Yn nhrydedd bennod y bedwaredd gyfres o Britain's Lost Masterpieces, a ddarlledwyd ar 13eg Tachwedd 2019 ar BBC Four, bu Dr Bendor Grosvenor yn chwilota trwy wefan Art UK a daeth ar draws llun yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd y credai ei fod yn addawol. Daethpwyd â'r llun i'm stiwdio i fel y gallwn ei ddadansoddi a'i drin.
Darlun ydyw o'r Forwyn Fair a'r baban Iesu, gyda Christ yn dal pomgranad (symbol yn rhagfynegi ei atgyfodiad) yn ei law. Cafodd ei baentio â phaent olew ar banel poplys, ac mae'n mesur 68 x 41 cm, ond mae'n gysylltiedig â gwaith celf llawer mwy gan Botticelli: allorlun o eglwys San Barnaba, sy'n cael ei arddangos yn Oriel Uffizi yn Fflorens erbyn hyn. Mae'r Forwyn Fair yn dal y baban Iesu yn yr un ffordd yn hwnnnw hefyd.
Treuliodd Sandro Botticelli ei oes yn byw ac yn gweithio yn Fflorens. Roedd yn cyflogi nifer o gynorthwywyr yn ei stiwdio i'w helpu i ateb y galw am ei weithiau celf. Os nad oedd gan gleientiaid lawer iawn o arian, gallent gomisiynu copi llai o weithiau celf mawr poblogaidd Botticelli, gyda llai o fanylion a chyfansoddiad symlach. Efallai mai cynorthwywyr Botticelli fyddai'n paentio'r rhain neu rannau ohonynt. Tybed ai un o'r comisiynau hynny yw'r darlun sydd yng Nghaerdydd?
Daeth y darlun i gasgliad yr Amgueddfa yng Nghaerdydd yn 1951 fel rhan o gymynrodd gan ddwy chwaer o ganolbarth Cymru, Margaret a Gwendoline Davies. A hwythau'n wyresau i un o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Margaret a Gwendoline wedi cael llawer gwell addysg na'r rhan fwyaf o ferched y cyfnod; yn ogystal, cawsant eu magu ag ymdeimlad cryf o ddyletswydd i wneud daioni â'r arian a etifeddent, ac roeddent wrth eu bodd â'r celfyddydau. Ar ôl dechrau casglu yn gynnar yn yr 1900au, aethant ati i gefnogi llawer o gynlluniau diwylliannol ac addysgol yng Nghymru yn yr 1920au a'r 1930au, gan sefydlu canolfan gerddoriaeth a chelfyddydau ym Mhlas Gregynog.
Bu farw Gwendoline yn 1951, a gadawodd nifer o weithiau celf i Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad. Daeth 152 o wrthrychau eraill yn 1963 ar ôl i Margaret farw.
Pan brynodd Gwendoline y llun, y farn oedd mai llun gan Botticelli ydoedd ond, yn fuan ar ôl iddo gyrraedd yr amgueddfa, dechreuodd arbenigwyr amau hynny. Cafodd ei israddio i statws copi diweddarach gan artist anhysbys. Beth a wnaeth yr arbenigwyr yn amheus?
Pan gyrhaeddodd i'r stiwdio, un o'r pethau cyntaf y sylwais arno oedd nad craciau go iawn oedd y craciau yn y cefndir ond rhai wedi'u paentio a'u ffugio i wneud i'r cefndir edrych yn hen. Ddim yn addawol! Ond er gwaethaf hynny, roedd arwyddion y gallai'r llun fod o ansawdd ardderchog.
Llwyddodd dadansoddiad gwyddonol a gwaith cadwraeth i ddatgelu cyfrinach annisgwyl, ac fe drawsnewidiwyd y darlun.
Roedd y panel poplys a'r haenau paent gwreiddiol yn fregus iawn ac roedd angen bod yn eithriadol o ofalus wrth ei drin. Mewn cydweithrediad â Britta New o'r Oriel Genedlaethol, gwnaed teclyn i gynnal y panel yn ofalus gan ganiatáu ychydig o symudiad mewn ymateb i newidiadau yn lleithder yr awyr.
Roedd tynnu'r baw, yr hen farnais, a'r trosbaent caled iawn yn broses eithriadol o fanwl a wnaed i raddau helaeth o dan y microsgop gan atgyweirwyr profiadol yn Stiwdio Simon Gillespie. Datgelodd y driniaeth ddarlun o ansawdd rhyfeddol, â rhai rhannau, yn cynnwys pen y Forwyn, wedi'u paentio yn arddull nodedig Botticelli.
Darganfûm hefyd mai gwaith arlunydd diweddarach oedd y bwa yn y cefndir, wedi'i ychwanegu ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'n debyg mai'r bwriad oedd cuddio'r ffaith mai fersiwn dipyn llai o lun mwy o faint ydyw. Ar ôl trafod gyda'r amgueddfa, penderfynwyd cadw'r cefndir ychwanegol, i adlewyrchu hanes y darlun.
Datgelodd ffotograffau isgoch, a ddefnyddir i ddangos llinellau lluniadu carbon o dan yr haenau paent, dan-luniad mewn arddull sy'n nodweddiadol o stiwdio Botticelli. Yn fwy cyffrous fyth, roedd y llinellau lluniadu'n dangos bod yr artist wedi gwneud newidiadau niferus mewn mannau yn cynnwys y dwylo, gan brofi nad copi syml oedd y darlun.
Yn ogystal, datgelodd y ffotograffau isgoch gyfrinach a guddiwyd am dros 500 mlynedd: o dan yr haenau paent roedd lluniad carbon yn dangos proffil pen dyn – mae bron yn sicr mai dŵdl gan Botticelli oedd hwn, wedi'i wneud cyn paentio'r rhan honno.
Dyma enghraifft wych o'r ffordd y mae technoleg fodern yn ein galluogi i ddatgelu agweddau ar baentiad sy'n amhosib eu gweld â'r llygad noeth ac sydd felly wedi'u cadw'n gudd ers canrifoedd.
Wrth sôn am am y darlun hwn ar ôl y driniaeth, dywedodd Laurence Kanter, Prif Guradur Oriel Gelf Prifysgol Yale ac arbenigwr ar weithiau Botticelli:
'Mae'n amlwg mai o stiwdio Botticelli y daeth y darlun hardd hwn. Mae'n debyg bod Botticelli ei hun yn gyfrifol am fwy nag ychydig ohono. Mae angen astudio llawer mwy arno i ddatrys y posau 'faint?', 'pa rannau?', 'pam?', 'pryd?', a gobeithio y gall ysgolheigion a'r cyhoedd fel ei gilydd barhau i astudio'r darlun.'
Y bwriad yn awr yw arddangos y paentiad, wedi'i gatalogio o'r newydd fel 'priodolir i Botticelli a'i weithdy'. Gobeithio y bydd ymchwil a thrafodaeth barhaus gydag arbenigwyr eraill ar Botticelli yn helpu i gadarnhau hynny.
Mae wedi bod yn broses hynod gyffrous dod â'r campwaith hwn yn ôl yn fyw, fel y gellir ei wir werthfawrogi. Yn hytrach na bod yn waith copïydd diweddarach, mae'n amlwg bellach mai o weithdy Botticelli y daeth y paentiad ac mai Botticelli ei hun a baentiodd rannau ohono o leiaf, os nad y cyfan.
Simon Gillespie, Cyfarwyddwr yn Simon Gillespie Studio
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg