Yng nghanol y 1920au roedd David Jones (1895–1974), yn anhysbys a heb gyfeiriad creadigol clir, ond ar fin sicrhau ei le fel un o artistiaid Prydeinig mwyaf pwysig yr ugeinfed ganrif. Ar ôl blynyddoedd lawer o hyfforddiant celf a gwasanaethu yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd ei waith ychydig yn ddi-nod ac yn tueddu i efelychu gwaith artistiaid eraill. Ond roedd hyn ar fin newid.
Ym 1924 pan yn 29 mlwydd oed fe ganfuwyd ffyrdd newydd o weithio – arddulliau a fyddai'n ei sefydlu fel artist arbennig, unigryw a phwerus ym myd celf Prydain. O fewn degawd roedd Kenneth Clark yn disgrifio Jones fel 'yr artist mwyaf dawnus o holl beintwyr ifanc Lloegr.' Ar ôl cyhoeddi ei gerdd epig, In Parenthesis, am y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1937, fe'i galwyd yn athrylith gan T. S. Eliot ac Igor Stravinsky, ymysg eraill.
Roedd cyfnod Jones yn byw ac yn gweithio yng Nghapel-y-ffin, pentrefan a hen fynachdy yn y Mynyddoedd Duon, yn ganolog i'r trobwynt hwn. Degawdau yn ddiweddarach, fe ddisgrifiodd y cyfnod fel dechreuad newydd. Fe ddywedodd: 'Dw i'n meddwl ei fod yn wir i ddweud bod y gwaith a ddilynodd yn dibynnu'n llwyr ar y cyfnod hwn.' Hyd yn oed ar y pryd, roedd e mor siŵr o'i gyfeiriad newydd nes iddo losgi bron pob darn o waith blaenorol, gan achub ond ei lyfrau braslunio o gyfnod y rhyfel a rhai astudiaethau o'i gyfnod yn yr ysgol gelf.
Mae arddangosfa 'Rhythmau'r Bryniau' yn y Gaer yn Aberhonddu yn gyfle prin i ni astudio gwaith Jones yn fanwl. Mae'r arddangosfa yn cynnwys dros 70 darn o waith sy'n adlewyrchu pwysigrwydd Capel-y-ffin i'w ddatblygiad. Mae angen gweld ei baentiadau dyfrlliw gwreiddiol yn y cnawd er mwyn eu gwerthfawrogi, ond oherwydd rheolau cadwraeth nid ydynt yn cael eu harddangos yn aml. Fe ddywedodd Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, a agorodd yr arddangosfa: 'Yn ogystal â darnau cyfarwydd, mae'r sioe hon hefyd yn cynnwys cryn dipyn o ddeunydd o gasgliadau preifat, darnau a fydd yn newydd i bawb – hyd yn oed y rheiny sydd wedi edmygu gwaith David Jones erioed. Mae'r darnau'n cadarnhau pwysigrwydd ei amser yng Nghapel-y-ffin. Mae'n ddigwyddiad o bwys go iawn.'
Fe gyrhaeddodd Jones Capel-y-ffin Nadolig 1924, i aros yn y gymuned artistig Gatholig a sefydlwyd yn yr hen fynachdy gan Eric Gill, wedi i Gill adael Ditchling yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd Jones a merch Gill, Petra, wedi dyweddïo. Roedd ei ymweliad cyntaf yn ddeg wythnos o hyd ac fe ddychwelai sawl tro tan fis Chwefror 1927, pan benderfynodd Petra orffen y berthynas. Ni aeth yn ôl i Gapel-y-ffin fyth eto.
Er y magwyd Jones yn Llundain, pan oedd e yng nghwm ynysig Afon Honddu, 14 milltir o'r Fenni, fe deimlodd gysylltiad cryf gyda'i etifeddiaeth Gymreig o ochr ei dad. Roedd mynyddoedd a nentydd yr ardal yn annhebyg i unrhyw dirwedd arall oedd yn gyfarwydd iddo fe – Llundain, bryniau mwyn Sussex a thirwedd gwastad y Somme. Fe alwodd yr ardal yn 'lle llawn hudoliaeth' ac yn 'plurabelle.'
Roedd Jones wedi ymweld â Chymru o'r blaen. Yn ystod haf 1913, yn llanc 17 oed, fe dreuliodd amser yn y de-orllewin yn paentio'r tirluniau a welodd yng nghwm Teifi. Mae un paentiad cynnar a oroesodd o'r cyfnod hwn yn dangos golygfa o Dregaron. Gallai'r paentiad fod wedi ei wneud gan unrhyw un o fil o beintwyr tirluniau Prydeinig tebygol y cyfnod.
O'r adeg y cyrhaeddodd Capel-y-ffin, fe wynebodd Jones heriau newydd. Nid oedd modd iddo greu cyfansoddiad tirlun traddodiadol gan fod y gorwel mor uchel. Roedd y bryniau'n codi ac yn llenwi'r olygfa gyfan. (Pan ddilynodd Eric Ravilious i baentio yng Nghapel-y-ffin degawd yn ddiweddarach, fe ddywedodd, 'mae'r bryniau mor anferthol nes ei bod hi'n anodd cael digon o le iddynt ar y papur.')
Fe gychwynnodd Jones baentio allan yn yr awyr agored yn ystod y Nadolig cyntaf hwnnw, gan weithio'n gyflym yn yr oerfel. Gyda'i ddyfrlliw cynnar Tir y Blaenau fe lwyddodd i dorri'n rhydd o'i arddull flaenorol. Roedd y paentiad hwn o bwys i Jones, ac fe'i gadwodd ar hyd ei oes. Dywedodd mai dyma oedd sbardun ei holl baentiadau dyfrlliw diweddarach.
Mae Tir y Blaenau yn dangos 'rhythmau cryfion y bryniau a gwrth-rhythmau llachar' yr afonydd y siaradai Jones amdanynt, gyda siapau amgrwm y mynydd a'r cae islaw yn adlewyrchu siâp ceugrwm glannau'r afon. Mae'r ochr dde fel petai'n troelli, a'r coed yn tyfu ar ongl sgwâr i'r llethrau, ond mae'r ceffylau stond, y llwyni, a'r canghennau hir yn rhoi llonyddwch i'r gwaith. Mae'r tonau lliw a ddefnyddir yn y blaendir ac ar y gorwel yn debyg iawn, gan leihau'r teimlad o ddyfnder. Mae'r bryn, y cae sy'n debyg o ran siâp i'r groth, a'r afon gromlinog yn rhoi teimlad anthropomorffig i'r gwaith – thema a fyddai i'w weld ddegawdau'n ddiweddarach yn ei gerdd The Sleeping Lord.
Roedd Tir y Blaenau yn drobwynt o ran arddull hefyd. Fe ddywedodd bod angen iddo weithio y tu allan er mwyn dal y tensiynau sy'n creu paentiad 'byw', yn hytrach na'r llinellau syml a'r rhythmau diflas a ddaw wrth weithio o'r cof. Fe ddefnyddiodd greon ac inc yn rhwydd ac yn gynnil, a dyfrlliwiau mor dryloyw nes bod gwyn y papur yn rhoi tôn canolig i'r gwaith ac yn elfen nodweddiadol ym mhob darn diweddarach. Roedd e wrth ei fodd â thryloywder dyfrlliwiau, nodwedd a oedd yn galluogi delweddau i ymddangos un ar ben y llall – yn debyg i sut mae unigolyn yn profi'r byd, lle mae sylw yn symud o un peth i'r llall, ond gweledigaeth yn parhau.
Er bod Jones wedi canfod ei arddull yn gynnar, mae'n glir o gasglu gwaith cyfnod Capel-y-ffin at ei gilydd, ei fod wedi parhau i arbrofi. Fe roddodd gynnig ar arddull wahanol yn ei baentiad o'r mynachdy yn yr eira ym mis Chwefror. Mae onglau siarp a'r cyd-dreiddiad ymhlith y siapiau gwahanol yn rhoi teimlad Art Deco i'r gwaith, gydag elfen o Fortisiaeth. Mae'r gwaith yn dangos adeiladau'r mynachdy ar y dde, y coed sy'n eu gwahanu o'r fferm a'r capel rhannol-ddiffaith iasol.
Yn sawl un o'i baentiadau o berllan y mynachdy mae'n rhoi cynnig ar arddull Ffofydd (Fauvism) ysgafn, gan ddefnyddio lliwiau cyferbyniol i greu effaith egnïol. O bosib fe'i ddylanwadwyd gan Henri Matisse neu André Derain. Mewn un paentiad sy'n edrych i'r gogledd tuag at y mynydd, mae e'n dathlu hwsmonaeth cymuned Capel-y-ffin: lleiniau tyfu llysiau, cychod gwenyn gwellt a phren, a choed ifanc ochr yn ochr â hen goed afalau cam.
Roedd 1926 yn flwyddyn addawol i Jones. Fe dreuliodd hanner y flwyddyn – y gaeaf, gwanwyn a'r haf – yng Nghapel-y-ffin, yn darlunio'n obsesiynol er ei fod yn gweithio ar gomisiynau darlunio o bwys ar y pryd. Fe lwyddodd yn mhob paentiad newydd i gyfleu'r llif a'r symudiad yr oedd am ei greu, yn enwedig yn y nentydd, y mynyddoedd a'r coed. Mae golygfa o raeadr yn dangos ei ddefnydd o ddyfrlliw tryloyw sy'n datgelu y papur gwyn, a'r gwaith pensil. Mae'r haenau sydd i'w gweld yn nhywodfaen gwely'r afon yn asio gyda chrychdonnau'r nant sy'n llifo drwy'r glaswellt, y rhedyn a'r coed.
Mae'n glir ei fod am ddangos rhywbeth y tu hwnt i dopograffeg yr ardal. Roedd natur, i Jones, yn arwydd o Dduw, yn draws-sylweddiad – a drwy greu gwaith yn seiliedig ar natur, roedd celfyddyd yn ei farn ef yn llwyddo i greu cyflwr tebyg. Dywedodd ei ffrind Nicolette Gray bod cyfeiriadau o'r fath 'yn rhan o'i waith gan eu bod yn rhan o'i feddwl, nid oherwydd dyna oedd am i'r gynulleidfa eu dehongli.'
Yn ei weithiau diweddarach byddai'n edrych at fytholeg gymharol a chysylltiadau rhwng y presennol a'r gorffennol, fel y gwelir yn Golden Bough gan Sir James Frazer, ac mewn ffynonellau mor amrywiol â gwaith yr athronydd Catholig Ffrengig, Jacques Maritain; Morte d'Arthur; y Gododdin; y Mabinogi a litwrgi Rhufeinig. Fe ddarllenodd y rhan fwyaf o'r rhain cyn neu yn ystod 1926. Gellir dehongli'r ebolion, a oedd eisoes yn rhan o'i baentiadau o Gapel-y-ffin, fel creiriau o fyddinoedd hynafol a gollwyd mewn brwydrau: 'Y ceffylau coll, heb farchogion, sydd i'w gweld yn pori ar laswellt y goedwig a'r mynydd.' Efallai bod y coed yn dwyn i gof syniadau ynglŷn â natur, lloches, chwedloniaeth y goedwig a phren y groes, yn ogystal â choedwig Mametz lle y cafodd Jones ei anafu yn y rhyfel.
Fe aeth sawl tro am ymweliad hir i chwaer-fynachdy Capel-y-ffin ar Ynys Bŷr, Sir Benfro. Fe arbrofodd gydag arddull faux-naïve yn y ddau le, a daeth o hyd i ffordd o gynnwys manylion yn y ddelwedd a fyddai'n 'arwyddwr' i'r gynulleidfa. Mae Caldy Island yn pwysleisio'r llongau llannau yn y sianel, waliau'r twyni a'r cwm a warchodai'r mynachdy o arfordir prysur Dinbych-y-pysgod. Mewn llythyr fe ddywedodd ei fod yn gweld y goedwig ger y glannau yn 'gyffrous iawn – fel Gardd Gethsemane + Gardd y Beddrod + Gardd – wel – y math o ardd lle mae Fenws yn dangos ei hun.'
Ochr yn ochr â'r datblygiad pwysig yn ei ymateb i'r dirwedd yng Nghapel-y-ffin, roedd Jones hefyd yn edrych at gyfeiriadau eraill yn ei waith. Fe ddefnyddiodd ei syniadau newydd ynglŷn â'r dirwedd yn ei ddarluniau o'r môr ac fe sefydlodd ei hun yn ddarlunydd ac yn ysgythrwr. Yng Nghapel-y-ffin fe gyfarfu â Robert Gibbings o wasg Golden Cockerel, ac yn hwyrach Douglas Cleverdon, a gomisiynodd ei ddarlun The Rime of the Ancient Mariner. The Chester Play of the Deluge oedd ei gampwaith ar ffurf ysgythriad pren, darn o waith a grëwyd yng Nghapel-y-ffin, yn ei gartref yn Brockley ac ar Ynys Pûr. Roedd y gwaith yn olrhain stori llifogydd ym mryniau Capel-y-ffin, ac yn dangos y rhyddid a'r rhythm oedd bellach yn nodweddiadol o'i waith.
Yn ystod haf 1927, ambell i fis ar ôl i'w berthynas â Petra a'i gysylltiad â Chapel-y-ffin ddod i ben, fe ddechreuodd Jones dreulio amser mewn tŷ yr oedd ei rieni yn ei rentu ar rodfa Portslade ger Brighton. Ni fyddai rhagor yn arlunio'r bryniau – roedd ei agoraffobia bellach yn barhaol, ond fedrai baentio'r Sianel o'i dŷ. Roedd bron bob un o'i dirluniau ar ôl tua 1930 yn olygfeydd a welwyd o du mewn i adeilad. Fe ysgrifennodd: 'Rwy'n hoff o'r tu fewn y tu allan, mae'n hunangynhaliol ond yn teimlo'n ddiderfyn'. Er bod fframio golygfeydd gyda ffenestri yn dechneg boblogaidd gydag artistiaid y cyfnod, megis Winifred Nicholson a Christopher Wood, i Jones, roedd e'n angenrheidiol.
Roedd y bobl a gyfarfu Jones yn Ditchling ac yng Nghapel-y-ffin yn parhau i fod yn bwysig iddo. Rhoddodd drafodaethau a deunydd darllen y cyfnodau hyn sylfeini deallusol i lawer o'i waith llenyddol ac artistig. Yn fuan ar ôl iddo adael, fe greodd cyfres o bortreadau o aelodau'r gymuned. Ei thema fwyaf cyson oedd Petra Gill, ac fe gyflawnodd ei bortread orau ohoni pan ddaeth y ddau'n ffrindiau unwaith eto, ar ôl iddi hi briodi.
Rhoddwyd y teitl Petra im Rosenhag i'r gwaith i gyfeirio at traddodiad y Dadeni o ddangos y Forwyn Fair mewn siambr o rosod. Mae Jones yn cysylltu ei gyn ddarpar-wraig â sawl archdeip benywaidd – Mair; y dduwies Diana; Flora o baentiad Primavera gan Botticelli; a Blodeuwedd. O ran arddull mae'r paentiad yn dangos y llinellau rhydd, rhythmig a ddatblygwyd yng Nghapel-y-ffin – i'w gweld fan hyn yn cyfleu menyw a'r olygfa o'i hamgylch yn lle coed a mynyddoedd. Mae blodau i'w gweld ar hyd braich Petra, a phatrwm blodeuog yn gorchuddio'i chorff, ac mae'r canhwyllau yn ychwanegu i'r naws sanctaidd.
Yn groes i'r naws ysbrydol, fodd bynnag, mae Jones yn cyfleu cnawdolrwydd daearol drwy siâp bronnau Petra, ei hem wedi codi i ddangos ei phais a'r blew ar ei gwddf a dan ei cheseiliau sydd wedi'i arsylwi'n fanwl. Mae hi'n ymddangos yn oeraidd ac yn bell ac mae Jones wedi rhoi ffocws ar ei modrwy briodas. Kenneth Clark oedd piau'r gwaith, ac fe ddywedodd e fod y llun yn cyfleu 'fwy o feddwl yr artist nag unrhyw ddarn arall o'i waith.'
O ystyried faint y datblygodd ei waith yn yr hanner canrif ar ôl gadael Capel-y-ffin tan ei farwolaeth ym 1974, mae'n syndod mor gryf y parhaodd y lle yn ei ddychymyg. Yn sgil problemau gyda'i olwg ac agoraffobia cynyddol, nid allodd Jones barhau ei waith fel ysgythrwr na chwaith ei dirluniau fel y bu gynt. Fe ddatblygodd waith newydd, yn eu plith paentiadau naratif a gymerodd ysbrydoliaeth o chwedlau Arthur, themâu crefyddol, llenyddiaeth a mythau. Yn aml roedd y lleoliadau yn fersiynau breuddwydiol o'r bryniau yng Nghapel-y-ffin; megis ei baentiad mawr olaf, Y Cyfarchiad i Fair, a baentiwyd ym 1962–1963, gyda'r atodiad i'r teitl – Y Cyfarchiad ar Fryn Cymreig.
Roedd 35 mlynedd ers ei ymweliad olaf i Sir Frycheiniog ond mae'r mynyddoedd y tu ôl i'r ffigyrau yn debyg i'r bryniau yno, a'r ffens gyda phlethwaith yn seiliedig ar y ffens a helpodd i adeiladu yng ngardd y mynachdy, a'r blodau a'r anifeiliaid yn ei waith oedd y rhai a welodd yno eisioes. Mae'r delweddau wedi'u plethu fel y ffens ac yn cyfuno Cristnogaeth a mytholeg Rufeinig a Cheltaidd. Mae Mair ar unwaith yn Efa gyda'r afal, yr euraidd Olwen a'r dduwies Rhiannon o'r Mabinogi; Gabriel yn cyrraedd ar frys; a hefyd yn Mercher gyda'r adar wrth ei draed. Mae'r draenennau yn darogan y Dioddefaint ac mae Gabriel yn dal cleddyf, nid lili, yn ei dristwch, gyda phelydrau'r sêr yn trywanu calon Mair. Mae'n baentiad sy'n rhan o'r traddodiad sy'n ymdrin â chyfarchiad y Forwyn Fair, ond drwy ddychymyg David Jones.
Darganfu Jones ei 'plurabelle' yng Nghapel-y-ffin ac fe barhaodd yn rhan hollbwysig o'i ddychymyg, gan ymddangos dro ar ôl tro.
Ym 1928, fe gychwynnodd Jones ysgrifennu'r testun a fyddai'n ei sefydlu fel un o'r beirdd modernaidd mwyaf. Fe gychwynnodd greu delweddau am ei brofiadau gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wrth orffwys yn ei wely yn dioddef gyda'r ffliw. I gychwyn fe ysgrifennodd 'sylwebaeth rydd' ond fe ddatblygodd yr ysgrifennu yn waith In Parenthesis. Wedi cwblhau drafft llawn ym 1932, fe brofodd chwalfa nerfol. Mae'r llyfr yn cyfuno naratif hunangofiannol gyda haenau o gyfeiriadau at lenyddiaeth a hanes Cymreig, mytholeg a Henry V gan Shakespeare. Pan gyhoeddwyd y gwaith ym 1937 fe'i disgrifiwyd yn gampwaith.
Cafodd Capel-y-ffin hyd i ail-fywyd yma hefyd. Mewn un darn mae'n disgrifio'r Ffrynt gydag atgofion o Gymru: 'Roedd y glaw llwyd yn arllwys yn ddi-baid. Roedd y dŵr yn y ffos yn rhedeg mor gyflym â Nant Honddu yn y misoedd cynnar, pan ewch i nôl y llaeth o Ben-y-Maes.'
Prin y gallai baentio neu dynnu llun dros y pum mlynedd ddiwethaf ac ni fu'n ddigon da i ddarlunio In Parenthesis fel y fwriadodd. Cafodd ei ddarlun ar gyfer y blaenlun ei ail-greu drwy ffotograffiaeth. Mae'n un o'r delweddau mwyaf trawiadol a grëwyd erioed o ryfel gan gyn-filwr. Mae'r ffigwr hanner noeth yng nghanol y ddelwedd, unai wedi marw neu wedi'i dioddef sioc aruthrol yn cyfleu'r croeshoeliad. Gallai'r ffigwr fod yn unrhyw un mewn arfwisg, yn erbyn cefndir diffaith o goed wedi'u dinistrio. Arddangosodd Jones y llun yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'r teitl Y Dioddefwr, pan gynrychiolodd y trawma parhaol a wynebai Jones a dychweliad rhyfel unwaith eto.
Daeth â'r gair a'r ddelwedd ynghyd mewn arysgrifau a baentiwyd oddeutu 1940. Dywedodd eu bod nhw'n dod â 'fwy o foddhad iddo na'r rhan fwyaf o'i waith.' Cara Wallia Derelicta oedd ei ffefryn, ac fe dododd y gwaith i fyny ar ei wal yn ei ystafell. Roedd y gwaith wedi'i ysbrydoli gan ddwy gerdd yn y Gymraeg a'r Aeneid yn Lladin ac roedd yn coffau hanes trechu Llywelyn ap Gruffudd – trobwynt a ddaeth â Chymru dan reolaeth coron Lloegr – digwyddiad hanesyddol a olygai fwy i Jones nag unrhyw ddigwyddiad arall, ar wahân i'r Swper Olaf a'r Croeshoeliad.
Mae ei gyfieithiad ei hun i'w weld ar frig a gwaelod y gwaith, 'Annwyl Cymru, lle'r aeth popeth o'i le ar ôl gaeaf 1282.' Mae'r neges a welir yn y canol yn cymharu colli cenedligrwydd Cymreig gyda chwymp Troy – o'r chwedl mae Brutus yn ffoi ac yn sefydlu Prydain.
Yn y 1950au fe baentiodd Jones gyfres o luniau bywyd llonydd – blodau mewn gwydr gobled, paentiadau a deimlodd oedd â 'golau arbennig.' Fe alwodd y gobled yn gwpan, cwpan cymun neu'r Lladin calix, ac roedd y lluniau yn cynrychioli dŵr, golau, bywyd a'r cwpan cymun ar yr allor yn ystod offeren. Fe baentiodd y gyfres pan oedd yn byw yn Northwick Lodge yn Harrow, a phrin yn gadael ei gartref. Dyma westy i breswylwyr lle y bu'n byw am y rhan fwyaf o'i ddegawd olaf, mewn un ystafell gyda llyfrau a phapurau wedi pentyrru'n uchel.
Yn Caregl gyda Blodau, mae e'n edrych i lawr ar ei fwrdd ac allan i'r ardd ac i gaeau Ysgol Harrow – er bod yr olygfa wedi'i chelu rhan fwyaf. Islaw'r blodau mae pethau miniog – draenennau rhosod, sisyrnau, cyllell – ynghyd â dodrefn ffenestr manwl, sêl ar gadwyn, potel o inc ac ambell i beth arall. Nid dyn yn crwydro nentydd a bryniau Capel-y-ffin, yn darganfod natur ac yn ei fynegi gyda rhythm a rhyddid oedd e mwyach. Ond fe geisiodd ganfod rhywbeth tebyg yn ei ystafell.
Darganfu Jones ei 'plurabelle' yng Nghapel-y-ffin ac fe barhaodd yn rhan hollbwysig o'i ddychymyg, gan ymddangos dro ar ôl tro. I'r rheiny sy'n ymweld â'r arddangosfa heddiw, bron i ganrif ar ôl ei amser yno, mae celfyddyd David Jones yn parhau'n nodedig, yn hardd ac yn heriol.
Peter Wakelin, awdur a churadur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Roedd yr arddangosfa 'Rhythmau'r Bryniau / Hill-rhythms: David Jones + Capel-y-ffin' ar agor tan 29 Hydref 2023 yn y Gaer, Aberhonddu.
Mae cyhoeddiad cysylltiedig gan Peter Wakelin ar gael yn yr oriel neu drwy gysylltu'n uniongyrchol â'r cyhoeddwr, Grey Mare Press