neu bost blog yn disgrifio’u profiad a’u teimladau wrth wylio’r arbrawf.
  • Dysgwch yr arwydd Makaton ar gyfer ‘cannwyll’.

Y cam olaf: adolygu

Gofynnwch i’ch disgyblion wneud y canlynol:

  • rhannu eu llyfrau braslunio mewn grwpiau a thrafod yr 'elfennau' maen nhw wedi eu hadnabod
  • dewis yr elfen/agwedd sydd fwyaf ddiddorol iddyn nhw am y gwaith celf, a’i gofnodi yn eu llyfrau braslunio
  • dewis eu teitl eu hunain ar gyfer y gwaith celf
  • meddwl am gwestiwn yr hoffen nhw ofyn i’r artist

 

Llongyfarchiadau!

Rydych chi wedi cwblhau’r adnodd gwers hwn ar Rym y Gweld.

Mae mwy o adnoddau yn y thema hon i roi cynnig arnynt – edrychwch ar yr adran ‘gwersi nesaf’ isod.


Do you know someone who would love this resource?
Tell them about it...

More The Superpower of Looking resources

See all