I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, dyma chwe darn o waith celf sy'n archwilio cyfoeth, prydferthwch a gwytnwch y Gymraeg.

I lawer ohonom, Cymraeg yw iaith ein haelwyd. Mae hi'n berl yn niwylliant a hunaniaeth Cymru, ac yn sylfaen i gyfeillgarwch, i addysg, a chymuned. Fodd bynnag, mae hi wedi cael ei gwthio at ddibyn ei bodolaeth sawl tro yn ystod ei hanes hir, ac mae'r ymgyrchoedd dros warchod yr iaith wedi bod yr un mor angerddol â'r nifer helaeth o geisiadau i'w llethu, ei diraddio a'i dileu.

Er gwaetha'r heriau, mae'r Gymraeg yn parhau yn iaith fyw, ddisglair gyda oddeutu 30% o boblogaeth Cymru yn medru ei siarad. Yng ngeiriau Dafydd Iwan – 'ry'n ni yma o hyd.'

Ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Mae'r iaith yn dal i fod yn fregus, ac mae heriau'n parhau sydd angen eu goresgyn. Mae'r gweithiau celf canlynol yn dyst i'r tân sydd yng nghalonnau'r rheiny sydd wedi brwydro – ac sy'n parhau i frwydro – dros ddyfodol mwy cyfiawn, cynhwysol ac eang i'n hiaith.

1. Cara Wallia Derelicta (1959) gan David Jones

Cara Wallia Derelicta

Cara Wallia Derelicta 1959

David Jones (1895–1974)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Mae'r arysgrif hwn a baentiwyd gan David Jones yn alargan deimladwy sy'n cyfuno barddoniaeth Gymraeg o'r canol oesoedd â Lladin a gymerwyd o'r Aeneid gan Virgil. Cyfieithiad Cara Wallia Derelicta yw 'Annwyl Gymru a adawyd', neu yng ngeiriau Jones, 'poor buggered-up Wales.'

Fe elwir Jones yn fardd-baentiwr yn aml, ac mae ei waith o'r 1940au yn cyfuno'r gair â'r ddelwedd. Fe ddisgrifiodd Jones feirdd canoloesol Cymru yn 'seiri'r gân' ac mae'n bosib gweld y syniad o siapio iaith i ffurf bendant fan hyn: mae ei lythrennau caligraffig yn ffurfio patrymau haniaethol, rhythmig ar y dudalen.

Mae'r gwaith yn cynnwys geiriau o'r farwnad gan Gruffudd ab yr Ynad Coch, yn galaru marwolaeth Llywelyn, ein llyw olaf. Fe lofruddiwyd Llywelyn, tywysog olaf Cymru annibynnol, ar yr 11eg o Ragfyr 1282. Cafodd ei ben ei dorri a'i gymryd i Lundain yn dlws i ddathlu goruchafiaeth Lloegr. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, fe feddiannwyd Cymru gan Edward I ac fe ddaeth y wlad dan reolaeth brenhiniaeth Lloegr.

Mae'r gwaith hwn yn dwyn i sylw sawl tebygrwydd rhwng marwolaeth Llywelyn a Chwymp Troy. Fel nifer o bobl, fe welodd Jones y digwyddiad yn golled drychinebus i'r genedl ac fe ofnai na fyddai Cymru fyth yn adfer ei hun yn llwyr.

2. O. M. (tua 1990) gan Iwan Bala

O. M.

O. M. c.1990

Iwan Bala (b.1956)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Mae ffigwr yn camu drwy'r dirwedd yn cydio yn y Welsh Not. Mae'n ymddangos bron yn embryonig, yn suddo i - neu efallai'n camu allan o - ddyfroedd Llyn Tegid.

Roedd Owen Morgan Edwards (O. M.) yn ffigwr blaenllaw yn neffroad cenedlaethol y Cymry ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe ymgyrchodd yn ddiflino i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion, ac roedd yn arloesi ym maes cyhoeddi yn y Gymraeg ar gyfnod pan oedd yr iaith i'w weld yn dirywio.

Mae ei hunangofiant Clych Adgof (1906) yn disgrifio'i brofiad o gael ei gosbi am siarad ei famiaith yn yr ysgol. Defnyddiwyd y Welsh Not ledled Cymru fel ymgais greulon i lethu'r iaith, gan y rheiny a ystyriodd mai Saesneg oedd yr unig ffordd o ddyrchafu yn y gymdeithas.

Sefydlodd Ifan ab Owen Edwards, sef mab O. M., Urdd Gobaith Cymru. Mae Gwersyll Glan-llyn, canolfan breswyl yr Urdd, i'w gweld yn y paentiad ar lan y llyn.

3. Mair yng Nghylch Meithrin (2020) gan Anya Paintsil

Mair at Cylch Meithrin

Mair at Cylch Meithrin 2020

Anya Paintsil (b.1993)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae Mair yng Nghylch Meithrin yn dangos chwaer yr artist yn crio, gyda'i hwyaden fach, Floppy. Mae'n seiliedig ar atgofion Anya o'i chyfnod yn y Cylch Meithrin. Mae Cylchoedd Meithrin yn chwarae rhan bwysig yn meithrin cenhedloedd o siaradwyr Cymraeg y dyfodol ac yn feithrinfa boblogaidd i rieni ledled Cymru.

Mewn cyfweliad gyda Lydia Figes, fe ddisgrifiodd Anya ei phrofiad fel un o'r unig fyfyrwyr hil-gymysg mewn ysgol gynradd Cymraeg ei hiaith. 'Roedden ni bob amser yn teimlo'n wahanol ac fel na phetawn yn perthyn,' dywedodd. 'Mae adennill y Gymraeg yn fy ngwaith yn ffordd i mi ddiogelu fy hunaniaeth Gymreig, achos mae gymaint o bobl drwy gydol fy oes wedi ei gwestiynu.'

I Anya, mae bod yn siaradwr Cymraeg yn rhan bwysig o'i hunaniaeth fel artist hil-gymysg, o Gymru a Ghana. Er bod gan Gymru un o'r cymunedau ethnig amrywiol hynaf yn Ewrop, mae rhai pobl yn gweld Cymreictod – a'r Gymraeg – yn rhywbeth sy'n perthyn i bobl gwyn yn unig, camsyniad peryglus sy'n parhau i hollti'r gymuned o siaradwyr Cymraeg heddiw.

4. Cofiwch Dryweryn gan Emily Jenkins

Mae un-ar-ddeg o fythynnod ceramig wedi'u gosod yn unol â threfn Capel Celyn, yr hen bentref a boddwyd yng Nghwm Tryweryn. Roedd Capel Celyn yn gymuned glos, Cymraeg ei hiaith. Gorfodwyd trigolion y pentref allan o'u tai ac fe foddwyd y cwm yn gyfan gwbl ym 1965, er mwyn darparu dŵr i Lerpwl.

Cofiwch Dryweryn / Remember Tryweryn

Cofiwch Dryweryn / Remember Tryweryn

Emily Jenkins

MOMA MACHYNLLETH

Ystyriwyd boddi cwm Tryweryn yn anghyfiawnder gwleidyddol a diwylliannol, ac yn arwydd o’r apathi gwleidyddol a deimlodd yr Aelodau Seneddol San Steffan tuag at Gymru, wrth gymeradwyo’r ddeddf.

Fe arweiniodd at ddegawdau o brotestio, a dyma oedd un o'r prif ddigwyddiadau a ysbrydolodd ddarlith danbaid Saunders Lewis, Tynged yr Iaith. Yn ei ddarlith mynnodd bod angen gweithredu chwyldroadol ar unwaith, er mwyn arbed yr iaith rhag diflannu o fodolaeth. 'Fe ellir achub y Gymraeg' meddai, gan ychwanegu 'trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo.'

Mae'r ymdeimlad o ddicter a brad yn parhau hyd heddiw, ac mae 'Cofiwch Dryweryn' yn alwad i'r rheiny sy'n gwrthod anghofio. Fe greodd y cerflunydd John Meirion Morris maquette ar gyfer cofeb gyhoeddus ar lannau Llyn Celyn, ond ni adeiladwyd y gofeb fyth.

Yn y gwaith hwn mae'r bythynnod wedi'u haddurno â physgod, a thonau sy'n chwyrlio o'u hamgylch. Mae enw gwreiddiol Cymraeg bob bwthyn wedi'i stampio ar y clai: defod o anrhydeddu a chofio.

Cofiwch Dryweryn / Remember Tryweryn

Cofiwch Dryweryn / Remember Tryweryn

Emily Jenkins

MOMA MACHYNLLETH

5. O Bydded i'r Heniaith Barhau (tua 1960–1980) gan Lauretta Williams

Yn dilyn darlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis, fe sbardunwyd miloedd o bobl ledled Cymru, yn fyfyrwyr yn bennaf, i weithredu. Ym 1962 sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymgyrchu ac eirioli dros gydraddoldeb ieithyddol.

O Bydded I'r Hen iaith Barhau

O Bydded I'r Hen iaith Barhau c.1960–1980

Lauretta Williams (1910–1993)

Carmarthenshire Museums Service Collection

Roedd arwyddion ffordd dwyieithog yn rhan fawr o'r ymgyrchoedd hyn. Yn y 1960au a'r 1970au, aeth protestwyr ati i baentio arwyddion Saesneg eu hiaith â phaent gwyrdd, ac yn hwyrach ymlaen fe'u difrodwyd a'u difethwyd wrth i'r protestiadau ddwysáu.

Mae'r paentiad hwn yn dangos gwrthdystiad dychmygol. Mae ymgyrchwyr yn cydio mewn arwyddion ffordd Cymraeg a baneri protest gyda sloganau megis 'Cyfiawnder.' Mae rhai o'r ymgyrchwyr yn cael eu llusgo o'r brotest gan yr heddlu. Fe aeth dros 180 aelod Cymdeithas yr Iaith i'r llys yn ystod y protestiadau, ac fe garcharwyd rhai ohonynt, gan gynnwys Dafydd Iwan. Daeth arwyddion ffordd dwyieithog yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru ym 1993 gyda dyfodiad Deddf yr Iaith Gymraeg.

6. Mae Hen Wlad fy Nhadau (1975) gan Ogwyn Davies

'Mae Hen Wlad fy Nhadau…'/'Land of my fathers'

'Mae Hen Wlad fy Nhadau…'/'Land of my fathers' 1975

Ogwyn Davies (1925–2015)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae geiriau anthem genedlaethol Cymru wedi'u hysgrifennu ar wyneb plaster talpiog, yn ffurfio dawns rhythmig. Mae'r geiriau yn gorgyffwrdd ac wedi'u croesi allan mewn mannau, gan ei gwneud hi'n anodd eu darllen. Mae'r gwaith yn debyg i graffiti wedi'i grafu ar hen wal neu dudalen o lyfr ysgol. Roedd yr artist, Ogwyn Davies, yn athro yn Nhregaron ar y pryd.

Cymysgwyd y plaster gyda thywod a charreg leol, a llwch ceramig o stiwdio'r artist. Ysbrydolwyd ei arddull yn rhannol gan arddangosfa o waith yr artist Catalaneg, Antoni Tàpies yn Oriel Glynn Vivian ym 1974.

Ysgrifennwyd yr anthem genedlaethol gan y tad a'r mab Evan a James James ym Mhontypridd ym 1856. Dyma'r tro cyntaf i Ogwyn ddefnyddio'r anthem yn ei waith. Byddai'n dychwelyd at y geiriau a'u defnyddio fel motiff droeon wedi hyn. Fe ddisgrifiodd y profiad o fynychu gemau rygbi rhyngwladol a chlywed miloedd o bobl yn canu'r anthem genedlaethol yn un 'teimladwy dros ben.'

Steph Roberts, Golygydd Comisiynu Cymru, Art UK

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Betsan Powys 'Hanes boddi Tryweryn: 'Nid pawb sy'n cofio 'run fath' BBC Cymru Fyw, 4 Mawrth 2023

'Ymgyrchu dros arwyddion Cymraeg' BBC Cymru, 12 Rhagfyr 2012

Ceri Thomas Ogwyn Davies: Bywyd a Gwaith Y Lolfa, 2022

Elen Wyn 'Hiliaeth gan Gymry Cymraeg 'mewn bywyd bob dydd' BBC Cymru Fyw, 8 Tachwedd 2022

Gwefan Iwan Bala