Pan fu Glyn Morgan farw ar ddiwedd Mehefin 2015, fe gollodd Cymru un o'i hartistiaid mwyaf gwreiddiol. 12 mis yn unig cyn hynny, roedd Chappel Galleries gerllaw Caer Colun, a oedd wedi hyrwyddo Morgan am amser maith gydag arddangosfeydd, wedi trefnu 'Behind the Landscape', yn arddangos paentiadau olew a gludweithiau a oedd yn dangos bod yr artist yn parhau i gynhyrchu gwaith dychmygol gyfoethog yn ei wythdegau diweddar.
Ganed Morgan ym 1926 ym Mhontypridd lle, meddai ef wrthyf i, 'roedd wagen lawn â llwyth o lo yn mynd heibio i ddrws ffrynt ein tŷ ni bob pum munud yn fras.' Glöwr fu ei dad-cu ar ochr ei dad, ond fe ymunodd tad Glyn, Henry Ivor Morgan, â Rheilffordd y Great Western, gan ddod yn brif glerc yn ei phrif swyddfa docynnau yng Nghaerdydd.
Roedd ei dad yn falch pan gafodd Glyn ei ddewis ar gyfer Ysgol Ramadeg Pontypridd, a sylwodd nifer o athrawon yn y fan honno ei fod yn meithrin dawn gynyddol, ac yn ddiweddarach fe gafodd ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Caerdydd ym 1942. Fe gyfarfu â Ceri Richards yno, 'athro penigamp'. Drwy atgynyrchiadau ac ymweliadau ag Amgueddfa Caerdydd, daeth Morgan i wybod o'r newydd am artistiaid cyfoes fel Augustus John a Pablo Picasso ac yno 'rwy'n credu i mi weld fy narlun cyntaf o waith Cedric Morris.'
Daeth Cedric Morris i feirniadu sioe a drefnwyd gan Esther Grainger yng Nghymdeithas Addysgol Pontypridd pryd cyflwynodd Morgan ddau ddarlun yn 17 mlwydd oed. 'Roedd ef o'r farn fod fy rhai i'n addawol ac fe ofynodd "Pam na fyddet ti'n dod i'm hysgol gelf i yn Suffolk?"' Yn haf 1944, y flwyddyn y gorffenodd yng Nghaerdydd, fe drefnodd Morgan i fynd am wythnos i Benton End yn Suffolk, a enwid yn ffurfiol yn The East Anglian School of Painting and Drawing, ac fe fu hwnnw'n ddigwyddiad a drawsffurfiodd ei fywyd. Mynychodd y Camberwell School of Art rhwng 1947–1948, ond nid oedd yn teimlo cynhesrwydd yno – ei gof pennaf am y lle oedd 'arogl bresych a drwythid mewn soda pobi.' Parhaodd Benton End i fod yn ysbrydoliaeth iddo, ac fe ddychwelodd yno pan allai dros gyfnod o 38 o flynyddoedd.
Roedd Cedric Morris wedi agor ei ysgol ym 1937 gyda'i gydymaith oes a'i gyd-artist Arthur Lett-Haines. Roedd Morris, a beintiodd bortread o Morgan, yn arddwr nodedig a greodd ardd hynod o brydferth. Yn cyflawni'r Eden hon oedd y bwyd a ddarparai Lett-Haines – 'dau bryd enfawr, gyda gwin a brecwast a the' – a'r sgwrs hynod ddiddorol gyda'i gydfyfyrwyr a'r gwesteion achlysurol. Cyffesai Morgan iddo fod yn 'rhamantydd emosiynol tu hwnt, a phan oeddwn i'n dwli ar rywbeth roedd hynny 100%. Wir, roedd hwnnw'n lle hyfryd i fod ynddo.'
Yng nghasgliad Gwasanaeth Amgueddfeydd Caer Colun ac Ipswich mae paentiad olew ar fwrdd gan Morgan o'r 1950au diweddar, Cedric Morris yn ei Ardd. Yn briodol iawn, ym 1985 fe drefnodd Morgan arddangosfa The Benton End Circle o dros 40 mlynedd o waith gan fyfyrwyr Morris a Lett-Haines yn Oriel Gelf Bury St Edmunds. Gwaddol arall o Benton End oedd aelodaeth Morgan, rhwng 1988–1998, o Gymdeithas yr Artistiaid Botanegol. Er i Morgan a'i wraig Jean fyw am 35 o flynyddoedd yn Swydd Buckingham – a'i ddysgu amrywiol yno yn cynnwys dosbarthiadau nos yn Ysgol Gelf High Wycombe – ar ganol y 1990au fe'i tynnwyd yn ei ôl i Suffolk, gan ymsefydlu yn Hadleigh. Er mai petrus oedd i ddysgu, fe barhaodd hyd nes ei fod 'yn arthritig a byddar, ac felly fe ddois allan yn ohoni hi'n gynnar. Roeddwn i'n wastad wedi bod o'r farn mai artist oeddwn i, a oedd yn digwydd bod yn dysgu.'
Ym 1963, ymwelodd Morgan â gwlad Groeg am y tro cyntaf, gan iddo fod yn myfyrio ar yr Iliad a'r Odyssey. Aeth Gwobr Cwmni Goldsmith o chwe mis ag ef i Greta, a thros yr ychydig flynyddoedd wedyn fe gyfoethogwyd ei allbwn gan Fwrdd Minos a chyfres Orpheus, fel gwnai ei hoffter o gerddoriaeth.
Gwrandawai ar Radio 3 pan fyddai'n gweithio yn ei stiwdio yn yr ardd, ac fe ysbrydolodd Cân y Ddaear Gustav Mahler gadwyn o dirluniau grymus a chyfoethog eu lliw yn 2003, a pharhaodd tirweddau i fod yn thema egnïol yn ei allbwn yn y blynyddoedd diweddar. O 2004, roedd chwedl Blodeuwedd o'r Mabinogi o ddiddordeb parhaus iddo.
Erbyn ei sioe olaf yn Chappel Galleries yn 2014, roedd Morgan wedi cymryd rhan mewn llawer o arddangosfeydd ar y cyd ac wedi cael llawer o sioeau unigol yn cynnwys saith arddangosfa ôl-syllol, gan gynnwys un yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn 2006. Mae'r Llyfrgell honno, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Oriel Gelf Glynn Vivian a dyrnaid o gasgliadau cyhoeddus eraill, yn cadw enghreifftiau o'i waith.
David Buckman, hanesydd celf
David yw awdur Glyn Morgan at Eighty, Sansom & Co., 2006.
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru