Un noson gynnes yn 1944, wrth i griw o lowyr groesi pont yn Ystradgynlais ar eu ffordd adref o'u gwaith, newidiwyd bywyd artist o Wlad Pwyl am byth.

Roedd yr haul yn isel ac yn taflu gwawl oren ar yr olygfa. Go brin y sylwodd y dynion ar Josef Herman yn eu gwylio: pe baent wedi'i weld, efallai y byddent wedi meddwl tybed sut y cafodd artist ifanc alltud o Wlad Pwyl ei hun yn nhref fechan Ystradgynlais. Ond ym marn Herman, y glöwyr, nid ef, oedd yn haeddu sylw:

'Am hanner eiliad, ymddangosodd eu pennau yn erbyn yr haul crwn, fel pe baent yn erbyn disgen felen – doedd y darlun cyfan ddim yn annhebyg i eicon o seintiau ag eurgylchoedd uwch eu pennau... Roedd godidowgrwydd yr olygfa yn drech na mi.'

Y diwrnod hwnnw y cyrhaeddodd Herman, ar ymweliad o Lundain y disgwyliai iddo bara pythefnos. Arhosodd am 11 mlynedd, gan ennyn parch am ei waith yn croniclo cymunedau glofaol Cymru ar ôl y rhyfel. Sut y cyrhaeddodd yno?

Roedd Herman yn ymwybodol o helyntion yr oes ond gwelodd rywbeth arall yn Ystradgynlais hefyd: cymuned glòs, wydn a ffordd o fyw urddasol yr oedd yn ei pharchu ac yn dymuno'i hanrhydeddu.

Bu taith yr artist i Ystradgynlais yn un gythryblus. Ganwyd ef i rieni Iddewig dosbarth gweithiol yn Warsaw a chafodd ei hyfforddi'n gysodwr a dylunydd graffeg cyn troi at baentio. Roedd yn ddyn ifanc adain chwith, idealistig a oedd yn ymroi i ddarlunio profiadau pobl dlawd yng Ngwlad Pwyl. Lluniau o weithwyr yng ngetos y ddinas a gwerinwyr ym Mynyddoedd Carpathia oedd ei frasluniau cynharaf a chredai fod gwaith llawer o artistiaid modern, yn enwedig waith haniaethol, yn ddisylwedd. Yn 1938, pan oedd gwrth-Semitiaeth a'r bygythiad o ryfel ar gynnydd, symudodd ar ei ben ei hun i Frwsel. Ni fyddai byth yn gweld ei deulu eto. Yn 1940, cafodd ei ddadleoli i Glasgow, i ffoi wrth i'r Almaenwyr nesáu. Yno, ddwy flynedd yn ddiweddarach, darganfu fod ei rieni a pherthnasau eraill wedi'u llofruddio gan y Natsïaid.

Arllwysodd Herman ei alar i mewn i'w waith, gan greu 'darluniau cof' a oedd yn dwyn i feddwl ei blentyndod a'i dreftadaeth Iddewig, ynghyd â lluniau'n cyfleu erchyllterau'r pogromau. Yn 1943 symudodd eto, i Lundain, ond erbyn hynny roedd wedi ymlâdd yn emosiynol ac fel artist. 'Roedd fflam yr hiraeth am flynyddoedd fy mhlentyndod wedi llosgi'n llwyr a doedd dim byd wedi cymryd ei lle,' cofiai wedyn, 'heblaw rhyw deimlad annelwig ynghylch ffurfiau mawr, a chri o'm mewn am gred newydd yn nhangnefedd dyn.' Mae un darlun o'r cyfnod hwn, yng Nghasgliad Ingram, yn crynhoi brwydr yr artist. Mae'n dangos gwraig a phlentyn yn eistedd ochr yn ochr: maent yn pwyso ar ei gilydd gyda'u pennau i lawr, gan fynegi agosatrwydd a thristwch. Yn ogystal â bod yn ddelwedd ingol o ddyn yn dyheu am ei fam farw, mae'n alarnad sy'n mynegi profiad miliynau o ffoaduriaid ac yn symbol o gariad oesol y teulu. Cafodd hwn ei greu gan Herman yn 1943, a sgriblodd ar draws cornel dde uchaf y dudalen: 'Where to now?' Y flwyddyn wedyn, daeth yr ateb rhyfeddol iddo: Ystradgynlais.

Where to Now?

Where to Now? 1943

Josef Herman (1911–2000)

The Ingram Collection of Modern British and Contemporary Art

Daeth Herman i dde Cymru ar awgrym ffrind, a'i fwriad oedd symud ymlaen i'r Alban i baentio pysgotwyr yn yr Ynys Hir (Skye). Efallai ei fod eisoes yn synhwyro y byddai'n rhaid iddo adael prysurdeb Llundain er mwyn dod o hyd i'r 'ffurfiau mawr' a'r pynciau tragwyddol yr oedd yn dyheu am gael eu paentio. Ond roedd Ystradgynlais yn agoriad llygad iddo. Doedd hi ddim yn dref hardd: mae darluniau Herman, fel Y Bont, Ystradgynlais a dynnwyd yn 1946 (ac sydd bellach yn Oriel Gelf Dinas Southampton) yn gofnod o'i thai teras isel, ei pholion teligraff cam, ei thomen lo uchel, a phresenoldeb tywyll mynydd Craig-y-Farteg gerllaw. Ond doedd gan yr artist ddim i'w ddweud wrth olygfeydd rhamantus – dim ond fel cefndir i bobl roedd ganddo ddiddordeb yn y dirwedd.

The Bridge, Ystradgynlais

The Bridge, Ystradgynlais 1946

Josef Herman (1911–2000)

Southampton City Art Gallery

Y diwydiant glo oedd prif ddiwydiant de Cymru ers yr 1850au ac, yn yr 1940au, roedd y rhan fwyaf o ddynion Ystradgynlais yn dal i weithio ar y ffas lo. Ond roedd yn waith caled a pheryglus, ac wrth i'r diwydiant wynebu trafferthion yn yr ugeinfed ganrif, roedd streiciau ac anghydfodau'n gyffredin. Yn y flwyddyn y cyrhaeddodd Herman, 1944, ffurfiwyd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, cyn i'r sector gael ei wladoli. Roedd Herman yn ymwybodol o helyntion yr oes ond gwelodd rywbeth arall yn Ystradgynlais hefyd: cymuned glòs, wydn a ffordd o fyw urddasol yr oedd yn ei pharchu ac yn dymuno'i hanrhydeddu. Roedd mwyngloddio, fel pysgota a ffermio, yn alwedigaeth hynafol – mae pobl wedi cloddio am dun, copr a glo ers milenia – ac roedd Herman, ar ôl blynyddoedd o symud o'r naill le i'r lall, yn chwilio am rywle â gwreiddiau. 'Mae'n debygol fy mod wedi dewis paentio glöwyr, yn hytrach na gweithwyr ffatri,' esboniodd ryw dro, 'achos bod gan löwyr, fel tyddynwyr, ymlyniad dwfn i'w gwaith a'i amgylchoedd.'

Am rai misoedd ar ôl symud i Ystradgynlais, doedd Herman ddim yn paentio o gwbl. Yn hytrach, aeth ati i arlunio: aeth i lawr y pyllau glo i fraslunio, a chofnododd fywyd bob-dydd yn y dref, gan ddod i nabod y bobl wrth wneud hynny. Daethant i alw eu cymydog newydd yn Joe Bach a, maes o law, paentiodd Herman bortreadau o nifer ohonynt. Roedd eisoes draddodiad cryf o gelfyddyd ddogfennol yn ne Cymru, wrth i artistiaid o gefndir glofaol fel Vincent Evans ac Evan Walters gofnodi eu profiadau. Roedd Herman yn awyddus i greu rhywbeth gwahanol. 'Roedd yn amlwg i mi na fyddwn yn mynd i unman wrth greu llu o olygfeydd o fywydau'r glöwyr, neu agweddau amrywiol ar dirweddau demograffig', penderfynodd. 'Yr hyn roeddwn i'n chwilio amdano oedd synthesis dyfnach i grynhoi syniadau, i ddistyllu teimlad a'i droi'n ffurf.'

Mother and Child

Mother and Child c.1968–1969

Josef Herman (1911–2000)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Dros amser, datblygodd ddulliau pwerus o gyflawni hyn. Un oedd ei ffordd nodedig o ddarlunio'r glöwyr: mae'r dynion cydnerth ag ysgwyddau llydan a dwylo enfawr, nerthol, yn edrych fel pe baen nhw eu hunain wedi'u cerfio allan o'r mynyddoedd. Mae cryfder ac urddas yn perthyn i'r menywod ym mhaentiadau Herman hefyd. Yn Ystradgynlais tueddai i'w paentio fel mamau, er iddo ddarlunio menywod wrth eu gwaith ar adegau eraill yn ei yrfa. Roedd Herman yn dyrchafu ei ffigurau i gyfleu eu cryfder mewnol ac allanol. Mae delweddau fel Mam a'i Phlentyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Glowyr yn Oriel Gelf Dinas Southampton, yn gymaint o eiconau i waith corfforol ag ydynt yn baentiadau o bobl go iawn.

Miners

Miners

Josef Herman (1911–2000)

Southampton City Art Gallery

Roedd defnydd Herman o liw yn ychwanegu at deimlad ysbrydol ei luniau. Mae Diwetydd, Ystradgynlais yn galw i gof y machlud cyfriniol a welodd ar ei noson gyntaf yn y dref. Gwelir arwyddion o'r byd modern – fel y lamp stryd ar y dde – ond mae popeth wedi'i drochi mewn golau oren arallfydol, ac mae'r ffigurau'n llonydd fel pe baent yn syfrdan. 'Mae dygnwch a distawrwydd i'w gweld yr un mor aml yn fy nhirluniau ag yn fy narluniau o bobl,' cydnabu. 'Does dim angen rhyfel arnaf i wneud i mi feddwl am arwriaeth. Ein dygnwch yn wyneb bywyd o ddydd i ddydd sy'n arwrol.'

Evening, Ystradgynlais

Evening, Ystradgynlais 1948

Josef Herman (1911–2000)

Tate

Doedd gwaith Herman ddim at ddant pawb. Cwynodd un beirniad na phlesiwyd fod y 'glöwyr a'r menywod yn edrych fel blotiau di-siâp o fodau cynhanesyddol'. Ond roedd ganddo lu o edmygwyr, ac yn 1951 fe'i gwahoddwyd i greu murlun mawr ar gyfer y pafiliwn Mwynau yn y Festival of Britain. Yn y paentiad, mae chwe glöwr yn eu cwrcwd mewn rhes a'r seithfed yn sefyll i'r chwith â chysgod ar ffurf y domen lo yn ddolen gyswllt rhyngddo a'r lleill. Mae naws gerfluniol i bob un o'r ffigurau ac mae fel pe bai rhyw gynhesrwydd mewnol yn tywynnu ohonynt – fel petaent yn ymgorffori nodweddion y glo y maent yn ei gloddio. Roedd Herman yn eithriadol o falch o'r llun hwn, sydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian. 'Daeth y cyfan a fu o'i flaen i benllanw yn y murlun hwn,' ysgrifennodd. 'Nid lluniau oedd y gweithiau a'i dilynodd ond cysyniadau mewn celfyddyd goffaol.'

Miners

Miners 1951

Josef Herman (1911–2000)

Glynn Vivian Art Gallery

Arhosodd Josef Herman yn Ystradgynlais am bedair blynedd arall ond, yn 1955, symudodd ymlaen eto, gan ymgartrefu yn gyntaf yn Llundain, yna yn Suffolk. Bu ar sawl taith dramor hefyd, i Ffrainc, Sbaen, Israel a Mecsico. Ond, fel y dywedodd: 'Dim ond Ystradgynlais a newidiodd fy mywyd a'm gwaith... Pan adewais fe es i ag Ystradgynlais gyda mi.' Roedd yn dal i baentio glowyr o'i gof ddegawdau'n ddiweddarach, a defnyddiai dechnegau roedd wedi'u perffeithio yng Nghymru i ddarlunio gweision ffermydd, golchwragedd a gweithwyr eraill ym mhedwar ban byd.

Head of a Miner

Head of a Miner 1960s

Josef Herman (1911–2000)

Rugby Art Gallery and Museum Art Collections

Yn yr 1950au, roedd i Herman gryn enwogrwydd ym myd celf Prydain. Ond aeth ei baentiadau symbolaidd allan o ffasiwn yn raddol wrth i Fynegiadaeth Haniaethol, Pop Art a chelfyddyd perfformio ddod yn fwy amlwg. Wrth i drefoli a mecaneiddio ddatblygu'n gyflym a gweddnewid cefn gwlad yn ogystal â'r dinasoedd, glynodd Herman i raddau helaeth wrth ei weledigaeth draddodiadol gyfarwydd. Roedd hyn yn fwriadol: roedd yn awyddus i'w luniau siarad â phobl ar lefel wahanol. Iddo ef, roedd celf yn ffordd o ailgysylltu â dynoliaeth yn gyffredinol, trwy amser a ledled y byd.

Pan ddaeth tranc y diwydiant glo yn y pen draw, newidiwyd bywyd a gwleidyddiaeth Prydain am byth. Sut y cofiwn ni ei waddol wrth iddo droi'n hanes? Fis Ebrill 2017, bu'r DU yn rhedeg am ddiwrnod cyfan ar ddim ond ynni cynaliadwy. Ym mis Hydref, agorwyd y Mining Art Gallery yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Mae golwg Herman ar y diwydiant glo, ei weledigaeth o ffordd wydn o fyw sydd wedi'i hangori yn y tir, fel pe bai'n perthyn i oes arall. Ond wrth i fywyd yr unfed ganrif ar hugain barhau i esblygu ar gyflymder gwyllt, mae'n werth ailymweld â'i Ystradgynlais ef.

Maggie Gray, hanesydd celf ac awdur

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Did you know?

Oeddech chi'n gwybod?