'Fixed in the memory, a rich seam of strife and suffering, sudden death, choking disease, degradation and dignity.'

Mae'r cyflwyniad hwn – o'r ffilm ddogfen Nick Evans RCA - Kane on Friday (1979) am yr artist o Gymru Nicholas Evans – yn ddisgrifiad priodol o'r gwaith a grëwyd gan y cyn-löwr dros gyfnod o 26 mlynedd.

Miners

Miners 1983

Nicholas Evans (1907–2004)

BBC

Ganwyd Nicholas Evans ym 1907 yn Aberdâr, ac fe'i magwyd yng nghalon cymuned lofaol glos. Tan ei farwolaeth yn 2004, yr oedd hi'n gymuned y ceisiodd ei phortreadu yn ei waith celf mewn ffordd ddidwyll – weithiau yn ymylu ar y dramatig - ond wastad gyda chariad dwfn tuag at ei phobl.

Transport to the Far End

Transport to the Far End 1976

Nicholas Evans (1907–2004)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Roedd tad Nicholas Evans yn löwr ac fe fu ei fam yn ferch pwll glo. Fe gychwynnodd Evans fel glöwr pan yn 14 mlwydd oed. Dwy flynedd yn ddiweddarach fe laddwyd ei dad ym Mhwll Glo Fforchaman. Yn unol â'r traddodiad, fe ddychwelwyd ei gorff i'r cartref ac fe'i gosodwyd ar fwrdd y gegin.

Ni anghofiodd Evans fyth mo'r adeg y gwelodd, drwy ffenest ei lofft, corff ei dad yn dychwelyd i'r cartref. Roedd hwn yn drobwynt i Evans, gan y bu sawl marwolaeth ymhlith ei deulu a'i gymdogaeth glos. Yn unol â dymuniad ei fam, ni ddychwelodd Evans i'r pwll glo yr oedd mor hoff ohono, ac fe aeth yn yrrwr trenau ar gyfer Great Western Railways. Er hyn, roedd e'n hiraethu am y pyllau glo gan ei fod yn teimlo eu bod nhw yn ei waed a'i enaid.

At the Coal Face

At the Coal Face 1978

Nicholas Evans (1907–2004)

Government Art Collection

Am weddill ei fywyd parhaodd Nicholas Evans i fyw a gweithio ger y pyllau glo a'u pobl. Roedd e bron ag ymddeol pan droediodd i'r byd celf. O hyn allan aeth ati i arllwys ei atgofion a'i edmygedd tuag at y diwydiant, ar fyrddi caled a baratowyd gydag emwlsiwn.

Fe ddefnyddiodd Nick Evans, fel y galwodd ei hun, ei fysedd a chlytiau wrth baentio. Roedd e'n gwybod yn reddfol yr hyn yr oedd am rannu gyda'r byd: ei angerdd dros y gweithwyr, a hynny gydag empathi yn hytrach na theimladrwydd. Wrth ddisgrifio'i dechneg esboniodd Evans ei fod yn ymwybodol bod rhai o gewri'r byd celf – megis Michelangelo a Leonardo da Vinci – yn paentio gyda'u bysedd. Roedd y dechneg yn debyg i chwarae'r piano ym meddwl Evans, ac fe esboniodd bod 'gymaint o lawenydd i'r profiad.'

Untitled (Pithead Scene)

Untitled (Pithead Scene) 1976

Nicholas Evans (1907–2004)

Glynn Vivian Art Gallery

Fe ganiataodd grant o £1,000 gan y Cyngor Celfyddydau i Evans greu corff sylweddol o baentiadau a arweiniodd at sioe un-dyn yn Oriel Gallery yng Nghaerdydd ym 1978. Yn sgil llwyddiant y sioe hon aeth yn ei flaen i Lundain ac i Browse & Darby, ac yn y fan honno gwelodd Lawrence Gowing, Pennaeth Slade School of Art, ei waith: 'Roeddwn yn ymwybodol ein bod ni ym mhresenoldeb rhywbeth prin iawn… rhywbeth apelgar tu hwnt sy'n ymateb i amodau bywyd pobl gyffredin.' Pan welodd Evans ei enw ar ffenest yr oriel, fe wylodd. Yr oedd yn artist heb un wers gelf yn perthyn iddo, yn arddangos mewn oriel gelf yn Llundain.

Yn ei gyfweliad ym 1979 dywedodd Vincent Kane ei fod yn gweld 'marwolaeth a dioddefaint a dadrithiad' wrth edrych ar y paentiadau, ac fe ofynnodd i Evans a oedd e'n teimlo'r un peth. Roedd Evans yn cytuno, ond fe ychwanegodd, 'Mae'r frawdoliaeth yn gryfach o lawer, dw i'n meddwl. Y ffrindiau hynny a fyddai'n dy helpu pan fo angen. Ni welais hynny mewn yr un fan arall, dim ond yn y pyllau glo.'

Pit Closure, Miners Coming Up

Pit Closure, Miners Coming Up 1977

Nicholas Evans (1907–2004)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Wrth baentio, fe gychwynnai Evans gydag wyneb, ac fe fyddai'n siarad gyda'r wyneb hwnnw fel petai e'n hen ffrind. Byddai un syniad yn arwain at y nesaf ac fe fyddai'i ddwylo'n gweithio'n gyflym ar draws y cynfas, gan ddod â'r bobl a'u straeon yn fyw. Roedd y cynfasau, yn llwm ac yn dywyll, un ar ôl y llall, yn datgelu agweddau o fywyd gwaith a bywyd cymdeithasol y gymuned lofaol. Wrth drafod y corff enfawr o waith a greodd, fe ddisgrifiodd ei hun yn 'Hanesydd y Glöwr' – epithed sy'n disgrifio'i waith yn berffaith.

Bywyd yn y pyllau glo

Coming to the Surface

Coming to the Surface 1983

Nicholas Evans (1907–2004)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae llawer o waith Evans yn dangos bywyd beunyddiol y pyllau glo. Yn ei waith Coming to the Surface, mae'r dynion yn swatio at ei gilydd mewn cawell sy'n dod â nhw yn ôl i'r wyneb ar ôl diwrnod o waith. Mae eu Lampau Davy yn wag ac mae goleuadau eu helmedau yn pylu. Mae'r blinder yn amlwg ar eu hwynebau wrth iddynt edrych allan atom ni. Dyma fywyd caled, heb os.

Yn ei gerdd, Shaft, fe ddisgrifiodd Sam Cairns sut beth oedd bod y tu mewn i'r lifft:

Within this metal cage
men are momentarily trapped
their lives and their families livelihoods
hang by the strength of ropes
tensility of the steely prison-like structure
skills of its makers
and mastery of the winder operator. They are all trusted
as are the nuts and bolts holding them together.

Claustrophobia

Claustrophobia

Nicholas Evans (1907–2004)

Rhondda Heritage Park

Mae'n anodd iawn dychmygu bod mor bell dan ddaear, oni bai eich bod chi wedi profi'r peth, ond yn Claustrophobia, mae Evans yn mynd â ni at galon y profiad. Mae'r cyrff gwyrgam wedi'u gwthio i'r gofod lleiaf o'r foment y maent yn camu i'r gawell ac yn mynd i lawr i'r pwll. Roedd Evans yn gweld y glöwr fel ffigwr arwrol, ond nid oes rhamantiaeth i'w gweld yma. Mae'r dynion yn ceisio gafael ar ddarn o dir eu hunain, a'u dwylo ysgerbydol yn dal ati i gloddio. Gallwch bron a dychmygu bod y gwaith hwn wedi'i greu o'r llwch sy'n gorchuddio'u cyrff.

Hunger Marchers

Hunger Marchers 1977

Nicholas Evans (1907–2004)

Pontypridd Museum

Roedd cau'r pyllau glo yn fygythiad parhaus ac roedd undebau'r glowyr yn brwydro drwy streicio. Yn Hunger Marchers (1977) a Coal Pickers During Strike (1978), mae Evans yn dangos yr anawsterau a wynebai'r cymunedau. Fe ddisgrifiodd Rhoda Evans, merch yr artist fywyd y gymuned yn ei llyfr o 1987: 'Roedd cartrefi'r glowyr yn oer ac yn ddrafftlyd. Byddai llawer, ynghyd a'u teuluoedd, yn mynd i'r pentwr sorod i chwilio am ddarnau sgrap o lo yn ystod y streiciau. Cafodd y safleoedd eu cloddio droeon yn ystod y streiciau. Bychan iawn oedd yr elw a mawr oedd yr ymdrech. Roedd hen ddarnau o bren, unrhyw beth a fyddai'n tanio, yn dderbyniol.'

Coal Pickers During Strike

Coal Pickers During Strike 1978

Nicholas Evans (1907–2004)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Peryglon mwyngloddio

Collapse of the Roof

Collapse of the Roof 1978

Nicholas Evans (1907–2004)

Arts Council Collection, Southbank Centre

Fe wyddai Nick Evans o brofiad mor beryglus oedd mwyngloddio, ar ôl colli ei dad ym 1923. Roedd ei deulu'n grefyddol ac fe ddaeth marwolaeth ei dad ag e'n agosach at un o'i gydweithwyr, Dai Pentecostal. Byddai Dai yn canu wrth ei waith, ac fe fyddai Nick yn ymuno ag e. Fe ddaeth Nick yn bregethwr cynorthwyol yn y pen draw.

Mewn llawer o'i baentiadau mae'n cyflwyno delweddau Cristnogol i'r gymuned lofaol. Yma mae pwll glo wedi dymchwel gyda chriw o weithwyr ynddi yn closio at ei gilydd, heb wybod beth yw eu ffawd. Mae Crist yn ymddangos fel goleuni'r ddaear, yn gwisgo dillad glöwr gyda'i freichiau ar led i warchod y dynion a'i allweddi euraidd yn dangos iddynt y ffordd ymlaen. Soniodd Rhoda Evans am ddynion yn cael eu 'hail eni' dan y ddaear: 'Roeddent yn cloddio er mwyn gogoniant Duw. Roeddent ymhlith y gweithwyr gorau ac yn gwneud eu gwaith fel ffurfwasanaeth.'

Entombed – Jesus in the Midst

Entombed – Jesus in the Midst 1974

Nicholas Evans (1907–2004)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Nid oedd trychinebau yn gaeth i'r pyllau glo: roeddent yn gallu effeithio ar y gymuned gyfan. Yn Aberfan (1979), mae Evans yn rhannu'r trawma a'r tor-calon a effeithiodd y gymuned gyfan yn sgil trychineb 21ain Hydref 1966. Fe ddaeth y tip glo, a grëwyd dros flynyddoedd maith i lawr y mynydd fel slyri, gan lyncu tai ac Ysgol Gynradd Pantglas; bu farw 116 plentyn a 28 oedolyn ar y diwrnod erchyll hwn.

Aberfan

Aberfan 1979

Nicholas Evans (1907–2004)

Glynn Vivian Art Gallery

Ym mhaentiad Evans fe welwn y teuluoedd yn swatio gyda'i gilydd yn eu galar, eu dwylo'n gorchuddio'u hwynebau mewn anobaith pur. Mae un yn dal baban yn agos, fel petai ofn y bydd y baban yn cael ei rwygo o'i mynwes. Mae'r eirch bychain yn ein hatgoffa ni o'r golled dorcalonnus o gynifer o fywydau ifanc.

Rôl menywod yn y pyllau glo

Women Working Windlass (Pit Top)

Women Working Windlass (Pit Top) 1978

Nicholas Evans (1907–2004)

Aberdare Library

Women Working Windlass (Pit Top), oedd un o baentiadau cynharaf Evans, o 1978. Yn y gwaith hwn mae e'n talu teyrnged i'r menywod hynny a weithiodd ar y wyneb ac sydd yn aml ar goll yn hanes glofaol. O 1842, er nad oedd menywod yn gweithio dan ddaear bellach, roedd eu gwaith ar wyneb y pwll glo yn hollbwysig: yn codi'r glo i'r wyneb, yn ei lwytho i gerbydau ac yna'n ei drefnu. Wrth i amser fynd yn ei flaen fe roddwyd y gwaith a wnaed gan fenywod i'r dynion a anafwyd mewn damweiniau.

My Mother was a Pit Girl

My Mother was a Pit Girl 1990

Nicholas Evans (1907–2004)

Cyfarthfa Castle Museum & Art Gallery

Yn ddiweddarach, yn ei baentiad My Mother was a Pit Girl (1990) fe ddangosodd Evans y menywod yn gwisgo hetiau bychain, er mwyn rhoi teimlad benywaidd i'r gwisgoedd. Fel dywedodd Rhoda Evans, 'Fe ddylem ni gofio, er bod y menywod yn gweithio fel dynion, mewn diwydiant budr, roedd balchder benywaidd yn perthyn iddynt.'

Changing of the Shift

Changing of the Shift 1978

Nicholas Evans (1907–2004)

Yale Center for British Art

Roedd pumdeg o flynyddoedd yn gwahanu profiadau Nick Evans fel glöwr a'i benderfyniad i fynegi ei deimladau a'i feddyliau am fywyd y glowyr drwy gelfyddyd. Fe barhaodd i baentio yn ei 90au, ac fe gynhaliwyd ei arddangosfa olaf 'In His Oils', ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn briodol iawn ar safle hen bwll glo, ym mis Mawrth 2001.

Does dim amau pŵer ei waith. Pan ofynnwyd iddo am ei waddol, dywedodd Nick Evans: 'Bwriad fy ngwaith yw dal eich sylw. Fe allwch fynd i oriel gelf a gweld lluniau o flodau hardd, neu fas o lygaid y dydd, neu goed. Fy ngobaith yw eich bod chi'n dod i stop wrth weld un o'm mhaentiadau i.'

Wendy Gray, awdur ac athro

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Rhoda Evans, Delwau Duon, Y Lolfa, 1987

Sam Cairns, The Hearts Live On, acepub, 2014