O oedran ifanc fe gadwai'r artist a'r awdur Brenda Chamberlain (1912–1971) gofnod o'i bywyd beunyddiol mewn llyfrau braslunio a dyddiaduron toreithiog. Er iddi fyw mewn sawl lle gwahanol, pur anaml y byddai hi'n paentio tirluniau. Byddai hi'n eu darlunio mewn llyfrau braslunio ond ni fyddai'n eu datblygu i weithiau mwy o faint. Y bobl yn ei bywyd oedd yn ei hysbrydoli fwyaf. Fe ddarluniai pobl yn gyson, a nhw oedd testun nifer o'i gweithiau ffigurol.

The Fishing Net

The Fishing Net 1949

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Bangor University

Ysbrydolwyd paentiadau cynnar Chamberlain gan ei hyfforddiant yn Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain. Mae hyn i'w weld yn ei hunan bortread gwir faint o 1938, a baentiwyd yn gywrain gyda marciau brws bychan. Yn y paentiad mae Chamberlain yn edrych yn syth at y gwyliwr, gyda Dyffryn Ogwen i'w weld yn bell yn y cefndir. Mae hi'n gwisgo ffrog hir goch marŵn y cadwai ar gyfer achlysuron arbennig.

Self Portrait on Garnedd Dafydd

Self Portrait on Garnedd Dafydd 1938

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Tra yn Llundain bu gyfarfod â'r artist John Petts, ac fe symudodd y ddau gyda'i gilydd i'w hardal enedigol yng ngogledd Cymru, gan ymgartrefu yn Llanllechid, ardal chwarela yn Eryri. Gan fod eu bwthyn yn dywyll a heb drydan, roedd yn rhaid iddi baentio yng ngolau'r dydd – naill ai dan ffenest do yn yr atig neu yn yr awyr agored.

Doedd fawr ddim arian gan y cwpl, ac felly i gynnal bywoliaeth fe sefydlodd Petts, a astudiodd gysodi, wasg fechan i greu posteri, hysbysebion bychain a chardiau cyfarch ar gyfer y Nadolig, priodasau a genedigaethau. Roedd y cardiau a liwiwyd gyda llaw yn hynod boblogaidd, ac fe gynhyrchodd y cwpl ystod eang o ddyluniadau yn seiliedig ar themâu crefyddol ac alegorïau. Er mwyn ei gwneud hi'n haws torri'r blociau argraffu fe esblygodd ffigyrau Chamberlain i arddull fwy syml ac fe'u paentiwyd gyda blociau o liw patrymog a llinellau troellog. Roedd nifer o'i dyluniadau yn seiliedig ar fenywod cryfion yn gweithio ar y tir, megis Y Cynaeafwyr, o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

The Harvesters

The Harvesters 1939

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Ar ôl iddi wahanu â Petts ym 1943, fe symudodd Chamberlain i Ynys Enlli. oddi ar Ben Llŷn. Er mwyn cynnal bywoliaeth fe weithiodd hi a Jean van de Bilt – ei phartner ar y pryd – fel pysgotwyr-ffermwyr. Y blynyddoedd hyn oedd ei rhai mwyaf llwyddiannus a thoreithiog fel artist. Fe gychwynnodd arddangos ei gwaith yn Llundain, gydag arddangosfeydd rheolaidd yn Oriel Gimpel Fils ac ym 1962 fe gyhoeddodd Tide-Race, cofnod dychmygol o'i chyfnod yn byw ar Ynys Enlli. Y bobl a fu'n byw ar yr ynys gyda hi oedd ei phrif ysbrydoliaeth artistig. Byddai hi'n paentio portreadau unigol yn ogystal â grwpiau wedi'u gosod mewn lleoliadau dychmygol.

Island Man (The Bardsey Boy)

Island Man (The Bardsey Boy) 1948

Brenda Chamberlain (1912–1971)

MOMA MACHYNLLETH

Peter Kahn

Peter Kahn 1949

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Dyma bortread o Jean van de Bilt yn gwisgo gwasgod fwstard a het goch, ac un arall o'i ffrind, Peter Kahn. Yr oeddent yn ffrindiau i Peter, brawd ieuengach John Petts, ac yn ymwelwyr rheolaidd pan fu Chamberlain yn byw yn Llanllechid. Yn ystod eu hymweliadau, roedd digon o amser gyda'r nos i ysgrifennu a chreu darluniau paratoadol wrth olau lampau paraffin.

Girl with a Siamese Cat

Girl with a Siamese Cat 1951

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Ym 1951 fe enillodd Chamberlain y fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'i phaentiad Merch gyda Chath Siamaidd. Er nad oedd gwobr ariannol, fe brynodd y Cyngor Celfyddydau'r paentiad ar gyfer ei Gasgliad Cymreig parhaol, ac fe'i rhoddwyd i Amgueddfa Cymru yn 2022. Mae'r paentiad yn dangos ei chymydog, Jane Evans, yn eistedd â'i chefn yn erbyn ffenestr agored, yn dal cath Chamberlain ar ei glin. Mae patrwm y llenni a rhimyn y plât yn cyferbynnu â blociau lliw plaen dillad Jane. Cyn paentio byddai hi'n creu nifer o ddarluniau paratoadol tan ei bod yn fodlon gyda'r cyfansoddiad terfynol. Dyma enghraifft o gasgliad STORIEL, Bangor.

Girl with a Siamese Cat

Girl with a Siamese Cat 1951

Brenda Chamberlain (1912–1971)

STORIEL

Roedd ei phaentiadau o grwpiau o bobl yn aml wedi'u gosod yn erbyn cefndiroedd dychmygol – megis Plant ar y Traeth, lle mae grŵp o blant wedi'u gosod ar draeth gwag enfawr. Mae'r persbectif wedi'i orliwio gan linellau yn y cefndir sy'n arwain at ddiflanbwynt yn y môr. Mae fersiynau cynharach yn dangos darluniau a grëwyd yn uniongyrchol ar bapur newydd. Mae gan yr un yma ddisgrifiad o'r olygfa wedi'i ysgrifennu'n fertigol ar draws y llun.

Children on the Seashore

Children on the Seashore 1950

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Mae Plant ar Balmant Hopsgots yn dangos cyfansoddiad tebyg, gyda thri phlentyn yn eistedd yn y blaendir yn erbyn patrwm llinellol y ddaear. Mae'r plant yn fyfyrgar ac yn fyrdew. Mae'r bachgen canol wedi'i fframio gan ddillad streipïog y ddau blentyn arall

Children on a Hopscotch Pavement

Children on a Hopscotch Pavement 1951

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Bangor University

Byddai Chamberlain yn aml yn dewis gadael yr ynys yn y gaeaf, ac yn aros un ai yn yr Almaen – gyda'i ffrind Karl von Laer a'i deulu estynedig – neu yn ne Ffrainc, lle'r oedd asiant ei horiel yn berchen ar dŷ. Ar y teithiau hyn fe deithiai gydag offer celf syml ac fe ganolbwyntiai ar ddarlunio. Dyma nai Karl von Laer, Cornelius, yn gwisgo ei flows arddull Rwsieg.

Cornelius von Laer

Cornelius von Laer 1951–1962

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn ystod ymweliad diweddarach ym 1955, fe greoedd Chamberlain gyfres o ddarluniau gan ddefnyddio creonau gwyr, gan gynnwys darlun o Insea, sef chwaer Cornelius. Yn ei dyddiadur fe ysgrifennodd: 'Fe lwyddais i ddwyn perswâd ar Insea i adael i mi ei darlunio. Yn gyndyn, fe safodd mewn hen got drom wedi'i leinio â ffwr, yn cwyno am wres gormodol y stôf. O bryd i'w gilydd fe fyddai'n brasgamu o amgylch y carped gan daflu ei gwallt cyrliog yn ôl, ei breichiau wedi'u glynu'n dynn wrth ei hochrau.'

'Insea von Laer' or 'Insea in Lisabeth's Winter Coat'

'Insea von Laer' or 'Insea in Lisabeth's Winter Coat' 1955

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn ne Ffrainc fe ddatblygodd palet Chamberlain yn fwy lliwgar. Fe osodwyd ei modelau mewn ystafelloedd cain ac addurnol, ac fe greodd sawl darlun o'r cymeriadau lliwgar a welodd yn y Carnifal yn Nice.

La Carmejane, Menerbes

La Carmejane, Menerbes 1952

Brenda Chamberlain (1912–1971)

Glynn Vivian Art Gallery

Yn ôl ar Ynys Enlli, fe weithiodd hi'n galed ar baratoi ei phaentiadau Ffrengig ar gyfer eu harddangos yn Llundain. Fe ddaeth y ffotograffydd Edgar Ewart Pritchard i ymweld â'r ynys yn y 1940au a 1950au ac fe gyflwynodd hi mewn ffilm fer o'r enw Island Artist. Yn y ffilm fe welir Chamberlain yn archwilio'r ynys, yn ysgrifennu ac yn paentio'i gwaith Yr Acrobatiaid. Tynnodd Pritchard luniau ohoni hefyd gyda rhai o'i phaentiadau eraill.

Brenda Chamberlain with 'The Wild Men'

Brenda Chamberlain with 'The Wild Men'

c.1934–1965, photograph by Edgar Ewart Pritchard (1898–1976)

Pobl oedd popeth i Chamberlain. Roedd hi wrth ei bodd yn ymweld â'i ffrindiau ac yn treulio amser gyda nhw yn ei chartref hi – gan ei bod yn darlunio'n barhaol, yn aml byddai ei ffrindiau'n fodelau. Pryd bynnag yr aeth i ymweld â ffrindiau fe fyddai'n dwyn perswâd ar y bobl leol i eistedd iddi hi gael eu darlunio tra'u bod nhw'n sgwrsio, ac os nag oedd pobl eraill o'i hamgylch, roedd cyfle bob amser am hunan bortread arall.

Jill Piercy, curadur ac awdur

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy am dechneg arbrofol Brenda Chamberlain yn 'Croesawu Newid', erthygl a gomisiynwyd ar y cyd gyda Celf ar y Cyd, fel rhan o CELF: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen ymhellach

Jill Piercy, Brenda Chamberlain – Artist and Writer, Parthian, 2013

Llawysgrifau Brenda Chamberlain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru