Cerfiwr pren a chrefftwr a weithiai yn Aberystwyth oedd Mabel Pakenham-Walsh. Roedd hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol ac yn storïwr – ac yn fenyw arloesol mewn cyfnod pan oedd yn anodd i fenywod sicrhau hyfforddiant yn y celfyddydau. Roedd gan Mabel enw am fod yn ecsentrig. Roedd hi'n gymeriad cryf, yn hynod o benderfynol ac yn gadarn ei barn, ac roedd hyn i'w weld yn ei gwaith celf, ei barddoniaeth a'i darluniau.

Self Portrait

Self Portrait 1964

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Cefais gyfarfod â Mabel pan oeddwn i'n gweithio yn Amgueddfa Ceredigion – byddai Mabel yn ymwelydd cyson. Fe ddes i'w hadnabod drwy weithio ar ei harddangosfa ôl-syllol yn 2012, ochr yn ochr â chyhoeddiad am ei bywyd a'i gwaith a chyfweliad a ffilmiwyd gan Culture Colony. Cynhaliwyd y cyfweliad yn ei chartref, mewn ystafell yn llawn gwrthrychau a gweithiau celf hynod, gan gynnwys darn o waith gan yr awdur a'r darlunydd Marcus Sedgwick.

Roedd Mabel yn ffigur adnabyddus yn Aberystwyth – roedd hi byth a hefyd ar y prom a byddai'n ymweld â ni yn aml yn yr Amgueddfa. Byddai'n llawn straeon am ei bywyd ac yn dod i wneud yn siŵr fod y gweithiau roedd hi wedi'u rhoi i'r Amgueddfa yn cael eu cadw'n iawn. Byddai hi'n fy nghyfareddu gyda straeon am ei bywyd, a'i phenderfyniad i ddod yn artist pan nad oedd hynny'n hawdd i fenywod anabl, neu i'r rheini oedd heb fawr o adnoddau ariannol.

Trumpeter

Trumpeter 1975

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Pan gwrddais i â hi, roedd Mabel yn defnyddio cadair olwyn. Pan oedd hi'n ifanc, bu mewn damwain car yng Nghaerhirfryn a dorrodd ei phenglog ac a olygodd fod cerdded yn drafferthus iddi. Bu'n rhaid iddi guddio ei hanabledd er mwyn cael ei derbyn i ysgol gelf yn Wimbledon – dywedodd wrthyf fod myfyrwyr anabl ar y pryd yn cael eu gwahardd rhag mynd i ysgolion celf, a doedd dim cymorth ar gael iddyn nhw. 'Yn y dyddiau hynny doeddech chi ddim yn "sâl"… ac ar ôl hynny, am ddeng mlynedd ar hugain, doedd neb yn fy nghredu oherwydd, dwi'n meddwl, bod cadw fy ymennydd yn fyw a chadw fy nwylo'n brysur wedi fy nghadw i fynd.'

Yn 2011, cynigiais y syniad o arddangosfa ôl-syllol iddi, a llwyddon ni i fenthyg darn allweddol, Gate, gan y Cyngor Crefftau fel canolbwynt i'r sioe. Doedd Mabel ddim yn iach yn ystod y cyfnod y buom ni'n gweithio ar yr arddangosfa, ac roedd ei chof yn pallu. Roedd yr arddangosfa'n gyfle i ni rannu a diogelu rhywfaint o hanes ei bywyd.

Rock Singer

Rock Singer 1978

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Ganwyd Mabel yng Nghaerhirfryn a chafodd ei magu mewn ysbyty iechyd meddwl lle'r oedd ei thad yn feddyg. Cafodd hyn effaith fawr ar ei bywyd cynnar. Pan oedd yn ferch roedd wrth ei bodd yn darllen, a chafodd ei chyflwyno i waith artistiaid drwy'r darluniau mewn llyfrau plant. Pan oedd yn ddeg, rhoddodd ei mam Grimm's Household Tales iddi, oedd yn cynnwys darluniau Mervyn Peake. Roedd hi wrth ei bodd gyda'i waith ac ar unwaith roedd yn awyddus i fod yn artist yn debyg iddo. Yn ddiweddarach daeth yn gyfeillgar gyda Peake a'i wraig yn Llundain, a daeth yntau'n fentor pwysig yn ei gwaith. Yn ddiweddarach cafodd ei hysbrydoli hefyd pan gyfarfu â Stanley Spencer a Henry Moore.

Astudiodd yng Ngholeg Celf Caerhirfryn, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Celf Wimbledon. Roedd yn edmygu gwaith artistiaid oedd ar y tu allan ('outsider artists'), a disgrifiodd luniau claf yn yr ysbyty, Billy Adams, yr oedd wrth ei bodd gyda nhw: 'Roedden nhw'n baentiadau realistig, ond heb addysg… roedden nhw'n pefrio, fel gemau.'

Beatles

Beatles 1979

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Roedd Mabel yn ddarbodus a defnyddiai wrthrychau wedi'u hailgylchu yn ei gwaith, gan gynnwys seddau toiled, hen ddrychau a gemwaith prydferth ar siâp ceffylau yr aeth ati i'w gerfio allan o alwminiwm hen garafán. Mae ei cherfiadau pren yn angerddol, yn ddarluniol ac yn lliwgar. Roedd yn cael ei denu gan enwogion, anifeiliaid, bwystfilod, straeon gwerin a straeon beiblaidd. Mae'n ailadrodd symbolau penodol yn ei cherfiadau, gan gynnwys rhosyn y Tuduriaid i gynrychioli ei magwraeth yng Nghaerhirfryn.

Sheeps in Hell

Sheeps in Hell 1970–1990

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Yn nifer o'i cherfiadau ceir darluniau o ddigwyddiadau arwyddocaol ym mywyd y teulu brenhinol, gan gynnwys priodas Charles a Diana, geni eu meibion a Jiwbilî y Frenhines. Mae'r cymeriadau sy'n llechu yn ei cherfiadau'n cyfuno'r chwareus a'r dwys. Caiff rhai straeon eu darlunio nifer o weithiau gan ddefnyddio lliwiau gwahanol i'r cymeriadau a'r anifeiliaid sydd i'w gweld. Mae fel pe baen nhw'n cynnig fersiynau gwahanol o stori neu unigolyn.

Love Spoon for Lesbians and Homosexuals

Love Spoon for Lesbians and Homosexuals 1981

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Roedd yn actifydd plaen ei thafod yn y mudiad gwrth-apartheid, ac yn aml byddai'n creu gwaith gyda negeseuon gwleidyddol. Roedd ei hymgyrchu'n cynnwys eiriol dros y gymuned LHDTC+, a ddarluniwyd yn gain yn Lovespoon for Lesbians and Homosexuals. Creodd Mabel hefyd nifer o gerfluniau pren bach. Un o fy ffefrynnau yw'r un o Boy George mewn pinc!

Boy George

Boy George 1985

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Ymhlith y pethau sy'n ei hysbrydoli, mae'n nodi celfyddyd lwythol, celfyddyd y dieithryn a chelfyddyd gyntefig, ac mae'r dylanwadau hyn yn ymddangos yn arbennig o gryf yn ei gwaith cerfweddol sy'n dangos creaduriaid a phobl yn cwympo – er enghraifft yn y gyfres Caradog and the Dogs. Mae'n bosibl cyflwyno'r cerfiadau hyn, sy'n debyg i baentiadau ogof, ar unrhyw ongl. Maen nhw'n seiliedig ar stori dyn o'r enw Caradog a gafodd ei fwrw oddi ar ei geffyl yn Nhŷ'n y Graig, ger Ystrad Meurig ar ôl cael ei ymlid gan gŵn. Aeth Caradog i mewn i'r nant i fwrw'r cŵn oddi ar ei drywydd. Daeth at raeadr, a chwympo drosti i gwrdd â'i dynged. Creodd Mabel sawl dehongliad gwahanol o'r stori, gan ailgylchu hen fwrdd bara i gerfio un fersiwn.

Caradog Falls at Ty'n y Graig

Caradog Falls at Ty'n y Graig 1983

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Wrth i Mabel heneiddio a datblygu arthritis, daeth yn anoddach iddi gerfio, ac aeth ati i ddechrau arlunio yn lle. Darluniodd ddelweddau o fywyd pob dydd yn Aberystwyth gan ddefnyddio beiro ar gardiau post A5 mewn llaw ychydig yn grynedig. Rhoddwyd y darluniau hyfryd hyn i Amgueddfa Ceredigion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â'i harchif o ohebiaeth. Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd nifer o hunanbortreadau prin o'r artist.

Self Portrait

Self Portrait 1959

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Cafodd Mabel ei swyno gan stori Coes y Bont, sy'n seiliedig ar garreg fedd ym mynwent Ystrad Fflur, â'r geiriau 'herein lies the leg of Henry Hughes, 1756.' Canfu mai cowper oedd Henry Hughes a bod y goets fawr wedi ei daro yn y pentref. Dywedodd Mabel 'mae'n gas gen i feddwl sut beth oedd y cymorth cyntaf ond roedd yn cynnwys gosod tar ar y goes... a pharhaodd â'i grefft fel cowper... yn Nova Scotia!' Claddodd y pentref y goes. Ceir sawl fersiwn o'r stori, ond roedd yn amlwg wedi cydio yn nychymyg Mabel – efallai oherwydd ei damwain car ei hun – a chreodd y cerfiad pren hwn a ysbrydolwyd gan yr hanes.

Leg Pontrhydfendigaid

Leg Pontrhydfendigaid 1970–1990

Mabel Pakenham-Walsh (1937–2013)

Amgueddfa Ceredigion Museum

Bu farw Mabel yn 2013, flwyddyn ar ôl ei harddangosfa ôl-syllol yn Amgueddfa Ceredigion, gan adael gwaddol pwysig fel eco-artist, ffeminydd ac actifydd arloesol. Byddai'n sefyll yn eofn yn erbyn gormes ac i gefnogi'r gorthrymedig, ac roedd yn daer ei huchelgais i greu celfyddyd, er iddi fyw mewn poen am y rhan fwyaf o'i bywyd. Mae ei bywyd a'i gyrfa'n arbennig o berthnasol heddiw, mewn cyfnod lle mae addysg celfyddyd dan fygythiad, ac artistiaid anabl yn parhau i wynebu rhwystrau niferus wrth greu eu gwaith.

Alice Briggs, artist a churadur

Mae llawer o gerfiadau pren Mabel i'w gweld yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau'r Cyngor Crefftau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Ganolfan Technoleg Amgen ac Amgueddfa Ceredigion

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogir y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg