Roedd yna 16 o Baneli'r Ymerodraeth Brydeinig yn y set wreiddiol a grëwyd gan Frank Brangwyn fel cyfraniad at yr etifeddiaeth gelf genedlaethol. Fe'u lleolir nawr yn yr ystafell gynnull yn Neuadd y Ddinas Abertawe – neu Neuadd y Brangwyn.

Panels at the rear of Brangwyn Hall

Panels at the rear of Brangwyn Hall

Creodd Brangwyn y murlun 3,000 troedfedd hwn – sy'n dangos  flora, ffawna a phobl yr Ymerodraeth Brydeinig (neu'r hyn a alwyd yn Gymanwlad yn fwy diweddar) – ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Mae paneli murlun Brangwyn yn llawn o liwiau llachar ac yn weledol gymhleth, ac mae gan bob un arddull unigryw ei hun. Mae'r peintiadau yn cynnwys elfennau manwl, sy'n caniatáu i'r arsyllwr werthfawrogi amrywiaeth, cyfoeth a statws yr Ymerodraeth Brydeinig fel roedd yr artist yn gweld ac yn dychmygu hynny.

Yn ddiddorol, nid oes pobl yn y panel cyntaf, Lloegr: nid oes gan ganolbwynt tybiedig y Gymanwlad Brydeinig wyneb dynol yn gysylltiedig ag ef.

British Empire Panel (1) England

British Empire Panel (1) England c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Gwyrdd yw'r lliw amlycaf, a gaiff ei eilio gan olchiad o las, a blodau yw'r prif ddelweddau.

Mae'r anifeiliaid sy'n bresennol yn ychwanegu at deimlad o fywyd cartrefol, caeth – o'r gath, yr iâr ac anifeiliaid fferm eraill, hyd at y tri glöyn byw sy'n cyfleu awyrgylch tawel cefn gwlad.

Felly, sut daeth y paneli hyn i fod?

Ym 1924, cafodd Brangwyn ei gomisiynu gan Edward Guinness, Iarll Iveagh o Gomisiwn Brenhinol Celfyddyd Gain (Royal Fine Arts Commission), i lunio pâr o gynfasau mawr yn rhan o gofeb i Arglwyddi Prydeinig a'u meibion a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yr artist wedi ymgymryd â chomisiynau murluniau o'r fath dramor ychydig cyn hynny. Bwriedid eu harddangos yn Oriel Frenhinol Palas Westminster.

Cyflwynodd Brangwyn ddau o'r 16 panel i Arglwydd Iveagh, yn cynnwys Tanc mewn Brwydr.

A Tank in Action

A Tank in Action 1926–1928

Frank Brangwyn (1867–1956)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Fodd bynnag, ymysg dadlau mawr cafodd y paentiadau hyn i goffáu'r rhyfel, a oedd yn portreadu brwydro ag arfau, eu gwrthod am eu bod yn rhy ysgytwol.

Cafodd Brangwyn ei gomisiynu wedyn i gynhyrchu gwaith amgen - dathliad lliwgar o'r trefedigaethau Prydeinig mewn cyfres o baneli murol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhyfela, roedd y paneli yma yn canolbwyntio ar 'helaethrwydd' yr Ymerodraeth fel atgof o'r hyn yr oedd y wlad wedi bod yn ymladd i'w amddiffyn dros y degawdau diwethaf. Cafodd y paneli hynny hefyd eu gwrthod ar gyfer yr Oriel Frenhinol am eu bod yn cael eu hystyried yn rhy liwgar a hwyliog. Yn y pen draw fe gafwyd cartref iddynt yn adeilad newydd neuadd y ddinas pan ddaeth Abertawe i'r adwy.

Cafodd Brangwyn ei annog i arbrofi gyda lliwiau yn ei waith gan Arthur Melville, artist o'r Alban yr oedd Brangwyn wedi teithio gydag ef o amgylch Ewrop, y Dwyrain Agos a De Affrica. Mae egni'r paneli yn cyfleu'r goleuni cryf a'r testunau a welodd Brangwyn ar ei deithiau. Mae rhai o'r delweddau yn seiliedig ar ffaith – ond fe allai'r gweddill fod ar sail dychymyg neu bropaganda'r cyfnod.

Dau berson yn unig sy'n ymddangos ym mhanel cyntaf Canada. Mae pobl frodorol y rhanbarth yn ganolog i'r ddelwedd, yn gwisgo penwisgoedd traddodiadol. Ond fe ddarlunnir nifer fawr o adar ac anifeiliaid mawr y tir yn y paentiad hefyd.

British Empire Panel (2) Canada

British Empire Panel (2) Canada c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae ail banel Canada fel pe bai'n dangos y bobl frodorol ar waelod ac i chwith y panel, a'r ymfudwyr Gorllewinol - sy'n ymddangos ar ben uchaf yr ochr dde - fel pobl sy'n newid yr amgylchedd. Mae'r llun yn mynd yn llai o drwch o blanhigion ac anifeiliaid wrth i'r newydd-ddyfodiaid ddechrau arolygu'r tir, torri'r coed a newid y dirwedd wrth iddynt ymwreiddio yno eu hunain.

British Empire Panel (3) Canada

British Empire Panel (3) Canada c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae panel 4 yn dangos Canada mewn cyflwr o baradwys, gyda'r enfys yn fframio'r ddelwedd, a cholomennod tangnefedd yn hedfan o gylch y gweithwyr: mae hanner uchaf y panel yn gysylltiedig â'r gwaith blaenorol ym mhanel 3 lle dechreuodd y difrod i'r dirwedd.

British Empire Panel (4) Canada

British Empire Panel (4) Canada c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae'n bosibl fod y propaganda yn parhau i fod ar waith yn y panel hwn, gan fod bwnsieidiau enfawr o fananas – sydd dim yn tyfu'n naturiol yng Nghanada, oherwydd yr hinsawdd – yn ganolog i'r ddelwedd o ffrwythau ecsotig, a phobl yn cael eu gwasgu gan gynnydd. Mae'r ddelwedd hon yn cyfleu symudiad Prydeinwyr i leoliadau ledled y byd.

Y panel Canada olaf yw'r un cyntaf yn y gyfres sy'n cynnwys pobl wyn neu Gawcasaidd fel prif bobl y cyfansoddiad – ac mae'n enwedig o bwysig am ei fod yn cyflwyno menywod a phlant gwyn fel rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig dramor.

British Empire Panel (5) Canada

British Empire Panel (5) Canada c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae symud at y panel Gorllewin Affrica yn datguddio obsesiwn parhaus y cyfnod â chyrff noeth menywod Du sy'n amlwg ym mhaentiadau drwy'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

British Empire Panel (6) West Africa

British Empire Panel (6) West Africa c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Fe ymddengys y ddwy fenyw – ynghyd a'r jiraffod, llewod ac anifeiliaid gwylltion eraill – fel petai nhw'n codi o helaethrwydd y fflora a orchuddiai ranbarth Gorllewin Affrica. Mae'r lluniau astudiaethol a gedwir yn yr Art Gallery of NSW yn Awstralia, yn dangos brasluniau'r artist o fenywod hanner-noeth.

Yn briodol iawn, panel India'r Gorllewin yw'r nesaf yn y gyfres. Cansenni siwgwr yw'r prif ddelwedd fan hyn. Mae hyn yn gymwys, oherwydd siwgwr oedd ffynhonnell llawer o gyfoeth yr Ymerodraeth Brydeinig yn sgil masnacheiddio a manteisio ar Bobl Ddu o Affrica yn y triongl o fasnacha caethweision rhwng y DU, Affrica a'r Caribî.

British Empire Panel (7) West Indies

British Empire Panel (7) West Indies c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae'r ddau oedolyn yn y ddelwedd hon yn gweithio ar y tir. Mae gan un ohonynt blentyn ar ei gefn wrth iddynt lafurio. Dangosir tomatos, sy'n frodorol i gyfandir De America, yn brif blanhigyn bwytadwy yn y darlun.

Gan symud tua'r dwyrain gyda phanel 8 sef Siám, a elwir yn Wlad y Thai erbyn hyn, fe welwn ni ddarluniad tebyg o bobl y rhanbarth fel portreadid nhw ym mhanel India'r Gorllewin: dau oedolyn tu fas yn y byd naturiol, un yn cario plentyn.

British Empire Panel (8) Siam

British Empire Panel (8) Siam c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae'r cyrchau Prydeinig hyn i'r Dwyrain yn cael eu dangos mewn set o baneli sy'n ymddangos fel delwedd treigl-amser (time-lapse).

Y prif lliwiau yw'r gwyrdd a melyn naturiol, daearol, gyda thasgiad llachar o goch peryglus, fel yn yr adar ar ben uchaf y panel. Mae'r anifeiliaid a'r adar yma yn hamddenol a chwareus yn eu hamgylchedd tra ym mhanel Gorllewin Affrica mae nhw'n ymddangos gyda'u pennau i fyny ac yn effro i'w hamgylchoedd.

Mae'r panel Byrma (Myanmar) yn ymddangos fel darlun o ddiwylliant perfformiadol. Mae'r menywod yn eu gwisgoedd bron fel actorion yn perfformio ystrydebau Gorllewinol o hunaniaeth y wlad.

British Empire Panel (9) Burma

British Empire Panel (9) Burma c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Unwaith eto, mae'r paneli yn wyrdd a melyn yn bennaf ar y mannau uchaf, a gwyrdd dwfn ar eu gwaelodion – fel pe byddai'r dirywiad a'r dinistr a achosodd y lindys tewion ar y top yn cael eu disodli gan sail gadarn yr Ymerodraeth.

Mae'r degfed o baneli'r Ymerodraeth Brydeinig – India – yn parhau â thraddodiad y ddau banel blaenorol, gyda lliwiau mwy ysgafn ar ben y darlun, a lliwiau mwy dwys, tywyll tua'r gwaelod.

British Empire Panel (10) India

British Empire Panel (10) India c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae gwaelod y panel yn llawn o bobl Indiaidd – gan fwyaf llafurwyr hanner-noeth yn cario nwyddau. Y panel hwn yw'r cyntaf i gyflwyno lliw glas brenhinol llachar, dwfn ar ddillad rhai o'r ffigurau.

Mae panel 11 hefyd yn canolbwyntio ar ran Indiaidd yr Ymerodraeth Brydeinig. Brown daearol yw prif liw'r panel, sy'n ymddangos yn yr adeiladau yn y cefndir a'r bobl yn y tu blaen. Llafurwyr yw'r bobl yn y llun – maen nhw'n cario basgedi gorlawn o ffrwythau a nwyddau i'r cartref ar eu pennau.

British Empire Panel (11) India

British Empire Panel (11) India c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae panel 12 yn canolbwyntio ar gynhaeaf y tir. Mae'n darlunio ystod eang o bobl yn casglu, cario ac yn gwerthu cynnyrch naturiol. Mae'r syniad o haelioni yn cael ei fynegi hefyd drwy'r nifer enfawr o blant sydd yn y paentiad – naill ai'n helpu i gasglu'r nwyddau neu'n dal eu gafael yn yr oedolyn sy'n cario'r eitemau.

British Empire Panel (12) India

British Empire Panel (12) India c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae panel Dwyrain Affrica yn canolbwyntio ar amrywiaeth a thrwch natur, a maint y bywyd gwyllt, yn arbennig yr eliffant a'r rhinoseros (mae astudiaeth ar ei gyfer yn Amgueddfa Fitzwilliam).

British Empire Panel (13) East Africa

British Empire Panel (13) East Africa c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae absenoldeb pobl yn y darlun hwn yn arbennig o drawiadol oherwydd y panel blaenorol. Yn y darlun hwn y mae ffrwyth 'ecsotig' y pîn-afal yn ymddangos am y tro cyntaf, yn y gornel dde ar y gwaelod.

Mae cynhesrwydd panel Awstralia yn cael ei gyflawni trwy ddefnydd cynnil yr artist o liwiau oren, a phorffor a chochion distaw.

British Empire Panel (14) Australia

British Empire Panel (14) Australia c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae'r fenyw wen sy'n ymestyn am ffrwyth yn awgrymu syniadau o baradwys neu Ardd Eden. Nid oes unrhyw Awstraliaid brodorol yn y paentiad hwn, ac mae'r anifeiliaid i gyd yn ymddangos yn ddof ac yn ddiberygl.

Mae panel 15, ar thema India'r Dwyrain, yn dychwelyd at ffurfiad a welwyd yn flaenorol yn y gyfres sef dau o bobl wedi eu hamgylchynu â fflora ac ychydig o anifeiliaid.

British Empire Panel (15) East Indies

British Empire Panel (15) East Indies c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae'r ddelwedd hon yn rhoi ymdeimlad o bobl yn cael eu llethu gan y planhigyn mawr gwyrdd sy'n llenwi canol y ffrâm ac yn ymledu'r tu hwnt i'w ffiniau. Mae bananas yn nodwedd o ganol y panel hwn hefyd – fel ym mhanel Canada.

Mae Neuadd y Brangwyn yn cynnwys 17 o baneli nawr, gan fod panel ychwanegol wedi ei greu i lenwi'r bwlch uwchben y drws yn y Neuadd Gynnull. Mae'r panel addurniadol hwn sy'n llai ei faint yn dangos cynghanedd ddelfrydol rhwng natur a'r amgylchedd.

British Empire Panel (16) Decorative Panel

British Empire Panel (16) Decorative Panel c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae'r panel olaf, Gogledd Affrica, yn cynnwys dau o bobl, a llawer o elfennau sy'n ailadrodd o baneli eraill y gyfres. Ond mae'r camel (i'r dde) yn unigryw i'r panel hwn, yn ogystal â dail y palmwydd.

British Empire Panel (17) North Africa

British Empire Panel (17) North Africa c.1930

Frank Brangwyn (1867–1956)

Glynn Vivian Art Gallery

Aeth Brangwyn yn brentis i William Morris rhwng 1882 a 1884, a dysgodd egwyddorion celfyddyd a dylunio addurnol. Fodd bynnag, nid ymgymerodd ag unrhyw hyfforddiant artistig ffurfiol, ac fe amlygir hynny yn arddull cymhleth a phersonol y paneli hyn.

Roedd Frank Brangwyn yn artist cynhyrchiol iawn ac amcangyfrifir iddo greu 12,000 o weithiau yn ystod ei oes, yn cynnwys darluniau, paentiadau, dyluniadau ar gyfer eitemau i'r cartref a murluniau mawr fel Paneli'r Ymerodraeth. Cynrychiolodd Brangwyn Brydain yn Arddangosfa Gelfyddyd Ddwyflynyddol Fenis, ac efe oedd yr artist cyntaf i gael arddangosfa ôl-syllol yn yr Academi Frenhinol yn ystod ei oes.

Parodd gwrthodiad paneli'r Ymerodraeth Brydeinig i Brangwyn brofi iselder mawr yn dilyn treulio saith mlynedd yn gweithio ar ei furluniau. Serch hynny, mae ei bortread unigryw ef o'r Ymerodraeth – er gwaethaf ei gyd-destun cymhleth yn unol ag ideoleg drefedigaethol – wedi cael ei atgynhyrchu yn barhaus am ddegawdau, ac mae gwaith Brangwyn yn cael ei gadw a'i arddangos ledled y byd.

Marjorie H. Morgan, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a newyddiadurwr

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Enora Le Pocreau, 'Paneli'r Ymerodraeth', Nawr yr Arwr