Tua 17:04 ar 30 Medi 2024, dechreuodd pluen fawr o stêm godi o dop ffwrnais chwyth Rhif 4, y ffwrnais weithredol olaf yng Ngwaith Dur Port Talbot, de Cymru. Er nad oedd gweld stêm yn codi o'r gwaith dur yn olygfa anghyffredin, roedd yr achlysur hwn, fodd bynnag, yn wahanol. Wrth i'r cyflenwad defnyddiadwy olaf o haearn tawdd gael ei dapio neu ei echdynnu, roedd y bluen hon o stêm yn dynodi'r hoelen olaf yn arch cynhyrchu haearn – moment dyngedfennol yn hanes diwydiannol Cymru.

30th September, Blast Furnace No. 4, Port Talbot

30ain Medi, Ffwrnais Chwyth Rhif 4, Port Talbot

2024, ffotograff gan James Milne (g.1980), casgliad yr artist

Os oedd helmedau'r glowyr yn symbol o'r diwydiant glo, mae ffwrneisi chwyth wedi dod yn symbolau o'r diwydiant haearn a dur. Yn y gweithfeydd integredig, gweithredir y broses gyfan o gynhyrchu haearn i gynhyrchu dur cyn mynd ymlaen at brosesu disgynnol.

Tra bod enghreifftiau o ffwrneisi chwyth o arwyddocâd hanesyddol wedi cael eu diogelu yn y DU, megis yn Coalbrookdale, Swydd Amwythig (lle sefydlwyd Amgueddfa Haearn yn agos at ffwrnais chwyth hanesyddol Abraham Derby) neu Blaenafon yn ne Cymru, nid oes ymdrechion cyffelyb wedi bod i ddatblygu eu cyfatebwyr modern neu gyfoes fel asedau treftadaeth, yn enwedig yn y DU. Yn ogystal, mae'r problemau ehangach ynghylch etifeddiaeth treftadaeth y ffwrneisi chwyth wedi datblygu'n fwyfwy cymhleth yn sgil newid hinsawdd a'r trafodaethau sy'n parhau o gwmpas hynny.

Ar y llaw arall, mae artistiaid yn parhau i gael eu hysbrydoli gan y tirluniau a'r enghreifftiau o bensaernïaeth cynhyrchu haearn a dur sy'n dal ar ôl. Mae'r egwyddor beirianegol 'ffurf yn dilyn swyddogaeth' (form follows function) wedi creu ffurfiau cymhleth oedd yn denu artistiaid o fri, megis Graham Sutherland.

Tapping a Blast Furnace

Tapping a Blast Furnace 1941–2

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Tate

Fel artist rhyfel swyddogol (o 1941), creodd Sutherland gorff sylweddol o waith yng Ngwaith Haearn a Dur East Moors, Caerdydd. Fel gydag artistiaid eraill, câi ei ddenu at ddrama a dwysedd aruchel y broses o gynhyrchu haearn. Mae ei beintiad Tapio Ffwrnais Chwyth (1941/42), lle mae chwyrliadau o fwg du yn gwrthdaro â gwawl oren a melyn yr haearn tawdd wrth iddo dywallt o agoriad yn y ffwrnais, yn enghraifft dda o hyn.

Er bod nifer o ffwrneisi chwyth yn y DU eisoes wedi cael eu dymchwel – yr enghraifft fwyaf diweddar oedd y ffwrnais chwyth enfawr yn Redcar, ar lannau afon Tees yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, yn 2022 – mae artistiaid wedi pwysleisio eu perthnasedd diwylliannol a phensaernïol. Yr enghreifftiau mwyaf nodedig o hyn oedd Bernd a Hilla Becher, a aeth ati mewn modd systematig dros gyfnod o ddeugain mlynedd o 1959 ymlaen i dynnu ffotograffau o ffwrneisi chwyth (ymhlith mathau eraill o bensaernïaeth ddiwydiannol) ar draws Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Redcar Blast Furnace

Ffwrnais Chwyth Redcar

2022, ffotograff gan James Milne (g.1980), casgliad yr artist

Mae ffotograff du a gwyn a dynnwyd gan Bernd a Hilla Becher o dair ffwrnais chwyth Glyn Ebwy yn 1966, sy'n ymddangos yn eu cyhoeddiad Blast Furnaces (1990), yn tanlinellu eu meistrolaeth o dechneg ffotograffiaeth fformat-mawr a dynnai sylw nid yn unig at nodweddion unigryw a ffurfiau pob ffwrnais chwyth, ond hefyd at fanylion aneglur megis rhwydweithiau o bibau, ceblau, offer cynnal strwythurol, ac esgynyddion inclên ar gyfer llwytho deunyddiau crai.

Mewn arolwg diweddar o waith Bernd a Hilla Becher yn y Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd, yn 2022, roedd set deipoleg fawr o ffwrneisi chwyth yn ffurfio canolbwynt yr arddangosfa, gan ategu unwaith eto eu pwysigrwydd o fewn eu corff hwy o waith.

Ar y llaw arall, mae peintiad Nan Youngman, Gwaith Dur, Glyn Ebwy (1951), hefyd yn dangos teimladrwydd dwys tuag at ei phwnc – golygfa o simneiau, tyrau oeri wedi eu gwneud o bren, melinau, a chartrefi'r gweithwyr dur wedi eu hadeiladu ar lethrau serth y dyffryn.

Steelworks, Ebbw Vale

Steelworks, Ebbw Vale 1951

Nan Youngman (1906–1995)

Newport Museum and Art Gallery

Mae palet cyfyng a phriddlyd y peintiad yn uno'r cyfansoddiad dynamig. Mae'r ffwrnais chwyth (gyda dwy fraich letraws yn perthyn i graeniau, a simnai sgwâr, o bobtu iddi) yn ymddangos yn fregus a gor-simplistig, yn wahanol i ffotograffau Bernd a Hilla Becher o'r un ffurfiau.

Tra bod pobl ym mheintiad Nan Youngman yn ymddangos fel petaent yn gadael y gwaith dur neu'n ymlacio yn y stryd, mae peintiad Gwyn Davies, Shifft Nos, Port Talbot (1950au) yn dangos gweithwyr dur yn cerdded neu'n beicio tuag at bont rydlyd, a gwaith haearn Margam y tu ôl iddi.

Night Shift, Port Talbot

Night Shift, Port Talbot 1950s

Gwyn Davies (active c.1950–c.1960)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae'r tair ffwrnais chwyth, a leolir ar y chwith, yn ymgodi uwchben wrth aros i'r shifft nos gyrraedd. Mae Davies hefyd wedi pwysleisio graddfa a phersbectif y ffwrnais. Er iddynt gael eu dehongli'n gywir, mae'r ffwrneisi chwyth yn ymddangos fel amlinellau anhysbys mewn cymhariaeth ag awyr ddramatig, a gwisgoedd melyn y gweithwyr, ynghyd â lliwiau brown a rhwd hyfryd y bont haearn. Mae'r olygfa gyfan yn cynrychioli tirlun a newidiwyd yn llwyr gan ddiwydiant trwm.

Cafodd y tair ffwrnais chwyth ym Margam a beintiwyd gan Gwyn Davies eu disodli yn y 1950au gan enghreiffitiau oedd yn cynhyrchu llawer mwy o haearn – adwaenid hwy fel ffwrneisi Rhif 4 a Rhif 5. Llwyddodd yr artist a'r ffotograffydd Gawain Barnard i gyfleu ffurf neilltuol y ffwrnais chwyth Rhif 3 olaf un ym Margam yn ei ffotograff Heibio Gweithfeydd Dur Port Talbot (1998), a dynnwyd drwy ffenestr trên yn teithio'n gyflym.

Passing Port Talbot Steelworks

Heibio Gweithfeydd Dur Port Talbot

1998, ffotograff gan Gawain Barnard (g.1976), casgliad yr artist

Mae ffotograff ingol Barnard yn cynrychioli'r cipolwg sydyn ac aneglur a gaiff y rhan fwyaf o bobl – naill ai o drên neu o draffordd gyfagos yr M4 – wrth iddynt deithio drwy Port Talbot. Cafodd ffwrnais chwyth Rhif 3, yr olaf o ffwrneisi chwyth gwreiddiol Margam, ei dymchwel yn 2008.

Mae peintiad Charles Ernest Cundall, Ffwrnais Chwyth Rhif 5, Abbey Works, Margam (1959) – a gomisiynwyd gan gwmni a elwid ar y pryd yn Steel Company of Wales – yn cyfleu darlun optimistaidd o'r ffwrnais chwyth newydd, a oedd yn cynrychioli buddsoddiad ehangach yn y diwydiant dur ym Mhrydain yn y cyfnod hwnnw, fel y nodweddid ef gan y gweithfeydd integredig newydd yn Llanwern (1962) ger Casnewydd, Cymru, a Ravenscraig (1957) ger Motherwell yn yr Alban.

No. 5 Blast Furnace, Abbey Works, Margam

No. 5 Blast Furnace, Abbey Works, Margam 1959

Charles Ernest Cundall (1890–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae peintiad Cundall yn dangos ffwrnais chwyth Rhif 5 yn sefyll yn dalsyth ar y safle, a'i maintioli anferthol yn cael ei amlygu mewn cymhariaeth â'r gweithwyr dur sydd i'w gweld ar flaen y darlun.

Yn wahanol i waith Cundall, nid yw gwaith Catherine Yass, Dur: Ffwrnais Chwyth (1996) yn cynnig llawer o ymwybyddiaeth o raddfa na chyfrannedd. Ochr yn ochr â thystiolaeth o addasiadau strwythurol, yn enwedig i rannau isaf y strwythur, golygfa haniaethol yw gwaith Yass. Mae'r prosesau ffotograffig anghonfensiynol a ddefnyddir ganddi nid yn unig yn tynnu sylw at bensaernïaeth idiosyncratig y ffwrnais chwyth, ond hefyd at y grymoedd elfennaidd – sef gwres a phwysau – a gynhwysir oddi mewn iddi ac sy'n trawsnewid deunyddiau crai yn haearn tawdd.

Steel: Blast Furnace (Detail)

Steel: Blast Furnace (Detail) 1997

Catherine Yass (b.1963)

British Council Collection

Yn Dur: Ffwrnais Chwyth (1996), mae'r grymoedd elfennaidd hynny'n codi i'r wyneb wrth i ran isaf y ffwrnais loywi, gyda'r rhan uchaf – sy'n cael ei chuddio'n rhannol gan gymylau o fwg – yn ymestyn tuag at awyr lliw lelog a glas tywyll. Yn yr ystyr hwn, mae'r mewnol a'r allanol yn cael eu cyfuno mewn modd sy'n adleisio datganiad a wnaed gan Bernd a Hilla Becher, a ddywedodd fod 'y ffwrnais chwyth yn debyg i gorff heb groen. Mae ei pherfedd yn y golwg o'r tu allan; organau, rhydwelïau, a sgerbwd sy'n creu ei ffurf'. (Blast Furnaces, tud. 15)

Tra bod y lliw yng ngwaith celf Catherine Yass yn cynrychioli'r mewnol a'r allanol, yn The Cast House 2024, o waith y ffotograffydd pensaernïol Kenton Simons, mae lliw yn cynrychioli rhywbeth amgen.

The Cast House

The Cast House

2024, ffotograff gan Kenton Simons (g.1973), casgliad yr artist

Mae'r ffotograff yn cymharu â pheintiad Graham Sutherland, ond yn wahanol i waith Sutherland mae'r gweithwyr yn sgwrsio ger twll tap agored wrth i haearn tawdd dywallt o'r ffwrnais. Ochr yn ochr â'r gofod mewnol cymhleth, mae'r golau sy'n dod o wawl yr haearn tawdd yn cael ei bylu gan olau glasoer (artiffisial) y tu ôl i'r gweithwyr dur. Mae'r lliw glasoer hwn yn broffwydol. Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, byddai'r ffwrnais chwyth hon yn oeri a byth eto'n cael ei hailgynnau.

Wrth i Gymru goleddu dulliau amgen o gynhyrchu dur, a beth bynnag fydd dyfodol y ffwrneisi chwyth o gynllun modern sydd ar ôl yn y DU, mae'n amlwg eu bod wedi gweithredu fel ffynonellau pwysig o ysbrydoliaeth i artistiaid i'w galluogi i herio ac ehangu eu creadigrwydd, tra hefyd yn pwysleisio safle unigryw y ffwrneisi ym maes pensaernïaeth a chelf. Mae'r gweithiau celf a grëwyd yn rhoi cipolwg ar ffurf bensaernïol hynod gymhleth nas gwelir yn aml – fel yn y ffotograff gan Gawain Barnard – drwy ffenestr trên sy'n gwibio heibio.

James Milne, artist ac ymchwilydd

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Bernd a Hilla Becher, Blast Furnaces, Massachusetts Institute of Technology Press, 1990