'Onid menyw ydw i?' gofynnodd Sojourner Truth yn ei haraith enwog yng Nghonfensiwn Hawliau Menywod 1851 yn Akron, Ohio. Sojourner - ymgyrchydd ac areithydd a ddaeth yn rhydd o gaethwasiaeth - oedd yr unig fenyw Ddu yn y confensiwn, ac roedd llawer o bobl o'r farn na ddylai annerch yno. Roedd ffeministiaeth gynnar yn canolbwyntio'n fawr ar hawliau menywod gwyn, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, ac roedd araith Sojourner yn ymateb uniongyrchol i hynny: 'Onid menyw ydw i?' gofynnodd dro ar ôl tro. Caiff ei haraith ei chofio heddiw fel moment o bwys yn hanes y Gorllewin a'r frwydr groestoriadol dros hawliau menywod.
Ymhen amser, mabwysiadwyd y cwestiwn syml hwn gan bell hooks yn deitl i'w chyfrol ddylanwadol Ain't I a Woman? Black Women and Feminism (1981). Dyna hefyd yw teitl arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa – arddangosfa i gnoi cil drosti, sy'n cynnwys gweithiau comisiwn newydd gan yr artistiaid Adéọlá a Catriona Abuneke.
Golwg ar osodwaith yn 'onid menyw ydw i?'
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, 2024
Yma, daw ysbrydolrwydd y diaspora Affricanaidd wyneb yn wyneb ag arch-gyfoethogion hanesyddol Merthyr mewn arddangosfa fechan ond pwerus. Mae'r arddangosfa yn awgrymu posibiliadau newydd ar gyfer deall cyfoeth, bywyd menywod, hil, a gwaddol gorffennol diwydiannol-trefedigaethol Cymru. Mae'n datgelu cost ddynol diwydiannu, ac yn cyflwyno opsiwn arall i gyfalafiaeth Orllewinol ar ffurf y dduwies Aje, symbol Yorùbá o fasnach, ffyniant a chyfoeth.
Mae'r arddangosfa'n rhan o Ffoto Cymru: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru. Gwahoddodd Ffotogallery bedwar o artistiaid benywaidd neu anneuaidd i greu ymateb gweledol i archifau ledled Cymru, gan ddechrau â'r cwestiwn 'Yr hyn a welwch yw'r hyn a gewch?' Roedd yr ŵyl yn annog pobl i archwilio straeon y cyrion: y straeon a wnaed yn anweledig, a wthiwyd i'r ymylon neu'r pethau na sonnir amdanynt yn aml.
View this post on Instagram
Fel rhan o'r ŵyl, comisiynwyd Adéọlá a Catriona Abuneke i greu gweithiau newydd mewn ymateb i eitemau o archif a chasgliadau Cyfarthfa. Mae eu hymateb, ar y cyd, yn cynnwys ffotograffau ddigidol, fideo a phapur wal a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa.
Nid un naratif syml sydd i'r arddangosfa. Yn hytrach, caiff gwrthrychau a delweddau eu cyfosod gan roi cyfle i ystyron newydd a chudd ddod i'r amlwg. Ymhlith y themâu a archwilir mae hawliau gweithwyr, yr hawl i bleidleisio, ysbrydolrwydd, y cartref fel man arddangos, a chyfoeth a chost ddynol diwydiannu ar raddfa fawr.
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Gwaith Haearn Cyfarthfa oedd y mwyaf yn y byd. Daeth â mwy o gyfoeth nag erioed i dde Cymru, gan wneud Merthyr Tudful yn bwerdy'r chwyldro diwydiannol. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfoeth yn nwylo criw bach o bobl: meistri haearn Merthyr Tudful a'u teuluoedd, yn cynnwys y Crawshays. Cymysg oedd gwaddol hyn a'i effaith ar y gymuned leol. Er bod rhai'n gweld y Castell yn symbol o ffyniant Merthyr a chyfleoedd annisgwyl newydd i weithwyr, i eraill roedd yn symbol o ormes ac annhegwch eithriadol o ran cyfoeth.
Golwg ar osodwaith yn 'onid menyw ydw i?'
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, 2024
Mae yna we o gysylltiadau byd-eang hefyd. Fel yr eglura Eric Williams yn Capitalism & Slavery – llyfr y cyfeirir ato'n gynnil yn yr arddangosfa – sefydlwyd ffwrneisi Cyfarthfa yn y ddeunawfed ganrif trwy fuddsoddiad gan Anthony Bacon. Daeth ei gyfoeth ef o elw'r fasnach drefedigaethol a masnachu pobl ar gyfer caethwasiaeth. Mae'r cyrff Du a welir yn yr arddangosfa'n coffáu'r bobl a ddioddefodd, a fu farw neu a amddifadwyd o'u dynoliaeth, ac y bu eu hecsbloetio a'u cam-drin yn fodd i baratoi'r ffordd ar gyfer chwyldro diwydiannol Cymru.
Roedd Rose Mary Crawshay, gwraig meistr gwaith haearn Cyfarthfa, Robert Thompson Crawshay, yn ymgyrchydd brwd dros y bleidlais i fenywod, ac yn dadlau dros addysg a llyfrgelloedd lleol. Ond mae ei haraith ar 'Fater y Bleidlais i Fenywod' yng Nghapel Soar, Merthyr ar 18 Hydref 1873 yn datgelu bod hyd yn oed y ffeminyddion gwyn a'r ymgyrchwyr cymdeithasol mwyaf selog wedi dod o dan ddylanwad agweddau cyffredin yr oes at hil a threfedigaethu.
Papur wal (manylyn) mewn ystafell a fu gynt yn swyddfa i'r Crawshays
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
Mae rhai o eiriau araith Rose Mary wedi'u hysgrifennu â llaw mewn papur wal a luniwyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon. Mae papur wal yn rhywbeth ymylol: yn bodoli ar gyrion ein byd domestig, ac sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Mae Adéọlá yn nodi sut y cafodd ei hysbrydoli'n rhannol gan bapur wal ystafelloedd Cyfarthfa – ystafelloedd a fu gynt yn rhan o gartref y teulu Crawshay, ac sydd bellach yn fannau arddangos. Wrth gyflwyno papur wal fel gwaith celf, cawn ein gwahodd i feddwl am ddodrefn y cartref mewn ffyrdd newydd, gan gymylu'r ffiniau cysyniadol rhwng bywyd y cartref ac arddangosfa gelf.
onid menyw ydw i?
2024 (manylyn), papur wal a wnaed yn arbennig gan Adéọlá
Yn y papur wal a gomisiynwyd, mae Adéọlá yn galw ar ysbryd y dduwies Aje. Duwies digonedd yw Aje: mae'n darparu ar gyfer pobl, ac yn symbol o ffyniant a chyfoeth y gymdeithas gyfan yn hytrach na'r unigolyn. Mae'n cynrychioli agwedd at gyfoeth sy'n wahanol i syniadau cyfalafol y Gorllewin.
Mae'r papur wal yn cynnwys Vèvè dychmygol i'w offrymu i Aje (lluniau wedi'u tynnu o ysbrydion Yorùbá a Vodou yw'r Vèvè). Hefyd, mae rhesi o gregyn Mair ('cowrie shells') yn batrwm ar hyd y cynllun. Defnyddid cregyn Mair mewn defodau yn offrymau i'r dduwies Aje ac, yn aml, roedd iddynt ddiben ysbrydol. Yn ogystal câi'r cregyn eu defnyddio yn Affrica fel arian i fasnachu. Yn y papur wal, mae'r cregyn Mair wedi eu dangos ochr-yn-ochr â chadwyni trwm, a ddefnyddiai'r teulu Crawshay i ddangos safon y metel a gâi ei gynhyrchu yng Nghyfarthfa.
G. T. Clark (1809–1898), Esq., FSA
1872
Joseph Edwards (1814–1882)
Mae dau symbol pwerus ond gwrthgyferbyniol o gyfoeth – y cregyn Mair a'r cadwyni trwm – yn cydredeg mewn llinellau paralel ym mhatrwm y papur wal. O'u cwmpas mae lluniau o eitemau o gasgliad Cyfarthfa, fel penddelw farmor o G. T. Clark, rheolwr Gwaith Haearn Dowlais, yn edrych yn sarrug. Mae pâr bychan o glocsiau lledr – eitem o'r casgliad sydd â tharddiad anhysbys – yn ein hatgoffa o effaith diwydiant ar blant, er na wyddom o hyd pwy oeddent na beth oedd eu straeon. Mae cloc mawr o Oes Fictoria yn symbol o'r gweithwyr a'u llafur – yn clocio i mewn ac yn clocio allan – eu hamser yn eiddo i'r Meistri Haearn ac yn cael ei reoli'n llym ganddynt. Dywed Adéọlá fod yr eitemau y daethant ar eu traws wrth archwilio'r casgliad 'fel pe baent wedi'u cloi mewn amser'.
Esgid-glocsiau bach lledr â gwadnau pren i blentyn
o'r 19eg ganrif efallai, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
Ar un adeg, ystafell chwarae plant Castell Cyfarthfa oedd yr ystafell lle caiff y comisiwn hwn ei arddangos. Mae elfen chwareus yn y ffordd y cafodd yr eitemau eu trefnu a'u cydosod yma: maent yn adleisio'i gilydd ac fel pe baent yn sgwrsio, gan ryngweithio mewn ffordd sy'n ymddangos yn fwriadol ond eto ar hap.
Cerflun marmor a grewyd gan Orazio Andreoni yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Menyw dan Fêl (Veiled Woman). Mae'n dangos pen ac ysgwyddau menyw, ei hwyneb yn lled guddiedig o dan fêl. Mae'r fêl yn creu crychdonnau i lawr ei hwyneb, fel dŵr yn rhaeadru, gan roi naws swreal, freuddwydiol i'r gwaith. Mae hi wedi cau ei llygaid, a'i dwylo'n ymwthio'n gynnil o siôl wedi'i lapio'n dynn am ei hysgwyddau. Mae'n dal llyfr yn ei llaw dde, a'i mynegfys yn llithro rhwng y tudalennau fel nod llyfr.
Roedd cerfluniau o fenywod yn gwisgo fêl yn boblogaidd yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ar bymtheg. Ar yr wyneb, roeddent yn ffordd o ddangos gallu technegol y cerflunydd – mae'n anodd iawn cyfleu croen meddal a fêl mewn marmor. Ond mae hefyd yn arwyddocaol mai merched neu fenywod oedd o dan y fêl gan amlaf, a'u bod yn perthyn i 'deipiau' penodol – gwyryf bur, priodferch, nymff. Yn ôl Adéọlá, 'mae symbolaeth yn perthyn i fenyw o dan fêl: mae'n weladwy ac eto'n anweledig.'
onid menyw ydw i?
2024, print ffotograffig wedi'i addasu'n ddigidol, gan Catriona Abuneke
Mae'r tyndra rhwng y gweladwy a'r anweledig i'w weld hefyd yn ymateb ffotograffig Catriona Abuneke, lle mae'r cerflun wedi'i guddio'n rhannol o dan haenau, gweadau a phatrymau sy'n galw i gof gadwyni, les wedi'i frodio, crychdonnau a golau plŷg: pethau sy'n ystumio, yn cuddio ac yn datgelu.
Golwg ar osodwaith yn 'onid menyw ydw i?'
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, 2024
Mewn darn arall, mae ffotograff o The Elf gan William Goscombe John wedi'i arosod dros gefndir oren-goch tanllyd, gweadog iawn. Mae hanner uchaf y llun wedi'i lenwi â haenau gweadog: patrwm saethbennau llwyd a rhesi lliw tywod llorweddol, fel tirwedd yn cilio i'r pellter fesul haen. Mae croen y ffigwr yn adleisio'r patrymau o'i chwmpas – bron fel cameleon, gan ein hatgoffa, efallai, fod ein cyrff yn gyfuniad cymhleth o'r hyn rydym yn eu cario o'n mewn, a'r pethau a ddaw i ni o'r tu allan.
The Elf oedd gwaith mwyaf llwyddiannus Goscombe John. Crëodd sawl fersiwn. Mae The Elf yng Nghyfarthfa yn fersiwn lai o'r cerflun marmor maint llawn a wnaed yn 1899. Cafodd y darn ei ganmol gan gyfoeswyr Goscombe John fel un oedd yn dangos ei feistrolaeth dros symudiad a ffurf, ond yr hyn na ddywedant yw'r hyn a gawn mewn gwirionedd: menyw ifanc, â wyneb bach tlws, yn noeth ac yn ei chwrcwd o'n blaenau. Mae ei chorff yn troi fymryn sy'n ein gwahodd i gylchu o'i chwmpas a gweld ei noethni o bob ongl. Daw hyn â ni yn ôl at y cwestiwn 'Yr Hyn a Welwch yw'r Hyn a Gewch?', a'r sylweddoliad y gall y gwirioneddau mwyaf fod – weitihau - wedi'u cuddio yn yr hyn sydd heb ei ddweud.
View this post on Instagram
Steph Roberts, Golygydd Comisiynu, Cymru gydag Art UK
Mae 'onid menyw ydw i?' yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa tan 22 Rhagfyr 2024, yn rhan o Ffoto Cymru: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru
Gyda diolch i Adéọlá a Catriona Abuneke am roi mewnwelediad gwerthfawr i'w gwaith mewn cyfarfod 'Cwrdd â'r Artistiaid' yng Nghastell Cyfarthfa ar 20 Hydref 2024
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfiethiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Eric Williams, Capitalism & Slavery, University North Carolina, 1994
Chris Evans, Slave Wales: the Welsh and Atlantic Slavery 1660–1850, Gwasg Prifysgol Cymru, 2010
Diana Bestwish Tetteh, 'Photo Cymru: 5 to See', Aesthetic Magazine, Hydref 2024
'Were there Black Suffragettes in Britain?', Find my Past, 2020