Roedd Edith Downing (1857–1931) yn artist a cherflunydd Prydeinig a fu hefyd yn rhan o fudiad y swffragetiaid ar gychwyn yr ugeinfed ganrif. Fe anwyd Downing yng Nghaerdydd ac fe gychwynnodd ei hyfforddiant celfyddydol yn Ysgol Gelf De Kensington, lle'r oedd rhaid i artistiaid benywaidd astudio mewn adeilad ar wahân i'r dynion. Aeth yn ei blaen i astudio yn Ysgol Gelf y Slade rhwng 1892 a 1893, sefydliad a groesawodd artistiaid benywaidd ers ei sefydliad ym 1871.

Music

Music

Edith Downing (1857–1931)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Er mai cerflunio mewn efydd a marmor oedd ei gwaith yn bennaf, fe greoedd Downing dyfrlliwiau, cerfweddau a phaneli addurnol hefyd. Cafodd ei gwaith ei arddangos am y tro cyntaf yn yr Academi Frenhinol ym 1891, ac fe barhaodd i gyfrannu'n aml tan y 1900au cynnar. Fe lwyddodd i gynnal bywoliaeth drwy ei gwaith celf – peth prin iawn i fenywod yn yr oes honno – ac fe nododd ei phroffesiwn fel 'cerflunydd' yng nghyfrifiad 1911.

Alice

Alice

Edith Downing (1857–1931)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Roedd newid gwleidyddol sylweddol yn gefndir i oedolaeth gynnar Downing. Ym 1903, sefydlwyd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (yr WSPU) ac yn fuan fe enillodd ei blwyf yn brif sefydliad milwriaethus oedd yn ymgyrchu dros hawl menywod i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig.

Ym 1908, fe ymunodd Downing â'r WSPU. Roedd hi'n un o'r nifer o fenywod a deimlai rhwystredigaeth gydag 'oferedd gwaith tawel' yn y frwydr i wireddu'r bleidlais. Gyda'u harwyddair 'gweithredoedd nid geiriau' ('deeds not words'), daeth aelodaeth yr WSPU yn gyfystyr â gweithredu uniongyrchol, megis ymosoidiadau llosgi bwriadol, torri gwifrau ffôn ac anfon bomiau drwy'r post.

Suffragette Committee Meeting

Suffragette Committee Meeting 1906

Daily Mirror (active since 1903)

National Portrait Gallery, London

Roedd Downing yn aelod allweddol o'r mudiad, ac fe gyfrannodd ei doniau artistig i ddramateiddio gorymdeithiau'r swffragetiaid. Ym 1910 fe ddyluniodd Downing a'i chyd-swffragét, Marion Wallace-Dunlop 'Darlun y Carcharorion' ar gyfer yr orymdaith Carchar i Ddinasyddiaeth, a ddathlodd y rheiny a 'wynebodd farwolaeth yn eofn' yn ystod y streiciau newyn a'u gorfodaeth i fwyta. Tynnwyd y fflôt gan ddau geffyl gwyn, ac arno roedd swffragét mewn gwisg carchar wedi'i hamgylchynu gan ferched ifanc mewn ffrogiau gwyn a chapiau gwyrdd a phorffor, eu hwynebau'n llawn edmygedd.

Suffragette March in Hyde Park

Suffragette March in Hyde Park 1910

Christina Broom (1862–1939)

National Portrait Gallery, London

Ym 1911, fe gyfrannodd Downing ei chreadigrwydd unwaith eto i'r mudiad. Ochr yn ochr â Wallace-Dunlop, fe gyfrannodd at Orymdaith Coroni'r Menywod – yr orymdaith swffragét fwyaf a gynhelir erioed ym Mhrydain, a welodd oddeutu 40,000 o bobl yn gorymdeithio o San Steffan i'r Royal Albert Hall.

Marjery Bryce dressed as Joan of Arc at the Women's Coronation Procession, 1911

Marjery Bryce wedi gwisgo fel Jeanne d'Arc yng Ngorymdaith Coroni'r Menywod, 1911

Fe ddywedodd Downing wrth Marjery Bryce i wisgo fel Jeanne d'Arc ac fe gyfarwyddodd oddeutu 700 o fenywod a merched eraill i wisgo dillad gwyn er mwyn cynrychioli'r carcharorion swffragét. Bu'r artist hefyd yn cyfrannu at dyluniad fflôt Pasiant yr Ymerodraeth. Roedd gan y fflôt ddau ffigwr - yn dynodi'r Dwyrain a'r Gorllewin - ar ei frig, a merched yn ei amgylchynu yn dynodi trefedigaethau a dominiynau amrywiol y Deyrnas Unedig.

Byddai Downing hefyd yn gwerthu ei gwaith, gan gynnwys cerfluniau o Christabel Pankhurst ac Annie Kenney i godi arian ar gyfer yr achos. Fe werthwyd Bachgen gyda Cheiriosen at ddiben yr achos hefyd ym 1907.

Boy with Cherry

Boy with Cherry 1907

Edith Downing (1857–1931)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Drwy'r 1910au cynnar fe symudodd ffocws Downing o gerfluniau i wleidyddiaeth bron yn llwyr. Cafodd ei harestio nifer o weithiau; unwaith am dorri ffenestr yn Somerset House yn ystod gwrthdystiad, ac eto am daflu carreg drwy ffenestr adeilad oedd yn berchen i ddeliwr celf ar Stryd Regent, fel rhan o'r wrthdystiad 'torri ffenestri' 1912.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, fe'i hanfonwyd i Garchar Holloway, ble ymunodd â chyd-swffragetiaid ar streic newyn. Cafodd Downing ei gorfodi i fwyta – profiad, yn ôl Sylvia Pankhurst, oedd yn gallu arwain at ddeintgig yn gwaedu a chwydu ofnadwy. Yn ddiweddarach fe gydnabu ymrwymiad Downing i'r achos gyda Medal Streicio Newyn gan WSPU.

The modern inquisition, treatment of political prisoners under a liberal government

Yr ymchwiliad cyfoes, triniaeth carcharorion gwleidyddol dan lywodraeth rhyddfrydol

1910, poster gan Alfred Pearse (1855–1933)

Yn ystod ei chyfnod yng Ngharchar Holloway, fe gyfrannodd Downing at Hances y Swffragetiaid: hances wedi'i frodio â dros chwedeg o enwau menywod a garcharwyd am eu rhan mewn gwrthdystiadau treisgar. Fe frodiwyd yr hances o flaen swyddogion carchar gwyliadwrus. Mae'n weithred ddewr sy'n asio symbolaeth benywdod draddodiadol a gwreiddiau mudiad ffeministaidd pwerus.

The Suffragette Handkerchief

Hances y Swffragetiaid

Hyd yn oed pan nad yw gwaith cerflunio Downing yn ymwneud yn uniongyrchol â mudiad y swffragetiaid, mae benywdod a goresgyn gormes yn thema sydd i'w weld yn glir yn ei gwaith. Mae'r cerflun Pompilia, yn enghraifft. Fe'i rhoddwyd i neuadd breswyl gyntaf Prifysgol Llundain i fenywod ym 1932, yn dilyn marwolaeth Downing. Mae'n dangos gwraig a mam Rufeinig ifanc, a lofruddiwyd am odineb tybiedig, gan ei gŵr treisgar – y Gwarchodwr Guido Franceschini – ym 1698.

Pompilia

Pompilia 1899 or before

Edith Downing (1857–1931)

Senate House, University of London

Fe ddaeth yr achos yn adnabyddus drwy gerdd Robert Browning 'The Ring and the Book' (1869), sy'n olrhain y stori drasig yn seiliedig ar ddatganiadau ysgrifenedig y llys o'r cyfnod. Mae cerdd Browning yn edrych ar sut mae sefydliadau cymdeithasol yr eglwys a'r wladwriaeth yn gweithredu er lles cynnal pethau arwynebol a hunanol - megis eiddo a gorchfygu menywod – ac nid er lles cyfiawnder. Mae Pompilia yn herio cymdeithas drwy ffoi oddi wrth camdriniaeth dynol, ac yn talu'r pris eithaf – neges y byddai'n sicr o atseinio gyda'r swffragetiaid.

Benywdod yw thema ganolog Mamolaeth, cerflun Downing o 1901 sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Mae'n dangos mam yn nyrsio baban ifanc, tra bod plentyn ifanc yn sefyll wrth ei hochr ac yn edrych ar y baban newydd. Mae'r gwaith yn gywrain ac yn dangos yr emosiwn pur sydd rhwng y ffigyrau wrth iddynt ddathlu aelod newydd y teulu.

Motherhood

Motherhood 1901

Edith Downing (1857–1931)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Ar ben hynny, mewn un cerfwedd bas, mae Downing yn dathlu Sant Margaret, un o seintiau a honnodd Jeanne d'Arc ei bod wedi ei chyfarwyddo i adennill Ffrainc o dra-arglwyddiaeth Lloegr. Yn ôl pob sôn, fe chafodd ei harteithio'n greulon ac yna'i dienyddio am beidio ymwrthod â'i Christnogaeth, ac o ganlyniad fe'i gwnaed yn nawddsant menywod beichiog a'r sawl a gyhuddwyd ar gam. Roedd ei herfeiddiad anhygoel yn wyneb marwolaeth yn ysbrydoliaeth fawr i'r swffragetiaid dewr.

Saint Margaret

Saint Margaret

Edith Downing (1857–1931)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae Avarice, cerflun gwir-faint gan Downing yn dangos menyw noeth yn ei chwrcwd ar lawr, yn cydio bagiau arian mewn un llaw a'r llaw arall yn estyn am ragor. Teitl gwreiddiol y darn oedd Ysbryd yr Ymddiriedolaethau ac mae'n debygol mai sylwebaeth ar Fraw Bancwyr America ym 1907 oedd thema'r gwaith. Mae wyneb y fenyw yn galed a'i noethni yn beth anarferol i artist benywaidd y cyfnod. Er bod y darn yn dod o gyfnod cyn ei gweithgarwch gyda'r WSPU, mae'n dangos defnydd Downing o gelf i ymgysylltu â gwleidyddiaeth gyfredol a'i hawydd i dorri tir newydd mewn maes a ddominyddwyd gan ddynion.

Avarice

Avarice 1907

Edith Downing (1857–1931)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Bu farw Downing ym 1931, a gadawodd waddol artistig a gwleidyddol anhygoel. Fe roddwyd sawl darn o'i gwaith i Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Avarice sydd i'w weld ar risiau de-orllewin Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae Downing yn un o'r nifer o fenywod anhygoel a roddwyd ei bywyd a'i bywoliaeth yn y fantol er mwyn gwella bywydau menywod ledled y wlad a'r byd. Mae ei gwaith creadigol hardd a'i heffaith ar ryddfreiniad menywod yn haeddu cael eu coffau gan genedlaethau lu.

Flora Doble, awdur llawrydd

Cyfieithiad o'r Saesneg

Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg