Ysgrifennwyd y traethawd hwn ar gyfer y gystadleuaeth Write on Art 2018, gan ennill y wobr gyntaf yn y categori Blynyddoedd 10 ac 11.
Dychmygwch yr olygfa. Mae'n ddiwrnod gwlyb o Chwefror, yn ne Cymru. Rydych yn troi oddi ar draffordd yr M4, ac yn teithio bum milltir i lawr yr heol i Abertawe. Gan ddianc o'r diflastod gwlyb, rydych yn camu i mewn i Neuadd y Brangwyn – adeilad wedi'i godi o gerrig Portland cerfiedig – ac yno, o'ch blaen, y mae 3,000 troedfedd sgwâr o liw.
Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig yw'r rhain. Un ar bymtheg o fyrddau hardd wedi eu peintio'n gywrain â phaent olew, pob un yn 6.09 metr o uchder a 3.96 metr o led, yn addurno waliau Neuadd y Ddinas, Abertawe. Maen nhw'n anhygoel; mewn gwirionedd, dylai'r llu o siapiau astrus sydd wedi'u gwasgaru ar hap ar draws y cynfasau ennyn teimlad o anesmwythyd. Ac eto, ni ellir gwadu bod yma deimlad o dangnefedd.
Gadewch i ni edrych yn fanylach ar rif 11. Mae Brangwyn yn defnyddio paled eang, gydag ystod o arlliwiau disglair indigo a gwyrddlas, gan greu portread bywiog, ecsotig o'r India. Mae'n defnyddio'i frwsh paent mewn modd organig, a llinellau llyfn, i greu siapiau naturiol, trawiadol, megis yr aderyn ar dde uchaf y darlun a'r planhigion sy'n treiddio drwy'r darn.
Mae'r darlun yn syfrdanol, gyda'r defnydd mentrus o liw, y cyfansoddiad prysur ond cydnaws, a'r graddfeydd o arlliwiau, yn cyfuno i greu gwyrth artistig.
Ond mae 'na hefyd ystyr ddyfnach i'r stori. Yn 1926, comisiynwyd Brangwyn gan yr Arglwydd Iveagh i beintio gwaith ar gyfer yr Oriel Frenhinol yn Nhŷ'r Arglwyddi, i goffáu'r arglwyddi hynny a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr hyn a beintiodd Brangwyn oedd dau ddarlun mawr yn cyfleu rhyfel, a'r rheiny'n cynnwys delweddau o filwyr yn mynd i'r gad.
Cafodd yr Arglwyddi eu hanesmwytho gan y darluniau; yn eu barn hwy roedden nhw'n annymunol, a chawsant eu gwrthod. Yn lle hynny, gofynnwyd i Brangwyn gynhyrchu darn yn dathlu ysblander yr Ymerodraeth Brydeinig. Er gwaetha'r sensoriaeth, treuliodd bum mlynedd o'i fywyd yn peintio Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig.
Ond, unwaith eto, cafodd y gwaith ei wrthod. Trodd yr Arglwyddi eu cefn ar y paneli, gan honni eu bod 'yn rhy lliwgar a bywiog' ar gyfer y lleoliad a fwriadwyd ar eu cyfer. Effeithiwyd yn fawr ar Brangwyn o ganlyniad i gael ei wrthod am yr eildro; dioddefai o iselder ysbryd, ac erbyn ei farwolaeth yn 1956 yr oedd, i bob pwrpas, yn feudwy.
Rwy'n teimlo bod gen i berthynas agos â'r peintiadau. A minnau'n Indiad Prydeinig, mae'r Ymerodraeth Brydeinig – a'r effaith a gafodd ar wlad fy nghyndeidiau – yn bwysig i mi. Teimlaf gysylltiad â'r ystod syfrdanol o ddiwylliant – y diwylliant rwyf wedi ei brofi drosof fy hun ar fy nheithiau i'r India. Yn drist iawn, mae'r is-destun melancolaidd sy'n gorwedd y tu ôl i'r ffasâd o rwysg a hudoliaeth yn rhywbeth arall sy'n gysylltiedig â'r boen a ddaeth y sgil yr Ymerodraeth Brydeinig.
A thrwy gyfrwng celf rwyf innau wedi ymgysylltu â'r rhan hon o 'nhreftadaeth.
Abhimanyu Gowda
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru