O holl straeon y Mabinogi, efallai mai Blodeuwedd yw'r fwyaf hudol, yn cyfleu deuoliaeth swyn, cariad a'r profiad dynol. Mae pob cymeriad yn y stori wedi'i fendithio a'i felltithio; pob un wedi'i gyffwrdd gan hud a lledrith.
Anaml iawn y mae menywod y Mabinogi'n derbyn y parch y maent yn ei haeddu. Yn aml, dydyn nhw ddim yn llawer mwy nag eiddo yn y ffordd y cânt eu trin. Heb os, mae hynny'n wir am Flodeuwedd. Mae hanes cymhleth Blodeuwedd yn aml yn cael ei grynhoi i stori am fenyw sydd wedi'i bendithio â harddwch, sydd â thywysog yn ŵr ac sy'n syrthio mewn cariad â dyn arall. Yna mae'n cael ei melltithio pan mae hi'n mynd ati i gynllwynio i lofruddio ei gŵr.
Cafodd Blodeuwedd ei chreu o flodau'r dderwen, y banadl a'r erwain gan y dewiniaid Math a Gwydion. Roedd hi'n fenyw oedd â harddwch mwy gwyllt na'r merched mwyaf atyniadol yn y wlad. Nid peth hawdd i'r artist yw ailgreu'r swyn gwyllt hwn.
Mae paentiad Christopher Williams yn cyfleu peth o brydferthwch naturiol y cymeriad. Mae'r enw 'Blodeuwedd' yn aml yn cael ei gyfieithu i 'Wyneb o Flodau' (Flower Face) yn y Saesneg. Ond yr ystyr sydd agosaf ati yw 'pryd a gwedd o flodau', felly efallai y byddai 'appearance of flowers' yn enw mwy priodol i'r paentiad. Ydy hi'n fenyw ar ffurf blodau neu flodau ar ffurf menyw? Mae'r ferch ifanc y mae'r artist yn ei darlunio yn tywynnu drwy'r goedwig fel heulwen drwy ganghennau cordeddog; yn rhan o'r byd ysbrydol, a'n byd corfforol ni. Ar ei hwyneb, gallwch weld poen ei chreadigaeth. Dyma boen planhigyn sydd wedi ei rwygo o'r ddaear gerfydd ei wreiddiau.
Cafodd ei chreu i fod yn briodferch i ddyn nad yw wedi ei ddewis ac nad yw'n ei garu. Ydy hi'n gweld ei ffurf newydd fel bendith neu felltith? Mae'r blodau a'r planhigion yn dod at ei gilydd ym mhryd a gwedd merch brydferth, ond mae ei gwir natur yno o hyd, yn y drain o dan y blodeuyn. Yn ennyd ei genedigaeth, mae hi mor noeth a newydd ag y byddai babi newydd-anedig – neu a yw ei noethi yn y darlun yn ddewis a wnaeth yr artist am reswm arall?
Mae ei chreadigaeth yn bwnc sy'n derbyn sylw gan Ifor Davies yn ei baentiad Gwydion yn Hudo'r Rhith a Elwir Blodeuwedd. Fel swynwr, mae Gwydion yn ymdrechu i greu'r ferch fwyaf prydferth o gynhwysion sylfaenol - fel mae Davies ei hun yn ymdrechu i greu ei hanfod hi yn ei waith.
Gyda Gwydion yn artist, rydym yn edrych ar bethau drwy'r broses greadigol. Mae'r gwaith yn dangos yr ymdrechion a wnaed i ddarlunio ei chyfaredd – ond i bwy? Gerllaw'r paentiad, mae'r ferch a greodd y swynwr yn sefyll mewn ffordd a ddylai gryfhau ei hudoliaeth, a chynyddu ei hapêl i'r tywysog y cafodd ei chreu ar ei gyfer, ac i unrhyw un a fyddai'n stopio i edmygu'r paentiad.
Mae Gwydion yn creu merch i fod y ferch brydferthaf y wlad, ond yn ôl safonau pwy? Mae hi'n wraig i Lleu: merch a wnaed yn llwyr ar gyfer llygaid dyn, heb unrhyw ystyriaeth o'i dyheadau neu ei dymuniadau hithau. Mae'r paentiad yr un fath. Mae darlun Blodeuwedd wedi ei ailgreu gan artist gwrywaidd, gan dybio y bydd dynion yn syllu arni. Yn ôl ei golwg yn y paentiad, mae'r model – y cynrychioliad ohoni mewn paent beth bynnag – yn siapio ac yn dinistrio'r rhith. Mae'r artist/dewin wedi ei fendithio gan ei allu creadigol, ac eto mae wedi ei felltithio i greu dim ond beth mae pobl eraill yn ei weld fel rhywbeth prydferth.
Y newid mawr yn stori Blodeuwedd yw'r foment pan mae hi'n syrthio mewn cariad â Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn. Yn yr ennyd honno, mae ei natur go iawn yn dod i'r amlwg ac mae hi'n gweld waliau ei chawell. Mae hi'n cynllwynio gyda'i chariad newydd i lofruddio ei gŵr anfarwol – ac nid yw hynny'n dasg syml. Dros y flwyddyn y mae'n ei chymryd i baratoi, mae'n rhaid iddi ddal yn dynn yn y rhyddid y mae ei chalon yn dyheu amdano, tra ei bod yn gaeth i'w chawell.
Gallwn weld y rhyddid hwn yng ngwaith Anya Paintsil, Blod. Daw ysbrydoliaeth Painstil o'i gwreiddiau deuol – yng Nghymru a Ghana – ac mae hi'n plethu hyn gyda'r chwedl. Mae'r deunydd cymysg yn ei helpu i fynegi rhyddid: chwalu'r rhwystrau a'r confensiwn a grëwyd gan bobl. Mae'r ffaith ei bod hi'n defnyddio deunyddiau naturiol a defnyddiau gwneud – yr acrylig, gwlân, gwallt synthetig, blew alpaca, moher a gwallt dynol ar hesian – yn helpu i wau bydoedd ffantasi a realiti at ei gilydd.
Mae cyfatebiaethau rhwng yr artist a'i phwnc. Gan eu bod yn dod o ddau fyd, mae'n rhaid i'r ddwy gael y rhyddid i'w mynegi eu hunain er mwyn deall eu treftadaeth. Mae gwaith direidus Paintsil yn amlwg bersonol ond mae hefyd yn wleidyddol, yn ymgorffori hunaniaeth Ddu i mewn i un o straeon gwerin fwyaf traddodiadol Cymru, gan atseinio ei magwraeth yng ngogledd Cymru. Mae her y rhagdybiaethau sy'n cysylltu Cymreictod â gwynder mor ddewr ac angenrheidiol ag ydyw ymdrechion Blodeuwedd i ddod yn rhydd.
Os gallai unrhyw un ddeall anawsterau chwalu disgwyliadau traddodiadol, Blodeuwedd fyddai honno.
Efallai fod Chwedl Lleu Gyffes gan John Lawrence Phillips yn gwrthdaro â'r syniad o 'ferched ifanc glandeg' ond mae'n helpu i amlygu'r rhan a chwaraeir gan Lleu yn y stori, yn hytrach nag anwybyddu Lleu fel dim byd mwy na gŵr Blodeuwedd.
Melltith Lleu yw na fydd byth yn cael gwraig ddynol – melltith a roddwyd arno gan ei fam – a dyma sy'n gosod y seiliau i'r ffaith bod yn rhaid i'w ewythr Gwydion greu Blodeuwedd. Ei anfarwoldeb, a'r elfennau penodol sydd eu hangen er mwyn ei ladd, sy'n gwneud ei lofruddiaeth yn drosedd mor oeraidd yn hytrach na throsedd o angerdd. Ac mae'r gweddnewidiad hwn i fod yn eryr a'r atgyfodiad dilynol yn dangos dyfnder a grym yr hud a swyn sydd yn ei wythiennau.
Nid yw gwaith Phillips yn llythrennol, ac nid yw'n darlunio'r stori mewn ffordd amlwg o gwbl. Mae ei ddarnau concrit llwm yn sefyll, nid yn annhebyg i'r meini hirion sy'n dynodi lleoedd pwysig ledled tirwedd Cymru. Efallai fod y fwyaf o'r meini hyn yn cynrychioli honno a roddwyd yn y lle rhwng Gronw a gwayw Lleu, carreg nad oedd yn cynnig unrhyw ddiogelwch rhag ei ddialedd. Mae'r darn yn gadael y dehongliad yn gwbl agored, ond mae'r teimlad o rym a chryfder yn gynrychioliad haeddiannol o'r arglwydd a felltithiwyd.
Roedd cosb Blodeuwedd yr un mor hudol â'i chreadigaeth: cafodd ei gweddnewid yn greadur y nos. Mae gwaith Jeremy Roberts yn ymdrin â'r agwedd hon o dylluan wedi'i melltithio, ei ffurf derfynol. Er gwaethaf y ffaith bod ei gweddnewidiad i fod yn gosb am ei throseddau, rwyf yn aml wedi ystyried bod y newid hwn yn fendith. Fel tylluan, mae hi'n rhydd yn awr, heb ei chaethiwo bellach gan y disgwyliadau a orfodwyd arni fel gwraig, menyw, na bod dynol.
Mae Blodeuwedd Roberts yn atsain y rhyddid hwn gyda delweddau o'i ffurf ddynol, yn dawnsio'n nwydus, gyda siapiau a lliwiau fforest y cyfnos o'i hamgylch. Mae melltith ei dynoliaeth wedi mynd: mae hi wedi ei bendithio unwaith eto gyda'i dychweliad i fyd natur. Mae tywyllwch y gwaith yn gefnlun perffaith i'r cymeriad. Uwchben y cyfan mae'r dylluan, a'i hwyneb fel lleuad, yn rhythu ar ei bywyd a fu.
Ac eto, hyd yn oed yma, yn ei ffurf felltithiol, fendithiol fel tylluan, mae'r artist yn paentio delweddau ohoni'n noeth: ei chorff yn agored i ddynion rythu arni.
Mewn celfyddyd, fel mewn bywyd, anaml iawn y mae pethau'n ddu a gwyn. Yn yr un modd mewn mytholeg anaml iawn y mae bendithion yn syml, a gellir ystyried melltithion yn bethau sy'n gallu rhyddhau. Efallai bod gwers i'w dysgu yma.
Dan Mitchell, awdur, addysgwr a llên-gwerinwr
Cyfiethiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Charlotte Guest (cyfieithiad), The Mabinogion, J. M. Dent & Co., 1910
Jhenah Telyndru, Blodeuwedd: Welsh Goddess of Seasonal Sovereignty, Pagan Portals, 2021
Judith Shaw, 'Blodeuwedd, Celtic Flower Goddess', Feminism & Religion, 2016