Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi cael y fraint o lunio arddangosfa yn fy rôl fel curadur gwadd ar ran y Museum of Modern Art Machynlleth (MOMA) dan y teitl 'Rhamantiaeth yn Nhirlun Cymru'. Gyda dros 60 o weithiau'n dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd heddiw, hon yw'r arddangosfa fwyaf sylweddol i MOMA ei chynnal, ac mae hi wedi llwyddo i ddenu mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen. Os nad ydych wedi ei gweld eto, mae hi ar agor hyd 18fed Mehefin 2016.

Mae'r arddangosfa'n dangos bod Cymru wedi chwarae rôl allweddol yng nghelfyddyd y  tirlun rhamantaidd ers y ddeunawfed ganrif. Mae'r erthygl hon yn talu sylw i rai o weithiau poblogaidd y gellir eu gweld ar Art UK. Mae eraill yn yr arddangosfa ar fenthyg o gasgliadau preifat, neu'n weithiau ar bapur nad sy'n cael eu harddangos yn aml, neu sydd gan artistiaid sydd heb gynrychiolaeth dda mewn sefydliadau cyhoeddus eto.

Y Cyfnod Rhamantaidd

Roedd yr artistiaid cynharaf i drin y tirlun mewn modd rhamantaidd drwy fynegi eu hymatebion personol wedi eu dylanwadu gan Richard Wilson, artist o Gymru a aned ym Mhenegoes, rhyw ddwy filltir o Fachynlleth. Yn ôl John Ruskin, Wilson oedd yr artist cyntaf i gynhyrchu 'celf tirlun diffuant, wedi'i seilio ar gariad myfyriol o fyd Natur'. Yn yr Eidal, roedd Wilson wedi astudio traddodiad y tirlun clasurol delfrydol, ond y mae i'w dirluniau Cymreig rhyw gynhesrwydd a dyfnder sy'n wahanol iawn i dirluniau clasurol neu ddyfrlliwiau topograffaidd. Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys ei olygfa ef o ddyffryn Mawddach, o gasgliad Orielau Dinas Manceinion, sy'n cymryd Cadair Idris fel y gwir oddrych. Mae'r paentiad yn cyflwyno'r mynydd fel nodwedd naturiol llawn harddwch ac urddas.

Valley of the Mawddach with Cader Idris Beyond

Valley of the Mawddach with Cader Idris Beyond 1770–1775

Richard Wilson (1713/1714–1782)

Manchester Art Gallery

O ddiwedd y ddeunawfed ganrif, daeth Cymru'n atynfa i artistiaid a ddeuai'n bennaf o iseldiroedd Lloegr i chwilio am natur wyllt yng ngwlad y Prydeinwyr hynafol. Daeth nodweddion syfrdanol Cymru – y mynyddoedd, y rhaeadrau, y mwyngloddiau a'r cestyll adfeiliedig – yn bynciau y gellid eu defnyddio i ystyried themâu fel hunaniaeth Brydeinig, pŵer byd natur, mawredd y Cread, a'r anrhaith a ddaw dros amser.

I lawer o artistiaid ifanc, roedd Cymru yn faes hyfforddi – roedd tirwedd y wlad yn eu galluogi i ddatblygu gweledigaethau artistig personol, arloesol. Daeth J. M. W. Turner i Gymru am y tro cyntaf yn 17 oed, a byddai'n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Âi ar deithiau cerdded ledled y wlad i fraslunio cestyll, abatai, rhaeadrau a chlogwyni, a gallai'n aml deithio rhyw 20 neu 25 milltir y dydd. Mae ei baentiad o Gastell Dolbadarn o 1799–1800, sydd ar fenthyg o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn fychan, ond yn dal ei dir: mae'n dywyll, dirgelaidd a dramatig. Mae'n cyflwyno naratif hanesyddol yn erbyn tirlun o bathos – prin y mae modd gweld corff cam Owain Goch, y tywysog canoloesol, yn cael ei lusgo gan filwyr i'w garcharu yn Nolbadarn. Gorbwysleisir uchder a phellter y castell er mwyn awgrymu unigedd creulon ei garchariad. Dewisodd Turner fersiwn arall o'r paentiad hwn, un mwy o faint, i gynrychioli ei waith yng nghasgliad yr Academi Frenhinol.

Dolbadarn Castle

Dolbadarn Castle 1799–1800

Joseph Mallord William Turner (1775–1851)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Ac yntau wedi ei fagu yn Norfolk, roedd John Sell Cotman yn 18 oed pan gafodd ei brofiad cyntaf o dirweddau mynyddig ar daith arlunio yng Nghymru. Cafodd ei gyffroi gan y tywydd gwyllt a'r tir ysgithrog, a dychwelodd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Am weddill ei fywyd bu'n ailymweld â'r wlad yn ei ddychymyg, gan greu lluniau fel Cader Idris rhyw 30 mlynydd yn ddiweddarach. Mae'r paentiad ar fenthyg o Oriel Gelf Dinas Norwich. Er i Cotman ddod yn arwr i'r Modernwyr a oedd – ymhell ar ôl ei farwolaeth – yn gwerthfawrogi'r elfen haniaethol yn ei ddefnydd o arwynebau syml o liw, mae modd gweld y meddwl rhamantaidd yn ei gwmwl-gysgodion dramatig a'i adlewyrchiadau mesmerig.

Cader Idris

Cader Idris c.1828–1833

John Sell Cotman (1782–1842)

Norfolk Museums Service

Cymru a neo-ramantiaeth

O'r 1920au ymlaen, roedd rhai artistiaid arloesol wedi dechrau cyfuno angerdd yr oes Ramantaidd â syniadau Moderniaeth, gan gynnwys Ciwbiaeth, Swrealaeth, Mynegiadaeth a Haniaethiad. Roedd y fflach yma, a elwir yn 'neo-ramantiaeth' yn aml yn cael ei ystyried yn symudiad Seisnig, ond roedd artistiaid o Gymru a'r tirlun Cymreig yn ganolog iddo.

Treuliodd Graham Sutherland a John Piper – y ddau artist neo-ramantaidd mwyaf dylanwadol ym Mhrydain – gyfnodau ffurfiannol yng Nghymru o'r 1930au ymlaen. Trawsnewidiwyd dull Sutherland o beintio ar ôl iddo gael profiad o 'ddieithrwch gorfoleddus' ymysg nenlinellau creigiog a dyffrynnoedd cuddiedig sir Benfro, ac ymatebodd mewn arddull newydd oedd yn rhydd a mynegiannol. Yn achos Piper, roedd Cymru'n fan o ddarganfyddiad wrth iddo arbrofi gyda dulliau newydd o gyfleu pŵer emosiynol mynyddoedd a henebion y wlad. Peintiodd gyfres o ddelweddau o Abaty Llanddewi Nant Hodni yn 1941. Roedd yr abaty, a'i leoliad yng nghanol y Mynyddoedd Duon, wedi hudo artistiaid y cyfnod Rhamantaidd. Dewisodd Piper ddangos yr abaty ei hun, gyda'i arwynebau gweadog a lliwiau pefriog, a'r tyrau anferth yn bresenoldeb pwerus dan yr awyr fygythiol.

Llanthony Abbey

Llanthony Abbey 1941

John Piper (1903–1992)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Ymhlith yr ymwelwyr eraill a ymatebodd i'r tirlun Cymreig roedd y ffoaduriaid Ivon Hitchens a Josef Herman. Cyfareddwyd Herman i'r fath raddau gan 'dristwch a mawredd' Cwm Tawe fel iddo ymgartrefu yno am 11 mlynedd. Mae un o'i baentiadau mawr, disglair o'r pentref glofaol lle'r oedd e'n arfer byw, ar fenthyg o Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Peintiodd y llun hwn yn 1968, wrth i'r artist gofio yn ôl at ei gyfnod yng Nghymru.

Miner with a Dog

Miner with a Dog 1968

Josef Herman (1911–2000)

y Gaer Museum, Art Gallery & Library

Gellir hefyd ystyried Ceri Richards a David Jones, dau artist Cymreig, fel cyfranwyr hollbwysig i neo-ramantiaeth, ac yn eu sgil daeth genhedlaeth o artistiaid Cymreig eraill oedd yn dangos agweddau neo-ramantaidd yn eu gwaith. Caiff John Elwyn ei gynrychioli yn yr arddangosfa gan dri darn o waith gan gynnwys ei dirlun o adeiladau fferm a llwybr drwy goed, o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe. Drwy gydol ei fywyd bu'n peintio'i atgofion o ffermydd a lonydd dyffryn Teifi, lle cafodd ei fagu. Roedd nifer o'i baentiadau'n mynegi ei hiraeth am dirlun dyddiau ei febyd, ac yn gwahodd y gwyliwr i mewn ar hyd llwybrau sy'n arwain at ysguboriau gwyngalchog a theisi gwair euraid.  

Tree Architecture

Tree Architecture 1953

John Elwyn (1916–1997)

Glynn Vivian Art Gallery

Drwy gydol ei oes, roedd Bert Isaac wedi ei hudo gan y modd y byddai natur yn dychwelyd i fannau anghyfannedd, yn enwedig tirluniau mwyngloddio adfeiliedig Ceunant Clydach ger ei gartref yn Y Fenni, a chwarel lechi Dorothea ger Caernarfon: mannau lle roedd diwydiant ffyniannus wedi edwino i'r fath raddau fel nad oedd dim ar ôl ohono ond metel rhydlyd, tomenni gwastraff, chwyn a choed ifanc. Yn ei baentiadau byddai'n ymateb i'r tirlun gweledol, ond hefyd – drwy greu marciau haniaethol – yn ymateb i synau, symudiadau ac egni'r lle. Byddai'n dychwelyd dro ar ôl tro yn ei ddychymyg i'r union fannau hyn, wedi ei hudo gan 'ffiws gwyrdd' byd natur a'i bwer i adfer dadfeiliad.

Mining Area

Mining Area

Bert Isaac (1923–2006)

MOMA MACHYNLLETH

Rhamantiaeth yn ein cyfnod ni

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae artistiaid – rhai, yn aml, a chanddynt wybodaeth drylwyr o artistiaid y gorffennol – wedi bod yn archwilio dulliau newydd o ymgysylltu â thirlun Cymru drwy archwilio emosiynau a chysylltiadau. Mae'r dulliau'n fwy amrywiol nag erioed, a'r deunyddiau a thechnegau sydd ar gael wedi ehangu o'r dyfrlliw a'r olew traddodiadol i wrthrychau a ddarganfuwyd, celf gosod, testun a fideo digidol. Mae Rhamantiaeth yn fyw ac yn iach, ac yn esblygu.

Yn Taranis (Duw'r Taranau), mae Ifor Davies – artist gwleidyddol ymrwymedig – yn chwilio am ystyr yng nghanol colled ffermydd a chymunedau Cymraeg eu hiaith ar Fynydd Epynt i greu lle ar gyfer maes tanio milwrol. Yn ei Epynt ef, nid oes unrhyw beth yn glir; anhrefn a dinistr yw'r cyfan, ac uwch ei ben does dim byd ond  gorwel breuddwydiol. Aeth yr artist ati i greu'r paentiad yn llythrennol o'r tirlun ei hun, trwy gymysgu pridd coch y mynydd i mewn i'r arwyneb. Mae un ffermdy ar dân, ac eraill yn ddim ond cysgodion o'r hyn a fu; mae amlygiad o dduw taranau'r Celtiaid yn creu delwedd o saethu dryll – ac mae ei enw, Taranis, yn ymddangos ar ffurf graffiti ar draws y cyfansoddiad.

Taranis (Thundergod)

Taranis (Thundergod) 1992

Ivor Davies (b.1935)

y Gaer Museum, Art Gallery & Library

Mae tirwedd ramantaidd yn rhan o'r naratif yng ngwaith Clive Hicks-Jenkins o'i gyfres The Temptations of Solitude. Roedd hyn yn tynnu ar straeon o fywydau'r Tadau Anial ar allor o'r bymthegfed ganrif yn rhanbarth Tysgani, Yr Eidal. Mae Hicks-Jenkins yn eu gosod mewn mannau annhebygol yng Nghymru – strydoedd, tomenni slag neu randiroedd i dyfu llysiau. Mae'r straeon yn cynnwys elfennau o arswyd ysbrydol neu gyfyng-gyngor, a'r rheiny'n cael eu pwysleisio gan yr artist trwy ei ddefnydd o leoliad. Dewisodd leoli ei baentiad hunllefus o lewes yn ymosod ar ddyn, ar glogwyn uwchben porthladd Amlwch. Mae'r cei a'r goleudy, y llofft hwyliau a'r simneiau, i gyd yno, ond mae'r anghenfil yn debycach i fôr-fwystfil nag i lewes ac mae wedi lliwio Amlwch yn goch dwfn, lliw gwaed - fel y byddai Sutherland neu Piper fod wedi ei wneud o bosib.

The Barbarian Brought Down by a Lioness

The Barbarian Brought Down by a Lioness 2003

Clive Hicks-Jenkins (b.1951)

MOMA MACHYNLLETH

Arbrofodd y diweddar Maurice Cockrill gyda nifer o arddulliau gwahanol, ond byddai'n dychwelyd dro ar ôl tro i'w stiwdio ger Conwy i ail-fyw ei atgofion o dyfu i fyny yn ardal maes glo gogledd Cymru. Roedd ei baentiadau hylifaidd, lled-haniaethol, yn ennyn atgofion o fyd natur a'r elfennau, taith afon Conwy, a'r creithiau mae pobl yn gadael ar y tir. Mae drama rewedig ei baentiad Small Enclosure, o Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, yn dwyn i gof gelf neo-Ramantaidd yr 1930au a'r 1940au, er enghraifft paentiadau Paul Nash o frwydrau yn yr awyr, neu dirluniau apocalyptaidd sir Benfro gan Sutherland.

Small Enclosure

Small Enclosure

Maurice Cockrill (1936–2013)

Newport Museum and Art Gallery

Mae Glenys Cour, â sensitifrwydd rhyfeddol, yn mynegi rhinweddau Penrhyn Gŵyr, yr ardal ble mae hi'n byw ac yn parhau i beintio a hithau'n 92 oed. Mae hi'n dod o hyd i ddrama ysgogol mewn awyr, môr a thirluniau. Mae cylchredau a thymhorau'n fythol-bresennol yn ei myfyrdodau, gyda llawer ohonynt yn dwyn i gof y wawr neu'r fin nos, pan fydd dirgelion Gŵyr yn dwysáu dan effaith cysgodion neu orchudd o niwl.

South Gower Evening

South Gower Evening 2004

Glenys Cour (b.1924)

y Gaer Museum, Art Gallery & Library

Gallai fod sawl rheswm dros bŵer Cymru, yn fan ac yn gynefin. Mae ei thirwedd yn ddyrys ac amrywiol, a'i mynyddoedd garw yn cyfleu egni anferthol byd natur. Mae Cymru'n mwynhau diwylliant barddol ac etifeddiaeth o chwedlau, lle mae mwy nag un ystyr i bopeth – elfen nodweddiadol o rhamantiaeth – ac nid oes unrhyw beth yn union fel yr ymddengys. Ond, yn fwy na dim, mae yno wybodaeth am draddodiad pwerus o dirlun rhamantaidd sydd wedi parhau am ryw 250 o flynyddoedd.

Dr Peter Wakelin, Curadur Gwadd

Roedd yr arddangosfa 'Rhamantiaeth yn Nhirlun Cymru' yn MOMA Machynlleth rhwng 19eg Mawrth a 18fed Mehefin 2016

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch mwy o straeon yn y Gymraeg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid Llywodraeth Cymru