Mae Tirwedd Ddiwydiannol, a beintiwyd gan Stephen Meyler tua 1980, yn dangos adeilad hirsgwar oeraidd. Tu ôl iddo i'r dde mae adeilad arall, a chorn simdde rhyngddynt. Mae'n anodd barnu'r pellter sy'n gwahanu'r gwyliwr a'r adeilad cyntaf, a'r pellter sy'n gwahanu'r ddau adeilad. Mae'n debyg mai warysau neu rywbeth felly ydyn nhw – dydy hyn ddim yn glir – ond eu pwrpas yw i gyfleu ôl diwydiant o fewn y tirwedd.
Mae'r adeiladau'n gadarn a sefydlog, tra bo'r cae o'i flaen yn aneglur fel petai'n symud. Mae'n cyfleu'r profiad cyfarwydd o weld tirwedd drwy ffenestr trên sy'n symud. Byddai Meyler, artist a aned yn Llanelli, wedi bod yn gyfarwydd â thirweddau diwydiannol yr ardal, fel y rhai y cefais innau hefyd fy magu ynddynt. Er gwaethaf y ffaith nad oes nodweddion topograffaidd amlwg yn y llun, mae'n dwyn i gof gwaith tun Trostre, ar gyrion y dref – golygfa yr ydw i wedi ei weld lawer rhy aml drwy ffenestr trên.
Dechreuodd Stephen Meyler ei hyfforddiant fel artist yng Ngholeg Celf Dyfed, Sir Gâr yn 1975. Yna bu'n astudio yn Ysgol Gelf Epsom – a gaeodd yn 1995, ac a gyfunodd yn 2005 â Sefydliad Celf a Dylunio Caint i ffurfio'r hyn rydyn ni'n ei adnabod nawr fel UCA. Yn y fan yma yr enillodd ei ddiploma. Yn 1979, dechreuodd weithio fel artist llawn amser. Dyna'r cwbl sy'n wybyddus amdano yn gyhoeddus – heblaw bod ei gelf, yn ôl y disgrifiad ar Art UK, yn cyfleu 'gwleidyddiaeth aralleiddio neu ddadbersonoli'r unigolyn mewn cymdeithas fawr fiwrocrataidd.'
Yn fras, mae'r syniad o 'aralleiddio gwleidyddol' yn syrthio i ddau gategori: anallu gwleidyddol, ac anfodlonrwydd. Yn ôl Marvin E. Olsen yn y categori cyntaf mae'r aralleiddio wedi ei orfodi ar yr unigolyn, ond yn yr ail achos yr unigolyn sy'n ei ddewis yn wirfoddol. A ellid ystyried y teimlad o anfodlonrwydd gyda'ch amgylchedd am resymau esthetig, yn ddewis? Pa mor wahanol yw'r ddau gategori hyn i'w gilydd mewn gwirionedd?
Mae paentiad olew gan J. G. Bevan, artist amatur arall o Lanelli, yn olygfa nad yw'n bodoli bellach - neu efallai nad yw wedi bodoli erioed. Mae Fferm Wag, Coedcae a beintiwyd rywbryd rhwng 1955 a 1965, yn dangos adfeilion ffermdy gyda'i tho'n ddeilchion, a'i ffenestri wedi eu torri. Coedcae yw'r fan lle mae fy hen ysgol gyfun yn sefyll, a lle treuliais bum mlynedd ddiflas yn yr ysgol.
Fel arfer, mae 'Coedcae' yn cyfeirio at ardal goediog – 'cae o goed' yn llythrennol – ac mae'n gysylltiedig â'r gair 'ffridd', sef gair sy'n golygu tir heb ffiniau yn nhafodiaith y gogledd. Cyn i Ysgol Gyfun Coedcae gael ei hadeiladu ym mlynyddoedd cynnar yr 1900au, mae'n debygol bod hon yn ardal o goed yn bennaf, neu'n ardal lle'r oedd coed, glaswellt a llystyfiant yn cyd-fyw.
Heblaw am ysgol a chae Coedcae lle mae plant yn aml yn chwarae rygbi a phêl-droed, gan fwyaf tai sydd ar y tir heddiw. Mae'n ansicr ymhle fyddai lleoliad y ffermdy o'r paentiad, yn enwedig yn ystod yr 1950au a'r 1960au a does dim cofnodion hanesyddol yn bodoli hyd y gwn i.
Mae'r diffyg hanes hwn yn golygu bod y gwaith a'i gyd-destun yn cyflwyno realiti darniog. Pe byddem ni'n awgrymu bod y dirwedd yn y paentiad yn ffug, a fyddem ni'n gallu dadlau ei bod hi'n haws i artist ddychmygu golygfa o bydredd ac adfeilion na dyfodol gobeithiol? Nid yw Fferm Wag, Coedcae Bevan mor wahanol â hynny i weledigaeth Meyler o ddiwydiant yn Tirwedd Ddiwydiannol – nid llwm, ond annelwig.
Er bod y ffermdy yn ynysig o fewn ei amgylchedd, mae presenoldeb y pydredd yn awgrymu nad yw hwn yn olygfa sefydlog - fel yr awgrym o symudiad ym mhaentiad Meyler. Mae amser yn symud yn ei flaen, a natur yn adfeddiannu popeth.
Mae'r diddordeb hwn yn y parth rhwng y diwydiannol a'r gwledig yn parhau i gyfareddu artistiaid eraill o Lanelli. Mae paentiad Martha Esther Pat Phillips, Stac Fawr, o'r simdde ffatri dalaf yn Llanelli ar y pryd yn dominyddu'r olygfa. Mae'r olygfa'n drwchus gyda mwg a fyddai wedi pasio dros yr ardaloedd cyfagos. Cyn i ddiwydiant lenwi'r tirlun, byddai'r werin bobl wedi gallu gweld yr awyr yn glir. A fyddai'r mwg wedi arwain at deimlad o aralleiddio?
Roedd Llanelli'n dref hynod o grefyddol ac yn ganolfan bwysig i Anghydffurfiaeth Gymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed – byddai mwy nag ugain o gapeli wedi bod yno ar adeg y paentio, yn 1897. A fyddai'r llygredd yma yn yr awyr wedi teimlo fel rhwystr ychwanegol rhwng pobl y dref a'u Duw?
Roedd Stac Fawr yn sefyll gerllaw Ffordd Gwaith Copr, Llanelli, a chafodd rhan ohoni ei chwalu yn 1928 – yna cafodd sail a sylfeini’r stac simdde fawreddog hon eu tynnu yn 1966. Dim ond tai sydd ar y safle hwn erbyn heddiw a does fawr ddim tystiolaeth o hanes Llanelli fel lle a oedd unwaith yn gyfrifol am gynhyrchu hanner cynhyrchiad cyfan y byd o dunblat. Mae gwleidyddiaeth y chwalu a'r busnes o godi tai yn magu teimlad o aralleiddio – mae'n dieithrio rhywun oddi wrth ei hanes a'i deimlad o hunaniaeth o fewn ei gynefin.
Philip Michael Evans, artist amatur arall o Lanelli oedd yn gweithio yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a beintiodd Armageddon, paentiad sy'n cynrychioli rhyfel niwclear. Mae'r gwaith yn fwy cyfoethog ei liw ac yn cyfleu ynni gwyllt na cheir ond awgrym ohono yn y gweithiau eraill dan sylw fan hyn.
Mae'n bosib peidio gweld cysylltiad amlwg â'r gweithiau eraill, ond yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw pryder am y dyfodol. Mae marweidd-dra'r diwydiant copr a thun yn Llanelli, a'r ofn o ryfel sydd o hyd taflu ei gysgod enfawr – ac a fydd yn ei dro yn gofyn am ymchwydd mewn diwydiannau rhyfel – yn cyfuno i greu teimlad o bryder ac yn aralleiddio'r unigolyn o fewn y gwaith.
Gwaith effeithiol iawn i gloi yw Y Dieithryn gan Julian Peter Charles. Cafodd hwn ei beintio yn 1962, ac mae'n bortread o ben ac ysgwyddau dau berson, mewn lliwiau coch a brown budr. Mae'r gwaith yn gofyn i ni troi'n sylw at ein hunan. A ninnau wedi ein hymgolli mewn dyfodol ansicr, a gorffennol na ellir ond ei hanner cofio, dealltwriaeth aneglur sydd gennym ohonom ein hunan.
Pwy sydd i ddweud yn sicr pam fod artistiaid o Lanelli wedi canolbwyntio cymaint ar aralleiddio unigolion a chymunedau? Yn y gweithiau hyn mae'n sicr ei bod wedi ei chysylltu â marweidd-dra diwydiant a bywoliaeth o fewn y dref. Wrth i amser ein symud ni o un rhyfel neu drychineb i'r nesaf, mae'n creu parth trothwyaidd lle gall person, neu dref gyfan hyd yn oed, ymgolli ar eu hunain.
Joshua Jones, awdur
Cefnogwyd y cynnwys gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Cyfieithiad o'r Saesneg
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Marvin E. Olsen, 'Two Categories of Political Alienation' Social Forces, Mawrth 1969
Treftadaeth Gymunedol Llanelli, 'Chimney Stacks of the Industrial Revolution'