Yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae tri thirlun gan yr awdur a'r arlunydd Robert Morgan na wyddai llawer o neb amdanynt. Yng nghefndir pob un mae bryniau tonnog, gydag offer pen pwll glo yn codi uwchlaw adeiladau gwyn unffurf yn y blaendir. Maent yn cyfleu hanfod tref lofaol yng Nghymru tua chanol y ganrif ddiwethaf, ond maent hefyd yn creu tableau hunangofiannol o fywyd Morgan.
Ganed Morgan i deulu o lowyr yn 1921. Aeth yntau i weithio yng nglofa Cwm Aberdâr pan oedd yn ddim ond pedair ar ddeg oed ac aros yno hyd nes oedd yn 26. Er iddo adael bywyd y glöwr i astudio Llenyddiaeth Saesneg a Hanes yng Ngholeg Fircroft, gwelir nifer o gyfeiriadau at y diwydiant glo yn ei waith.
'Pan oedden ni'n mynd i Gymru, byddai Dad yn chwilio am dŵls yr oedd yn eu defnyddio wrth ei waith fel glöwr fel y gallai eu paentio a'u defnyddio wrth roi sgyrsiau i blant ysgol,' meddai Allison Macklin, un o ddwy ferch Morgan. 'Roedd pawb i weld yn nabod Dad a bydden ni'n treulio boreau yn y siop goffi leol yn cael diodydd a hufen iâ ac yn sgwrsio â glowyr roedd dad wedi gweithio gyda nhw a phobl leol oedd yn gwybod am ei waith celf a'i farddoniaeth. Er nad yw'r pyllau yno bellach a'r dirwedd yn wyrdd ac yn ffrwythlon fel yr oedd cynt, does dim gwaith yno erbyn hyn; mae'n drist gweld y tlodi a'r amddifadedd. Roedd Dad eisiau cael ei gofio fel croniclydd y diwydiant glo.'
Ysgrifennu oedd cariad cyntaf Morgan a gwelwyd ei ddawn yn ifanc; roedd wedi ennill cystadleuaeth stori fer ac wedi cyhoeddi sawl darn cyn mynd i'r coleg. Er i gorff ei waith dyfu i gynnwys y celfyddydau gweledol, daliodd ati i ysgrifennu trwy gydol ei oes. Cyhoeddodd farddoniaeth, straeon byrion, nofelau a dramâu. Cymaint oedd ei ddawn fel y dangoswyd rhaglen ddogfen ar Southern Television yn 1964 am ei waith fel awdur ac artist ac y darlledwyd ei ddrama radio 'Rainbow Valley' ar Third Programme y BBC yn 1967.
Yn 1951, symudodd i Bognor Regis i gael ei hyfforddi'n athro a dyna pryd yr aeth ati o ddifrif i feithrin ei ddiddordeb mewn celf. Cyn hynny, ac yntau'n fyfyriwr yng Ngholeg Fircroft, bu'n treulio un prynhawn yr wythnos yn darlunio, ond yn ystod ei gyfnod yn byw ar lan y môr cafodd le mewn stiwdio a rhoi mwy o amser i'w waith celf. Profwyd bod ei ymdrechion wedi dwyn ffrwyth pan gafodd nifer o arddangosfeydd unigol ledled y Deyrnas Unedig, yn cynnwys arddangosfa yn Theatr y Mermaid yn Llundain.
Roedd ei fywyd yn fwrlwm o greadigrwydd – o'i waith i'w berthynas â'i ffrindiau. Roedd artistiaid a beirdd yn ymweld yn aml â chartref Morgan, yn eu plith Ted Walker, Glyn Jones, Leslie Norris, John Elwyn a Sandy Cunningham. Mae merched Morgan yn cofio ymweliad gan y Bardd Llawryfog Ted Hughes a syrthiodd i ardd cymydog ar ôl diod neu ddwy'n ormod gyda'u tad yn y dafarn leol. Aeth y rhieni ati i feithrin amgylchedd creadigol ar gyfer y teulu ac, er ei fod yn hoffi trefn yn ei stiwdio, roedd Morgan bob amser yn rhoi rhyddid i'w ferched chwilota a darganfod pethau drostynt eu hunain.
'Roedd gan ein tad stiwdio i fyny'r grisiau yn llawn pethau diddorol ac roedden ni wrth ein bodd yn chwarae â nhw. Byddai'n gadael i ni ddefnyddio ei gyllell Stanley heb yn wybod i'n mam i dorri papur a chardbord,' meddai Macklin. Mae ganddi hi a'i chwaer atgofion byw o weld lluniau ar hyd waliau'r stiwdio a chlywed sŵn clicio'r teipiadur wrth iddo ysgrifennu yn hwyr y nos. 'Roedd wrth ei fodd â'r olygfa o'i stiwdio ac ysgrifennodd gerdd am y dderwen fawr oedd i'w gweld o'r ffenest.'
Wrth i'w sgiliau ddatblygu, newidiodd ei arddull i ffurfiau mwy geometrig a haniaethol. Cafodd yr olwynion pen pwll du, moel a fu unwaith yn siapiau llai amlwg yn ei olygfeydd eu trin mewn ffordd finimalaidd a'u gwneud yn fwy canolog. Roedd yn cydblethu strwythurau i greu trefluniau deinamig lle'r oedd adeiladau'n cydbwyso ar ben ei gilydd ac yn ymdoddi'n un. Yn wir, mae'r lliw du a'r cyferbyniadau rhwng goleuni a thywyllwch fel pe baent yn themâu sy'n codi dro ar ôl tro yn ei waith gweledol ac ysgrifenedig. Mae ei waith ysgrifennu'n cynnwys teitlau fel The Night's Prison, Voices in the Dark a My Lamp Still Burns. Ymddengys hefyd ei fod yn defnyddio'i farddoniaeth a'i luniau i ymgodymu â'r meddyliau oedd yn dal i'w flino am y deuddeng mlynedd a dreuliodd o dan y ddaear.
'I know there are bright places
Under the brow of the hill slag
But it was in the shadows I
Wandered where the truth was thickest.' – 'Shadows' gan Robert Morgan
Yn 1969, dychwelodd i fyd addysg ac ennill Diploma mewn Addysg Arbennig o Brifysgol Southampton. Bu'n gweithio gyda phlant fel arbenigwr yn y maes hwn tan iddo ymddeol yn 1980, a threulio rhan olaf ei oes yn dilyn ei ddiddordebau creadigol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gwaith Morgan yn fwy lliwgar gan roi llai o le i drefluniau a mwy o gyfle i'w balet eofn ddisgleirio.
Ferren Gipson, Marchnatwr y Cyfryngau Cymdeithasol gydag Art UK
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru