Ganwyd Penry Williams yn 1802 ym Merthyr Tudful, de Cymru, ar aelwyd ddistadl iawn. Yn sgil ei allu celfyddydol naturiol a'i angerdd at natur, cafodd sylw cynyddol, ac wrth i'w enw da ymledu, dechreuodd dderbyn comisiynau ar gyfer pobl leol mwyfwy amlwg.
Pan oedd e'n 17 oed, daeth i sylw William Crawshay, meistr haearn Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa. Gyda chefnogaeth gymdeithasol ac ariannol meistri haearn Merthyr Tudful, derbyniwyd Williams fel myfyriwr yn yr Academi Frenhinol ar 4ydd Ebrill 1822. Daeth mwy o bobl i gydnabod ei ddawn, gyda Syr Thomas Lawrence, J. M. W. Turner, a John Nash (y byddai Williams yn cydweithio ag ef yn nes ymlaen) ymysg y rhai oedd yn talu sylw i allu'r artist ifanc. Yn 1826, ymgartrefodd Williams yn Rhufain, a threuliodd weddill ei fywyd a'i yrfa yno.
Yng nghasgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, ceir dau baentiad cynnar a briodolir i William sydd bron union yr un peth, yn dal yr olygfa wrth i Fyddin Sirol Morgannwg fynd i mewn i'r dref i'w hadfeddiannu oddi wrth y pwdleriaid a'r gofaint oedd yn terfysgu ym mis Hydref 1816. Mae'r paentiadau hyn o weithwyr, milwyr a stryd fawr ffyniannus Merthyr Tudful yn dangos manylder y sylw oedd gan Williams o'i dref enedigol – o'r tirlun manwl i ddail yr hydref ar y goeden fawr ynghanol y paentiad.
Ers agor Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ym mis Ebrill 1910, mae gwaith Penry Williams ar y waliau ochr yn ochr ag atgof – sydd dal i fod yno heddiw – i bob ymwelydd: 'Nid yw'r lluniau yno i addurno'r waliau, ond er eich budd chi. Mwynhewch nhw wrth fodd eich calon.'
Benjamin Price, Swyddog Dehongli, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru