Yn y gyfres 'Saith cwestiwn gyda...' Mae Art UK yn siarad gyda rhai o'r artistiaid newydd a sefydledig fwyaf cyffrous sy'n gweithio heddiw.

Mae gwaith Anya Paintsil yn mynnu sylw. Mae ei thecstilau awgrymus yn nodedig yn eu gwreiddioldeb a'u defnydd ffres o gyfrwng sydd yn aml wedi cael ei ddiystyru.

Mae gwaith Anya – yn drosiadol ac yn fateryddol – yn talu teyrnged i'w hetifeddiaeth Gymreig a Ghanaiaidd. Gyda theitlau gan amlaf yn y Gymraeg a'i ffocws ar ffigyrau Du, mae ei gwaith yn herio'r rhagdybiaethau sy'n dweud bod Cymreictod cyfystyr â bod yn wyn. Mae hi'n defnyddio hiwmor fel ffordd i apelio at y gwyliwr, ond hefyd i gyfleu amwysedd tywyll.

God will punish him

God will punish him (Bydd Duw yn ei gosbi)

2021, tecstilau gan Anya Paintsil (g.1993)

Yn enedigol o Wrecsam, ond bellach yn byw rhwng Manceinion a Chaer, mae gwaith Anya yn defnyddio technegau bachu rýg hanesyddol a drosglwyddwyd iddi gan genedlaethau o Gymraësau ei theulu, tra ar yr un pryd yn dathlu arloesedd steilio gwallt Du a gwallt Affro. Mae gwallt yn fotiff canolog yng ngwaith Anya, ac, yn benodol, y goblygiadau diwylliannol a gwleidyddol o gael gwallt Affro mewn gwlad sy'n bennaf yn wyn. Drwy dorri ei gwallt ei hun yn aml, er mwyn ei ddefnyddio yn ei gwaith, mae Anya yn plethu ei hun – yn llythrennol ac yn symbolaidd – i mewn i'r defnydd.

Yn hanesyddol mae brodwaith a thecstilau wedi'i ddiraddio i'r cartref ac i ofodau benywaidd, ac mae Anya yn cyfeirio yn benodol at hyn. Ond mae hi hefyd yn cyfeirio at y presennol, gan herio'r rhagdybiaethau sy'n perthyn i ddiwylliant cyfoes. Er enghraifft y syniad nad yw gwallt (ac yn benodol gwallt Affro) yn perthyn ar waliau orielau celf gyfoes, a'r rhagdybiaeth ni ellir ystyried steilio gwallt Affro fel ffurf gelf 'uchel'.

Efallai bod ei gwaith yn ymddangos yn ddymunol ac yn feddal, ond mae potensial o ddyrnod gwleidyddol ynddynt, sy'n parhau ymhell ar ôl gweld y gwaith am y tro cyntaf. Siaradais gyda'r artist er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'i hymarfer. Sgroliwch i lawr i ddarllen y cyfweliad.

For Levi, Beware the Woman Dog and Her Babies

For Levi, Beware the Woman Dog and Her Babies 2021

Anya Paintsil (b.1993)

Glynn Vivian Art Gallery

Lydia Figes, Art UK: Pryd a sut cafodd dy arddull nodedig ei wireddu?

Anya Paintsil: Gwireddwyd elfennau gwahanol o'm gwaith ar adegau gwahanol. Megis y ffordd rydw i'n ffocysu ar y corff, gan ddychmygu'r 'hun' drwy hunan-bortreadaeth, neu'r ffordd rwy'n dewis ffigyrau a mynegiant yr wyneb. Mae portreadau o bobl rwy'n eu 'nabod wedi bod yn gyson yn fy ngwaith, ac yn gyffredinol mae'r themâu wedi parhau'r un peth – roedd y diddordeb yna cyn i mi gychwyn ar gelf yn broffesiynol.

Ni astudiais gelf yn yr ysgol, dim ond ar ôl mynd i'r brifysgol gychwynnais ei hastudio. Ond roedd celf yng nghefndir fy mywyd o hyd, ac yn rhywbeth yr oeddwn am ei gadw'n breifat. Yn 23 mlwydd oed, roeddwn i'n awyddus i astudio celf o ddifri. Ond bryd hynny doedd gen i ddim y cymwysterau i fynd i'r brifysgol, felly es ati i greu portffolio – sylweddolais fod raid i mi oresgyn yr ofn oedd gen i o ddangos fy ngwaith i bobl, os oeddwn i am ddatblygu. Datblygodd fy ngwaith i'r hyn a welir heddiw yn y flwyddyn cyn i mi fynd i'r ysgol gelf, yn enwedig yn fy nefnydd o wallt a thechneg bachu rýg, techneg a ddysgais gan fy nain yn ystod fy magwraeth yng ngogledd Cymru.

Anya or Anum

Anya neu Anum

2020, acrylig, gwlân, gwallt dynol, gwallt kanekalon ar hesian gan Anya Paintsil (g.1993)

Derbyniais addysg cyfrwng Cymraeg, ac roeddwn i'n un o nifer fechan o ddisgyblion hil-gymysg yn fy ysgol. Roedd bron pawb yn wyn, a ni wyddai unrhyw un sut i drin gwallt Affro. Ni wyddai mam (sy'n wyn) sut i drin gwallt Affro. Aeth hi â ni (fy chwaer a minnau) i lefydd pell, megis Manceinion a Chaer i gael trin ein gwallt. Ond mae'n ddrud i gael brediau. Pa oeddwn i tua naw oed fe ddysgais sut i ddatod brediau, sut i wneud iddynt edrych yn daclus unwaith eto a'u hail-ddefnyddio. Yn ddiweddarach fe wyliais fideos ar YouTube yn dangos sut i blethu gwallt Affro. Dyma sut gychwynnais arbrofi gyda fy ngwallt fy hun. Sylweddolais bod technegau gwallt Du a'r technegau bachu rýg a ddysgais gan fy nain, yn rhannu dipyn yn gyffredin. Roedd o ddiddordeb mawr i mi bod technegau a theclynnau tebyg yn cael eu defnyddio at ddibenion gwbl wahanol gan gymunedau gwahanol.

Mae gwreiddiau bachu rýg yn amwys, ond fe dyfodd yn boblogaidd a chafodd batent yn America yn ystod y deunawfed ganrif. Fe ddaeth i'r amlwg yn y DU ymhlith gweithwyr melinau Swydd Efrog yn ystod y chwyldro diwydiannol, gweithwyr a oedd yn rhy dlawd i brynu tapestrïau neu frodweithiau ar gyfer eu cartrefi. Byddant yn casglu tameidiau ac edafedd ac yn creu tecstilau mwy drwy ddefnyddio techneg bachu rýg. Erbyn hyn fe'i ystyrir yn hobi i 'hen wragedd' neu 'hen wragedd fferm'. Ond mae'n gysylltiedig â'r dosbarthiadau gweithiol ym Mhrydain ac mae ganddo draddodiad hir yn fy nheulu i yng ngogledd Cymru ac Ynys Môn. Mae'n grefft sy'n teimlo'n agos iawn i mi a'm diwylliant.

Anya Paintsil

Anya Paintsil

Lydia: Mae gwallt yn thema a chyfrwng canolog yn dy waith. Wyt ti'n teimlo bod hyn yn beth personol neu wleidyddol, neu'n dipyn o'r ddau?

Anya: Daeth y penderfyniad i ddefnyddio fy ngwallt fel defnydd yn fy ngwaith o'r awydd i gael pobl i ailfeddwl yr hyn y maent yn ei ystyried yn 'gelf' neu'r hyn a allai fod yn gelf. Mae cryn dipyn o snobyddiaeth pan ddaw at ddeunyddiau, ac yn hanesyddol mae gwaith sy'n seiliedig ar grefft wedi'i diarddel i waelod yr hierarchaeth. Yn anffodus, nid cyd-ddigwyddiad oedd hi fod crefft a chelfyddyd gymhwysol – fel arfer wedi'i greu gan fenywod – yn cael ei ddiystyru.

Felly, yn wir, ar y naill law mae yna gymhelliad gwleidyddol i ddefnyddio fy ngwallt fy hun fel defnydd mewn gwaith sy'n seiliedig ar grefft. I fenywod Du mae steilio gwallt yn rhan fawr o'n bywydau – ac wrth dyfu i fyny rydym yn dod i ddeall bod gan bawb farn ar wallt Du. Rydyn ni'n teimlo bod pobl yn craffu arnom ni. Pan oeddwn i yn fy arddegau teimlais embaras yn gwisgo fy ngwallt allan yn gyhoeddus, hyd yn oed tan fy ugeiniau cynnar. Roedd pobl yn gwneud i mi deimlo'n hyll am fod gen i wallt Affro. Cefais sawl profiad cas pan fyddai pobl yn gwneud sylwadau neu'n cyffwrdd â fy ngwallt.

Mae steilio gwallt Affro yn beth mor gywrain, hardd a medrus – brediau, twist a chlymau. Mae yna arloesi tu cefn i'r steilio gwallt, ond yn anffodus fwy aml na pheidio, mae'n cael ei ddiystyru fel gweithred o goluro personol, yn hytrach na chrefft greadigol a phrydferth. Mae'r weithred o dorri a defnyddio fy ngwallt i fy hun yn un personol ond hefyd yn wleidyddol, yn yr ystyr mae'r gymuned Ddu yn aml yn rhoi llawer o bwysigrwydd ar gael gwallt hir, neu mae'r gymdeithas ehangach yn ystyried gwallt hir i fod yn fwy 'benywaidd'. Ar y cyd a drwy fy ngwaith, rydw i wedi bod ar daith bersonol gyda fy ngwallt.

Lydia: Drwy ddefnyddio gwallt fel defnydd yn dy waith ac yna arddangos y gwaith mewn oriel gelf, rwyt yn anfon neges bod angen i dy wallt di, fel rhan o waith celf, gael ei barchu, a ni ddylid ei gyffwrdd. A wyt ti'n chwarae gyda'r ddeinameg pŵer o edrych a chyffwrdd?

Anya: Mae'r ffaith fy mod yn medru dangos fy ngwaith mewn cyd-destun oriel yn herio'r hawl y mae rhai'n ei deimlo sydd ganddynt – nid yw'r gwylwyr bellach yn teimlo bod yr hawl ganddynt i gyffwrdd neu ddal yn fy ngwallt, gan ei fod bellach wedi'i drawsffurfio yn 'gelf'.

Lydia: Fel cyfrwng, beth mae tecstilau'n dy alluogi di i'w wneud neu'i gyfleu, sy'n wahanol i gyfryngau eraill?

Anya: Dw i ddim yn meddwl yr hoffwn i weithio mewn unrhyw gyfrwng arall, achos mae tecstilau yn rhan enfawr o gysyniad fy ngwaith. Ni allai fy ngwaith fodoli mewn unrhyw gyfrwng ond am decstilau, ac ni faswn eisiau iddo fodoli mewn unrhyw gyfrwng arall. Mi rydw i'n creu darluniau a phaentiadau paratoadol – fel arfer dyfrlliwiau bychain. Dyma sut rwy'n datblygu syniad.

Whatever you say squidward

Be bynnag ddwedi di squidward

2021, acrylig, gwlân, gwallt dynol, gwallt kanekalon ar hesian gan Anya Paintsil (g.1993)

Mae fy ngwaith mwyaf diweddar, Be bynnag ddwedi di squidward, yn dangos fi a fy chwaer. Bob tro rwy'n edrych arno, mae'n gwneud i mi chwerthin. Dw i'n meddwl bod y ffaith mai tecstilau yw'r cyfrwng yn ei wneud yn fwy doniol. Dw i'n falch bod hiwmor ynddo, achos mae'n cyfeirio at gyfnod fwy tywyll o'm mhlentyndod. Mae'r gwaith yn ymwneud â chael ein pŵer yn ôl fel plant; fe ddefnyddiom hiwmor i ymladd yn ôl.

Lydia: Mae teitlau dy waith yn aml yn Gymraeg. Wyt ti'n gallu dweud rhagor wrthon ni ynglŷn â'r penderfyniad i gadw'r teitlau yn Gymraeg?

Anya: Mae gan rai darnau o waith deitlau Cymraeg gan eu bod yn seiliedig ar hiraeth ac atgofion fy mhlentyndod. Maent yn perthyn i'm mhrofiadau o dyfu i fyny yng Nghymru.

Ni yn unig oedd y gwaith cyntaf i mi roi teitl Cymraeg iddo. Mae'n dangos fi a fy chwaer ar gefndir sydd yn gwbl wyn gydag ambell frychni pinc a brown a rhannau o wynebau sydd wedi'u gorliwio. Nod y gwaith yw dangos y profiad o fod yn berson hil-gymysg mewn amgylchfyd sy'n hynod o wyn. Roedden ni bob amser yn teimlo'n wahanol ac allan o le.

Ni yn unig

Ni yn unig

2020, acrylig ‘punch-needled', cotwm a gwallt dynol ar hesian gan Anya Paintsil (g.1993)

Fe roddais deitlau Cymraeg i ddarnau eraill gan eu bod yn seiliedig ar atgofion. Er enghraifft, Mam, Mair a fi (2020), yn ogystal â Mair yn y Cylch Meithrin. Fy chwaer yw'r ffigwr, yn crio yn y feithrinfa ac yn dal ei thegan, hwyaden o'r enw 'Floppy'. Rydw i'n cofio adeg yn fy mywyd pan oeddwn yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae llawer o fy ngwaith yn seiliedig ar hen ffotograffau, yn enwedig o ran mynegiant ac ystumiau'r wyneb.

Mair at Cylch Meithrin

Mair at Cylch Meithrin 2020

Anya Paintsil (b.1993)

Glynn Vivian Art Gallery

Rydw i'n hoff o gyfuno'r Gymraeg gyda fy ffigyrau, sydd oll yn bobl o liw. Tan i mi fod yn 18 oed (pan adawais i Gymru) byddai pobl yn gwrthod fy nghredu pan fyddwn yn dweud fy mod yn dod o Gymru. Nid oeddent yn gallu deall bod person hil-gymysg yn gallu dod o Gymru.

Mae perchnogi'r Gymraeg yn fy ngwaith yn ffordd o warchod fy hunaniaeth Gymreig, gan fod cynifer o bobl wedi'i gwestiynu ar hyd fy oes. Iddyn nhw, mae Cymreictod cyfystyr a bod yn wyn, ond y gwir yw, mae gan Gymru un o'r cymunedau Du hynaf yn Ewrop. Er enghraifft, yn Nhrebiwt (sydd hefyd yn cael ei alw'n 'Tiger Bay') yng Nghaerdydd mae yn gymuned Somali yn enedigol o Brydain, sydd wedi bod yno ers y ddeunawfed ganrif.

Lydia: Wyt ti'n dilyn unrhyw ddefodau yn y stiwdio?

Anya: Dw i ddim yn hoffi siarad ag unrhyw un yn y bore. Mae hyn, mwy na thebyg yn ymwneud â'r ffaith bod gen i awtistiaeth. Os ydi rhywun yn dod i fy ngofod personol yn y bore, dwi'n teimlo'n grac. Dw i angen bod ar fy mhen fy hun. Nid wy'n yfed coffi, dim ond te. Fe ai i'r stiwdio (sef yr ystafell sbâr ar hyn o bryd) a chael brecwast yno wrth i mi weithio. Dw i fel arfer yn gweithio tan 2 neu 3 o gloch y bore.

Lydia: Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i artistiaid ar gychwyn eu taith?

Anya: Gwnewch yr hyn yr ydych chi am ei wneud. Peidiwch ag oedi (dyna fy mhrif her i).

Oherwydd fy awtistiaeth, un o fy heriau mwyaf yw siarad o flaen pobl eraill, yn enwedig oherwydd bod fy ngwaith i mor bersonol. Erbyn hyn dw i'n eithaf da am guddio fy awtistiaeth fel nad yw pobl yn gwybod o reidrwydd fy mod yn niwrowahanol. Ond rydw i wedi ymarfer llawer ac yn ysgrifennu pethau, er mwyn cyrraedd man lle rwy'n gallu siarad yn hyderus am fy ngwaith. Felly dyna fyddai fy nghyngor: peidiwch â bod ofn dangos eich gwaith ac os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu, yna cofiwch ymarfer nes eich bod yn datblygu'r hyder.

Lydia Figes, Golygydd Cynnwys Art UK

Cynrychiolir Anya Paintsil gan Ed Cross Fine Art ac roedd ganddi sioe unigol yn y Glynn Vivian, Abertawe tan 31ain o Hydref 2021. Roedd hi hefyd yn rhan o arddangosfa 'Bold Black British' yn Christie's ac roedd ganddi waith yn 'Maker's Eye: Stories of Craft' yn Oriel Cyngor Crefft, Llundain tan 9fed o Hydref, a 'Hapticity: A Theory of Touch and Identity', yn Lychee One, Llundain tan 30ain o Hydref 2021.

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg