Mae llawer o gasgliadau cyhoeddus wedi derbyn rhoddion a chymynroddion gan gasglwyr preifat. Ymhlith y casglwyr mwyaf hael ac arloesol roedd dwy Gymraes, y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies. Roedd eu cymynrodd i Gymru yn cynnwys un o'r grwpiau cyntaf a gorau ym Mhrydain o waith celf Argraffiadol ac Ôl-Argraffiadol Ffrengig. Aethant ati gyda'i gilydd i lunio'u casgliad, ond roeddent yn gwneud dewisiadau unigol, gan feddwl bob amser am les y cyhoedd a phobl Cymru.

Cafodd Gwendoline a Margaret – neu Gwen a Daisy – ynghyd â'u brawd David fagwraeth warchodol ond breintiedig ym Mhlas Dinam, Llandinam (Powys). Roeddent yn wyresau i David Davies, Llandinam, peiriannydd eithriadol lwyddiannus a wnaeth ei ffortiwn mewn diwydiant.

David Davies (1818–1890)

David Davies (1818–1890) 1893

Alfred Gilbert (1854–1934) and Broad & Son

A470, Llandinam, Powys

Roedd y teulu'n Fethodistiaid Calfinaidd ac yn gapelwyr selog. Roedd ganddynt gydwybod gymdeithasol gref a châi'r chwiorydd ddim mynd i ddawnsfeydd nac yfed alcohol. Roedd y ddwy'n ddibriod a buont yn byw yn y canolbarth ar hyd eu hoes, gan symud gyda'i gilydd i Gregynog yn y pen draw. Eu gobaith oedd gwireddu eu huchelgais o sefydlu canolfan gelfyddydol – canolfan oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, celfyddyd a dysg.

Summer, Gregynog

Summer, Gregynog 1991

Brian E. Jones (b.1948)

Gregynog Hall

Pan oeddent yn 25 oed, derbyniodd Gwendoline a Margaret gyfran yr un o ffortiwn y teulu. Roeddent yn eithriadol o gyfoethog. Bu'r ddwy'n teithio ledled Ewrop a'r tu hwnt a dyma pryd y datblygodd eu dealltwriaeth soffistigedig o gelf. Bu Margaret ar gwrs hanes celf yn Dresden yn 1907–1908 ac mewn dosbarthiadau yn y Slade. Bu hi'n ysgythru pren a bu'n paentio trwy ei hoes. Bu Gwendoline yn astudio celf ar ei theithiau hefyd, a chyfieithodd ddarnau am artistiaid a oedd o ddiddordeb iddynt o'r Ffrangeg i'r Saesneg.

Venice

Venice

Margaret Sidney Davies (1884–1963)

Gregynog Hall

Y chwiorydd eu hunain oedd yn dewis pa weithiau i'w casglu. Fel yr ysgrifennodd Gwendoline, 'Gwneud y dewis eich hun sy'n rhoi'r llawenydd mwyaf wrth gasglu unrhyw beth – gyda barn arbenigol, mae'n wir, ond mae yn braf dewis drosoch eich hun.'  Bu ganddynt gynghorwyr ar y daith, yn cynnwys yr artist Murray Urquhart ac yn bwysicaf oll Hugh Blaker, brawd eu governess, Jane. Roedd Blaker yn artist, yn guradur Amgueddfa Holburne, ac yn fasnachwr a beirniad celf. Roedd yn frwd dros gelf fodernaidd. Byddai'n cynghori'r chwiorydd ac weithiau'n gweithredu ar eu rhan mewn arwerthiannau ac orielau.

Self Portrait

Self Portrait 1906

Hugh Oswald Blaker (1873–1936)

Worthing Museum and Art Gallery

Hyd y gwyddom, yn 1906 y prynodd y chwiorydd eu darlun cyntaf – llun dyfrlliw gan Hercules Brabazon Brabazon.  Dechreusant gasglu o ddifrif yn 1908, gan wario symiau sylweddol o arian. Yn ystod pedair blynedd gyntaf eu casglu, prynwyd gweithiau gan artistiaid o Brydain a Ffrainc a oedd, yn aml, yn adlewyrchu'r gweithiau a welsant mewn orielau Ewropeaidd fel y Louvre. Prynwyd gweithiau gan Corot, yn cynnwys Castel Gandolfo. Roedd Margaret wedi edmygu paentiadau Corot yn y Louvre, gan werthfawrogi'r 'golau hardd sydd ynddynt i gyd, a'r meddalwch, a'r cyffyrddiad o liw a ddaw o'r ffigurau.'

Castel Gandolfo, Dancing Tyrolean Shepherds by Lake Albano

Castel Gandolfo, Dancing Tyrolean Shepherds by Lake Albano 1855–1860

Jean-Baptiste-Camille Corot (1796–1875)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn 1908, daeth gweithiau gan Turner i'w meddiant am y tro cyntaf. Gadawodd y chwiorydd 15 o baentiadau a lluniau dyfrlliw o waith Turner i Gymru, yn cynnwys Yr Oleufa (The Beacon Light). Roedd pobl yn talu prisiau mawr am waith Turner a gwariodd y chwiorydd Davies lawer mwy ar ei weithiau ef nag ar lawer o baentiadau'r Argraffiadwyr.

The Beacon Light

The Beacon Light c.1835–1845

Joseph Mallord William Turner (1775–1851)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd Millet yn ffefryn arall. Llwyddwyd i gasglu grŵp eithriadol o weithiau ganddo ef, yn cynnwys Bugeiles yn ei Heistedd, Y Teulu Gwerinol , a Gaeaf, Y Casglwyr Ffagodau (Winter, The Faggot Gatherers).

Winter, The Faggot Gatherers

Winter, The Faggot Gatherers 1868–1875

Jean-François Millet (1814–1875)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn 1912 dechreuodd eu casglu ddilyn trywydd newydd nodedig. Fel yr ysgrifennodd Hugh Blaker: '[Rwyf] wrth fy modd eich bod yn ystyried cael rhai enghreifftiau o waith yr Argraffiadwyr o 1870. Ychydig iawn o gasglwyr o Loegr … sydd wedi eu prynu o gwbl.'  Roedd y chwiorydd yn prynu gwaith celf Argraffiadol cyn iddo ddechrau cael ei werthfawrogi na'i arddangos yn eang ym Mhrydain – penderfyniad anarferol.

San Giorgio Maggiore

San Giorgio Maggiore 1908

Claude Monet (1840–1926)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

San Giorgio Maggiore gan Monet oedd un o'r darnau Argraffiadol cyntaf i Gwendoline ei brynu, gan adlewyrchu hoffter y chwiorydd o Fenis. Roedd Monet yn un o'u hoff artistiaid ac fe adawsant wyth paentiad ganddo i Gymru, yn cynnwys Pont Charing Cross a thri o'i baentiadiau o lilïau'r dŵr.

Waterlilies

Waterlilies 1908

Claude Monet (1840–1926)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Penderfyniad arloesol arall ar y  pryd oedd prynu Menyw a Phlentyn mewn Dôl yn Bougival o waith Berthe Morisot. Am flynyddoedd, hwn oedd yr unig ddarn gan artist o fenyw yng nghasgliadau'r chwiorydd.

Woman and Child in a Meadow at Bougival

Woman and Child in a Meadow at Bougival 1882

Berthe Morisot (1841–1895)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn 1913 prynodd Gwendoline y paentiad La Parisienne gan Renoir. Erbyn hyn, y darlun eiconig hwn yw darn enwocaf casgliad y chwiorydd Davies. Roedd i'w weld yn yr arddangosfa gyntaf o waith Argraffiadol yn 1874 ac mae pobl Cymru'n cyfeirio'n annwyl at y llun fel Y Fenyw Las.

La Parisienne

La Parisienne 1874

Pierre-Auguste Renoir (1841–1919)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Er bod y chwiorydd yn ymroi i waith elusennol yn ystod y rhyfel, roeddent yn dal i gasglu. Roedd Gwendoline yn gwirfoddoli gyda'r Groes Goch Ffrengig. Tra oedd yn helpu i redeg ffreutur yn Troyes, bu ar ymweliad â Pharis a phrynu paentiadau o orielau fel Bernheim-Jeune, yn cynnwys eu darnau cyntaf o weithiau gan Cézanne.

The François Zola Dam

The François Zola Dam 1878–1879 or 1883–1884

Paul Cézanne (1839–1906)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Gan fod ymosodiadau cyson ar Baris, cludwyd darlun Cézanne, Argae François Zola yn syth yn ôl i Brydain a chafodd ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghaerfaddon ar unwaith. Roedd y chwiorydd yn rhoi benthyg eu gweithiau yn aml i arddangosfeydd ledled y Deyrnas Unedig. Cynigwyd rhoi benthyg Argae François Zola a Bywyd Llonydd â Thebot i'r Tate, ond fe'u gwrthodwyd i ddechrau gan arwain at ddadl gyhoeddus. Pan gawsant eu derbyn yn y pen draw, yn 1922, roeddent ymhlith y gweithiau cyntaf gan Cézanne i gael eu harddangos mewn oriel genedlaethol ym Mhrydain.

Still Life with a Teapot

Still Life with a Teapot 1902–1906

Paul Cézanne (1839–1906)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn ôl yng Nghymru, bu'r teulu Davies yn annog artistiaid, beirdd a cherddorion a oedd ar ffo o Wlad Belg i ddod i Gymru. Yn eu plith roedd y cerflunydd George Minne, a Valerius de Saedeleer.  Fe wnaethon nhw eu cynnal a phrynu rhai o'u gweithiau.

Winter Landscape, Aberystwyth

Winter Landscape, Aberystwyth c.1916

Valerius de Saedeleer (1867–1941)

Gregynog Hall

Yn 1920 prynodd Gwendoline waith nodedig arall, Glaw, Auvers gan Vincent van Gogh. Paentiwyd ef ychydig ddyddiau cyn i'r artist farw ac mae'n un o'r gweithiau cyntaf ganddo i fod yn rhan o gasgliad Prydeinig.

Rain, Auvers

Rain, Auvers 1890

Vincent van Gogh (1853–1890)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Rhoddodd Gwendoline y gorau i gasglu yn 1926. Aeth llawer o sylw'r chwiorydd i waith dyngarol ac i'w cartref, Gregynog. Ond daliodd y ddwy ati i gefnogi celf yng Nghymru. Roeddent yn arbennig o gefnogol i Augustus John a chasglwyd nifer dda o'i baentiadau, ei luniau dyfrlliw a'i brintiau. Mae'n ddiddorol nodi na phrynodd y naill na'r llall waith gan ei chwaer, Gwen John.

Head of Dorelia McNeill (1881–1969)

Head of Dorelia McNeill (1881–1969) c.1911

Augustus Edwin John (1878–1961)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Yn 1951, daeth rhan Gwendoline o'r casgliad celf yn gymynrodd i Amgueddfa Cymru, gan drawsnewid casgliad cenedlaethol Cymru.

Ailddechreuodd Margaret gasglu yn 1934 gan ddal ati tan y flwyddyn cyn iddi farw. Canolbwyntiodd y tro hwn ar waith celf Prydeinig yr 20fed ganrif, yn cynnwys Harbwr Brown gan Terry Frost. Roedd ei golygon hi, wrth gasglu, ar sicrhau casgliad cyhoeddus, cenedlaethol i Gymru.

Brown Harbour

Brown Harbour 1952

Terry Frost (1915–2003)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Gadawyd y rhan fwyaf o gasgliad Margaret i Amgueddfa Cymru yn 1963, gan aduno ei chasgliad hi â chasgliad ei chwaer. Cynigwyd gwerthu gweithiau eraill yng nghasgliad Margaret i Brifysgol Cymru, ac mae rhai'n dal i'w gweld yn Neuadd Gregynog.

Heddiw, mae gan Gymru gasgliad celf cenedlaethol o bwysigrwydd rhyngwladol, a hynny i raddau helaeth oherwydd gwaith casglu arloesol a haelioni Margaret a Gwendoline Davies. Cafodd eu hangerdd dros gelfyddyd effaith wironeddol ryfeddol ar fywyd diwylliannol Cymru.

Beth McIntyre, curadur a hanesydd celf

Hoffem gydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r Arglwydd David Davies, Llandinam a fu farw ym mis Chwefror eleni. Roedd yn or-nai i'r chwiorydd Davies ac yn hael a mawr ei ofal mewn perthynas â'u gwaddol

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Ann Sumner, Goleuni a Lliw: 50 o weitihau Argraffiadol yr Amgueddfa, 2005

Bethany McIntyre, Chwaeth y Chwiorydd: Gweithiau ar Bapur o Gasgliad Davies, 2000

Trevor Fishlock, A Gift of Sunlight: The fortune and quest of the Davies sisters of Llandinam, 2014