Mae diwydiant – a'r anghyfanhedd-dra y mae diwydiant yn ei adael ar ôl – wedi denu cenedlaethau o artistiaid. Mae gan safleoedd diwydiannol fywyd nerthol, cymhlethdod gweledol a dirgeledd; a lle'r aeth diwydiant ar drai, yn aml mae prydferthwch hynod yn cael ei adael ar ôl, ym mawredd trist dadfeiliad neu yng ngwyrth adfywiad y byd naturiol.
Nid oes unrhyw artist wedi ymrwymo mwy i bortreadu amgylcheddau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol na George Little. Fe'i ganed ym mhen dwyreiniol Abertawe ym 1927, ac fe dreuliodd ei oes yn edrych ar y dociau gerllaw, lleoedd bomiedig, mwyndoddwyr copr gadawedig a strydoedd anghyfannedd Abertawe – yr hyn a alwodd Dylan Thomas, yn 'ugly, lovely town'. Cynhyrchodd Little baentiadau, lluniau, gwaith collage a ffotograffau o'r testunau hyn o'r 1940au diweddar hyd nes ei farwolaeth yn 2017, a cheisiodd ddarganfod safleoedd tebyg yng nghymoedd de Cymru, Ynys Môn, de Swydd Efrog ac mor bell i ffwrdd â Berlin ac Efrog Newydd.
Mae atyniad artistiaid i adfeilion yn dyddio yn ôl i'r ddeunawfed ganrif, pan fyddai artistiaid crwydrol yn chwilio am ganghellau dadfeiliedig, a chestyll wedi eu gorchuddio mewn eiddew, i fod yn destunau aesthetig ac yn symbolau o fodolaeth fyrhoedlog, fel darlun Turner o Abaty Tyndyrn. Gallai artistiaid a fyddai wedi canfod eu themâu yng ngrym anorchfygol rhaeadrau a mynyddoedd, weld darganfod nodweddion 'sublime' tebyg yng ngweithfeydd, ffatrïoedd a ffwrneisi'r chwyldro diwydiannol – y strwythurau enfawr oedd yn hollti'r ddaear, neu'n trawsffurfio maen yn fetel iasboeth.
Yn yr ugeinfed ganrif, cyd-doddodd diwydiant a dinistr wrth i'r sectorau diwydiant trwm grebachu. Dilynwyd yr Ail Ryfel Byd gan gyfnodau hir o ddad-ddiwydiannu, dirywiad ac adnewyddu trefol. Roedd George Little yn gysylltiedig â sawl artist o'r genhedlaeth gynt oedd yn ceisio sylwebu ar y newidiadau. Yn eu plith yr oedd John Piper gyda'i baentiadau o dai wedi eu gadael a threfi llosgedig; Julian Trevelyan gyda'i ddelweddau o Grochendai; a Graham Sutherland a'i ymatebion i fwyngloddiau tun, chwareli, a gweithiau dur adeg y rhyfel.
Roedd gan y rhain i gyd diddordeb mewn ffurfiau haniaethol, ystyron swreal a lliwiau mynegiannol, ac mewn archwilio diwydiant a diffeithwch. Fe hoffai Little ddyfynu'r artist Prunella Clough: 'Efallai ei bod o gymorth fod cymaint o ddeunydd diwydiannol yn haniaethol eisoes.' Fe welai yn ei destunau nid yn unig batrymau, lliwiau a gweadedd, ond hefyd ffurfiau, cysylltiadau a nwydau rhyfedd ac amwys.
Mae'r diddordeb yn etifeddiaeth weledol trefi sydd wedi dirywio a safleoedd diwydiannol diffaith yn parhau heddiw. Maen nhw'n aml yn ymddangos yn gefndiroedd i ffotograffau mewn cylchgronau ffasiwn neu gloriau recordiau; yn lleoliadau ffilmio; ac yn destunau i ffotograffwyr ac artistiaid sy'n chwilio am ddadfeilion dros y byd i gyd, o Chernobyl i ffatrïoedd ceir segur yn Detroit.
Fe ganfu George Little y deunydd hwn wrth garreg ei ddrws. Yn nyddiau ei ieuenctid ef, roedd dociau Abertawe yn llawn bwrlwm, gyda rheilffyrdd a llongau cargo wedi eu fframio gan linellau unionsyth y peiriannau codi glo a chraeniau. Roedd pedair milltir o'r cwm uwchlaw ceg Afon Tawe – a elwid yn 'Copperopolis', ac a oedd un tro'n llawn gweithfeydd mwyndoddi a gweithgynhyrchu – yn cau yn raddol, un safle ar y tro.
Ar lawr y cwm hwnnw, nododd Peter Sager, ysgrifennwr teithio o'r Almaen, fod 'dim llai na 150 o weithfeydd prosesu metel ym 1890. Hanner canrif yn ddiweddarach, trodd y 1,200 o erwau hyn yn anialwch diwydiannol – yr ehangaf ym Mhrydain i gyd.'
Gellir dysgu llawer o ymgais George i ddehongli'r etifeddiaeth hyn. Nid oedd e'n hiraethu dros y diwydiannau coll. Fe wyddai am y dioddefaint a ddaeth gyda chloddio a mwyndoddi, ac fe wyddai fod lliwiau'r sorod a roddai gymaint o gyffro iddo yn deillio o waddod gwenwynig arsenaidd, copr, haearn, tun, plwm, sinc, cadmiwm a nicel. Roedd e'n llawenhau yn yr adferiad a dychweliad glaswellt a choed, cyn belled â bod rhywfaint o bethau yn aros i goffáu'r dreftadaeth ddiwydiannol. Fe ysgrifennodd:
'Ym mhobman mae fy newis ddelweddau yn diflannu: olwynion pennau'r pyllau, tomennydd sorod, diwydiant trwm, y diwydiant pysgota, y strydoedd o dai'r gweithwyr hyd yn oed, ac mae dociau Abertawe fel roeddwn i'n eu hadnabod nhw wedi diflannu yn gyfan gwbl, bron â bod. Mae gweithfeydd copr Hafod yn dadfeilio ac yn cael eu tacluso i gyd, er daioni mae'n siwr, ond mae hynny'n golygu bod testunau fy ngwaith bron yn atgof.'
Yn 16 oed, aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Abertawe ac ar ôl dwy flynedd o Wasanaeth Milwrol yn y Llu Awyr Brenhinol fe aeth yn ei ôl i gwblhau Diploma Cenedlaethol mewn Dyluniad a Diploma Athro Celf. Ym 1951 enillodd fwrsariaeth ar gyfer cwrs ôl-raddedig dwy flynedd yn y Ruskin School of Fine Art yn Rhydychen.
Un a fu'n ysbrydoliaeth gynnar iddo oedd yr artist a'r ceisiwr lloches o Wlad Pwyl, Josef Herman a ymgartrefodd ar ben uchaf Cwm Tawe yn Ystradgynlais. Aeth Little ar ymweliadau i gwrdd ag ef yn y cwm. Roedd presenoldeb ecsotig Herman fel Mynegiadwr o'r cyfandir yn achos cyffro i lawer o artistiaid ifanc yn ne Cymru. Fe fyddai'r lliwiau priddlyd, y pynciau realaidd a'r ffurfiau swmpus yng ngwaith Herman yn parhau i greu argraff ar George Little am weddill ei oes.
Roedd dylanwad Herman yn fwyaf amlwg yn ei baentiadau o'r 1950au, er enghraifft mewn golygfa o waith glo gerllaw Ystradgynlais gyda'r coch llachar, ffigurau dynion ar eu ffordd i'r gwaith, a siâp cadarn y polion trydanol. Prynwyd y darlun gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru ym 1959.
Dylanwad arall arno oedd Eric Ravilious, a gafodd ei ddenu gan falurion rhyfedd dynoliaeth. Am gyfnod ceisiodd Little efelychu techneg 'starved-brush' Ravilious, ond ei ddylanwad mwyaf oedd y caniatâd i baentio gwrthrychau a motiffau y byddai artistiaid eraill yn dueddol o'u hanwybyddu: sgriwiau gyrru morol, safleoedd gynnau, a chorneli angof mewn iardiau.
Yn ôl yn nociau Abertawe, peintiodd Little 'long lannau Brydeinig fudr gyda haen o halen wedi caledu ar ei simnai' wrth iddi gael ei llwytho â glo. Yn union fel gallasai Ravilious wedi ei wneud, fe bwysleisiodd siâp y bont a oedd yn trosgludo'r wagenni i'r peiriant codi, gan fwynhau patrwm a strwythur y tŵr a rhoi personoliaeth fywiog i'r llong sy'n ymegnïo tuag ymlaen.
Cafodd y darlun ei brynu gan Gyngor y Celfyddydau a'i gynnwys yn 'Arddangosfa o Baentiadau a Darluniau Cymreig' Oriel Glynn Vivian yn Abertawe, ochr yn ochr â gweithiau gan Frank Brangwyn, Josef Herman, David Jones ac Augustus John.
Roedd Stryd Maliphant yn Hafod yn lleoliad a ddychwelodd iddo dros sawl blwyddyn: rhes o dai a fyddai'n cael eu dymchwel yn y man a oedd yn arwain i lawr at bont ar y brif reilffordd. Cafodd gweithiau o'r fath eu dewis ar gyfer arddangosfeydd teithiol: yn 1952 ar gyfer 'Thirty Welsh Paintings of Today' gan John Piper a Carel Weight ac ym 1955 ar gyfer 'Industrial Britain', a arddangosodd weithiau gan Ruskin Spear ac L. S. Lowry yn ogystal â gweithiau gan Little ei hun.
O 1967, fe weithiodd fel darlithydd llawn-amser ym Mhrifysgol Abertawe lle'r arweiniodd gwrs hanes celf i fyfyrwyr israddedig, ac fe greodd oriel ar y campws yno. O'r amser hwn ymlaen fe'i swynwyd yn fwy fyth gan greu paentiadau yn, ac o gwmpas, y dociau a'r safleoedd segur ar ben isaf Cwm Tawe.
Pan oedd yn blentyn mewn maestref i'r dwyrain o Abertawe, roedd gan Little olygfa bron iawn o'r awyr drwy ffenestr ei ystafell wely – golygfa a fyddai'n ei dwyn i gof dro ar ôl tro yn ei baentiadau. Roedd Cofio Dociau Abertawe Rhif 1 yn cyfuno'r holl nodweddion a olygai fwyaf iddo ef mewn lliwiau llachar, bywiog. Mae hwn yn dirlun dramatig gyda gorwel glas yn amgylchynu'r bae gwyrdd, a chymylau yn ymgasglu o'r gorllewin ac yn ffoi i'r dwyrain.
Mae angen cryn dipyn o waith i ddeall y manylion gweledol. Mae dwy long yn gorwedd ar ochr bellaf Doc y Frenhines a llong arall, â chorff du, wedi mwrio ar yr ochr agosaf. Mae peiriant codi glo ar ochr fewnol Doc y Brenin yn sefyll drwy ganol y darlun gyda chymar llai iddo ymhell ar y dde. Mae ychydig o adeiladau brics coch yn llenwi'r tir rhwng y dociau – yn arbennig felly tŷ'r injan gyda'i wyneb â thalcen a simnai.
Mae llu o graeniau lliwiog yn poblogi'r dociau: du, melyn, glas, coch, gwyrdd a streipiau llwyd a melyn. Yn y dociau sy'n nes mae badau tynnu gyda chyrn mwg ar ogwydd a llong wedi ei marcio gydag 'M'. Yn y blaendir, caiff bwiau morio eu storio gyda phentyrrau o sgrap.
Ar ymweliadau â'r chanol y maes glo, fe baentiodd Little Lofa Lewis Merthyr yn Nhrehafod, un o'r pyllau Fictoraidd mwyaf addurnol, a ailddatblygwyd gan W. T. Lewis yn y 1880au gyda fframiau anferthol o haearn coch.
Yn un paentiad o'r pwll, fe roddodd gydnabyddiaeth i lesni'r tirlun a oedd yn dod yn fwy amlwg yng nghefndir y dyffryn adferedig, ond y mur tywodfaen o amgylch y lofa sy'n meddiannu hanner ei lun – mur tywyll a gormesol ond eto yn disgleirio gyda lliwiau amrywiol wrth edrych yn agosach.
Er gerwinder ei destun, roedd y lliwiau a allai eu gweld ynddo yn hudolus. Fe ddatblygodd ei beintiadau yn ddathliadau haniaethol o liw yn ogystal â bod yn ddarluniadau o amgylcheddau anghyffredin. Yn ei gyfansoddiadau aeth twneli yn gylchoedd du, aeth y tir a gochodd dan wres eithafol yn rhubanau pinc; ac aeth trawstiau dur troellog yn acenion tro.
Hoffai George Little ddweud bod ei waith i gyd 'ar sail ffeithiau' a welai yn ei amgylchedd. Ond fe drawsffurfiodd ef y ffeithiau hynny o liw, ffurf a gwead, gan gyfeirio ei ymateb personol atynt. Fe ganfu dosturi ac urddas fel ei gilydd yn ei destunau, boed hynny ym mhrysurdeb y dociau neu ym malurion diweddarach y ceiau a adawyd i'r chwyn a'r rhwd, yn y tomenni gwastraff llygredig, mewn gweithfeydd a oedd yn adfeilion neu strydoedd dirywiedig o gartrefi i'r gweithwyr yn disgwyl cael eu dymchwel. Roedd ei gyfansoddiadau ef yn dod â gwaredigaeth i fannau lle nad oedd dim ond y disgwyliad lleiaf o hynny, efallai.
Peter Wakelin, awdur a churadur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Peter Wakelin, George Little: The Ugly Lovely Landscape, Parthian, 2023