Nid yw curaduron a chynulleidfaoedd bob amser wedi bod yn hael tuag at artistiaid Cymru yn ystod eu hoes. Ers 1938, mae Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW) wedi bod yn prynu gwaith artistiaid a'i roi i amgueddfeydd, orielau a sefydliadau cyhoeddus. Mae arddangosfa newydd sy'n dathlu 80 mlynedd o'r casgliad yn agor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd ar y 4ydd o Awst 2018 ac yn teithio tan fis Mai 2019.
Hyd heddiw mae CASW wedi casglu bron i 900 o baentiadau, argraffiadau, ffotograffau, ffilmiau, gweithiau crefft a cherfluniau. Mae llawer ohonynt yn cael eu harddangos yn rheolaidd: maent yn wrthrychau cyfarwydd, poblogaidd, sy'n rhan o'n bywyd cenedlaethol. Fodd bynnag, pan gychwynnodd y gymdeithas roedd ei nod gyntaf o brynu gwaith celf - gwaith yn benodol gan artistiaid cyfoes o Gymru - yn un radical. Mae'r casgliad sydd bellach ar wasgar yn cynnwys gweithiau adnabyddus a gweithiau llai nodedig. Ond diolch i'w nod benodol, mae'r casgliad wedi llwyddo i adlewyrchu'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ym myd celf Cymru dros 80 o flynyddoedd.
Ar ôl i Josef Herman ffoi gwlad Pwyl yn y 1930au, bu farw ei deulu cyfan yn yr Holocost. Fe gyrhaeddodd bentref glofaol yn Nyffryn Abertawe ym 1943 ac fe benderfynodd mai dyma fyddai prif thema ei waith. Arhosodd am un ar ddeg o flynyddoedd.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys detholiad bychan o'r casgliad ehangach i ddangos sut mae celfyddyd gyfoes Cymru a'r gwerthfawrogiad ohono wedi newid ers 'ddoe' y 1930au hyd 'heddiw' yr unfed ganrif ar hugain. Mae rhai darnau yn boblogaidd tu hwnt, ond mae'n bosib y bydd eraill yn ennyn ymateb llai cynnes. Ymhlith yr artistiaid a gynrychiolir yn y casgliad, mae ambell i un sy'n haeddu ail-werthusiad; wedi'r cyfan dylai casgliad cenedlaethol sicrhau bod artistiaid a ddiystyrwyd yn ystod eu hoes, yn cael eu cydnabod ochr yn ochr ag enwau mwy adnabyddus.
Pan gychwynnodd CASW gasglu yn y 1930au hwyr roedd rhai pobl wedi'u cyfareddu gan bosibiliadau modernaidd Swrealaeth, Mynegiadaeth a chelf Haniaethol ond roedd eraill yn amheus iawn ohonynt. Roedd gan y prynwyr a benodwyd gan CASW rwydd hynt i ddilyn eu harbenigedd a dewis yr hyn oedden nhw'n ei ystyried ymhlith y gorau o gelfyddyd gyfoes. Fe brynodd y cyntaf, J. B. Manson weithiau ceidwadol, ond fe lwyddodd hefyd i brynu campwaith go iawn gan Gwen John. Roedd prynwyr eraill yn awyddus i gefnogi doniau ifanc a rhoi llwyfan i syniadau newydd. Fe brynodd y rhain baentiadau gan y mynegiadwr a ffoadur, Josef Herman, yr awdur a pheintiwr a fu'n teithio'r byd, Brenda Chamberlain a'r hynod arloesol Ceri Richards.
Doedd gan Manson, cyn-gyfarwyddwr dadleuol y Tate, fawr o feddwl o gelfyddyd fodern, ond roedd ganddo lygad am baentiadau Ôl-Argraffiadol ac fe welodd rhywbeth arbennig a safonol yng ngwaith Gwen John. Dim ond un arddangosfa a gafwyd o'i gwaith yn ystod ei hoes, a pan fu farw ym 1939 roedd Merch mewn Proffil ymhlith llawer o waith a orweddai mewn pentwr yn ei stiwdio ym Mharis. Fe brynwyd y gwaith am £100 gan CASW blwyddyn yn ddiweddarach. Mae'r darn yn llwyddo i gyfleu'r agosatrwydd o fod gyda'r model mewn ystafell fechan. Crëwyd y gwaith o liwiau tawel, fel petai'r artist yn teimlo'i ffordd at y mynegiant gorau posib o ffurf a goleuni.
Ar ôl i Josef Herman ffoi gwlad Pwyl yn y 1930au, bu farw ei deulu cyfan yn yr Holocost. Fe gyrhaeddodd Ystradgynlais, bentref glofaol yn nyffryn Abertawe, ym 1943 ac fe benderfynodd mai dyma fyddai prif thema ei waith. Arhosodd am un ar ddeg o flynyddoedd. Ysgrifennodd y curadur David Bell am ei weledigaeth fynegiannol o'r gymuned lofaol, 'Nid yw e'n dweud wrthon ni sut mae Ystradgynlais a'i phobl yn edrych, ond mae ei deimladau tuag at y lle a'i phobl yn creu byd newydd o ffurf a siâp a lliw a thôn.' I rai, roedd arddull Herman yn anodd ei ddeall, ond i eraill roedd mawredd a phŵer ei waith yn deimladwy iawn, ac mae ei ddylanwad ar artistiaid ac ar werthfawrogiad y cyhoedd o gelf yn ne Cymru yn parhau.
Ceri Richards oedd un o artistiaid gorau Cymru yn yr ugeinfed ganrif, ac mae'n deilwng felly bod cynifer ag un ar ddeg o ddarnau o'i waith yn cynrychioli ei yrfa, yng nghasgliad CASW. Mae Y Dyn Anymwybodol yn enghraifft ddigyfaddawd a phwysig. Pan baentiwyd y darn roedd yr artist wedi bod yn glaf yn yr ysbyty ac wedi'i effeithio o weld y gofal a roddwyd i glaf arall a oedd yn anymwybodol. Mae cnawd y dyn yn ymddangos yn farw ac yn wrthun, yr un lliw â glas oeraidd y cefndir. Mae ei goban wedi codi, mae un troed heb hosan a'i fraich yn ymestyn yn ôl yn wan. Ond mae tri gofalwr yn ei ddal. Mae wyneb tawel y nyrs ganol yn flaenllaw, fel petai'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn llawn tra bod y dyn yn ffaelu.
Roedd Brenda Chamberlain wedi gweld gwaith Gauguin pan yn ei harddegau ac wedi'i chyffroi gan y swrealaeth a'r arddull haniaethol. Fe brynodd CASW un o'i phrif weithiau, Plant ar Lan y Môr, ym 1952. Roedd plant Ynys Enlli yn thema i lawer o'i gwaith yn ystod y cyfnod. Bu'n byw ar yr ynys o 1947. Fe greodd sawl braslun ac fe ysgrifennodd yn ei llyfr nodiadau: 'Mae gan eu hwynebau'r un olwg gaeedig a'u hoedolion, oherwydd ni wyddant ddim o hyfrydwch a rhyfeddodau bach personol plentyndod.' Ysgrifennodd ar wyn y cynfas, gan barhau'r paentiad mewn du, a gweithio gyda phaent trwchus i greu gwead. Mae'n llun ysgogol o blant cryf sy'n gwisgo dillad rhyfedd, yn chwarae gyda theganau syml. Mae'r plant fel petaent wedi'u cadw rhag y byd, gyda rhwydi pysgota'n eu cau i mewn. Ond eto mae llinellau'r gwaith yn ymestyn allan i orwel pell, ac mae'r gragen a'r wylan sydd gan un ferch yn awgrymu cysylltiad agos rhwng y plant â natur. Fe fenthycodd CASW y paentiad i arddangosfa Glwb Celfyddyd merched Rhyngwladol yn yr Iseldiroedd ac arddangosfa Peintwyr Rhamantus Prydeinig yr Ugeinfed Ganrif, cyn ei roi i Amgueddfa ac Oriel gelf Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.
Benthycodd CASW luniau i sefydliadau eraill gyda brwdfrydedd a fyddai'n codi cywilydd ar arferion ymgysylltu cyhoeddus llawer o sefydliadau hyd yn oed heddiw. Cynhaliodd CASW arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, neuaddau, sefydliadau glofaol a lleoliadau diwydiannol, gan fenthyg gwaith am gyfnodau hir. Yna byddai'r gwaith yn cael eu rhoi i gasgliadau parhaol. Ar ddiwedd ei chwarter canrif gyntaf roedd CASW wedi casglu 350 o baentiadau, darluniau, argraffiadau a cherfluniau.
Yn y 1960au fe gyflwynwyd cyfryngau a symudiadau newydd i'r celfyddydau gweledol. Mewn ymateb, fe benododd CASW brynwyr a oedd yn awyddus i fentro i dir newydd. Fe brynodd lawer ohonynt baentiadau mawr haniaethol gan artistiaid megis Terry Setch a Jeffrey Steele. Fe lwyddont i brynu gwaith sêr y dyfodol megis y cerflunydd David Nash am brisiau rhesymol. Am y tro cyntaf fe gasglwyd gwaith ffotograffiaeth a ffilm – cyfryngau a ddiystyrwyd yn flaenorol. Er persbectif rhyngwladol artistiaid a churaduron, ar y cyfan fe barhaodd CASW i ddwyn sylw at waith artistiaid o Gymru. Erbyn 1995 roedd gan y casgliad oddeutu 700 darn o waith celf.
Erbyn diwedd y 1960au paentiadau mawr haniaethol oedd yn dominyddu'r ysgolion a'r orielau celf. Roedd maint Thunderball (Axminster) gan Terry Setch ac egni ei liwiau a'i rhythmau yn wahanol iawn i waith celf cynharach y casgliad. Fe gyfeiriodd Setch at hanes celf, diwylliant cyfoes a gwrthrychau bob dydd yn ei waith. Yn yr achos hwn mae'r teitl yn awgrymu patrwm a wehyddwyd mewn carped a allai fod wedi'i ysbrydoli gan gelfyddyd gain. Daeth Setch, a oedd eisoes yn artist uchel ei barch, i ddysgu yng Ngholeg Celf Caerdydd ym 1964.
Byddai sylfaenwyr CASW wedi'u drysu gan waith Oes y Gofod Jeffery Steele, artist oedd a'i bryd ar greu effeithiau gweledol arbennig yn seiliedig ar gysylltiadau geometregol. Wedi'i fagu yng Nghaerdydd, roedd Steele yn un o arloeswyr Op Art. Fe weithiodd mewn du a gwyn yn unig am sawl blwyddyn ac fe gynhyrchodd baentiadau a ddefnyddiodd ddilyniannau systematig, perffaith o siapiau. Fe ddysgodd yng ngholegau celf Caerdydd a Casnewydd cyn symud i Portsmouth ym 1968. Fe brynodd CASW Hecuba ym 1964 gyda chefnogaeth ychwanegol gan Sefydliad Calouste Gulbenkian.
Fe ddisgrifiodd y Western Mail waith Sue Williams fel pornograffi cudd - sylw sy'n camddeall ei gwaith yn llwyr, ond sy'n dangos ei gallu i herio'r gynulleidfa. Mae hi'n ymateb i gymhlethdodau perthnasoedd rhwng y rhywiau. Mae'r cwpl yn Cydweithrediad yn noeth ac yn debyg o ran osgo, ond wedi troi'u cefnau ar ei gilydd. Mewn byd o wleidyddiaeth rhyw gymhleth mae'n bosib bod 'cydweithio' yn golygu ateb gofynion y ddau a hefyd yn helpu'r gelyn. Mae ei thechneg o fraslunio'n gyflym ar y cynfas yn caniatáu iddi gyflwyno ei meddyliau a'i hymatebion. Pan ddewisodd Iwan Bala'r llun, fe ddywedodd, 'weithiau mae'r lluniau'n bwrpasol ifanc neu'n blentynnaidd, gan fod y rhan fwyaf ohonom yn blentynnaidd ar adegau. Mae strancio, hyd yn oed os yw e wedi'i ormesu, yn rhan o'r hyn sy'n ein gwneud ni'n ddynol. Mae'r paentiadau-ddarluniau yma fel cyfrinachau o ddyddiadur personol.'
Mae prynwyr CASW wedi parhau i ystyried paentio yn gyfrwng perthnasol a werth ei gasglu ar y cyd â chelfyddyd gysyniadol a chyfryngau newydd. Mae Shani Rhys James yn gyn-enillydd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Paentio Jerwood. Mae hi'n defnyddio hi ei hun fel model, gan edrych yn syth yn ôl arnom ni o'r drych. Yn ogystal â chyfansoddiadau mawr, cymhleth o'r ffigwr, mae hi'n creu paentiadau bychain o'r pen sy'n dod at ei gilydd drwy waith paentio deinamig. Fe greoedd 10 ohonynt ar gyfer ei harddangosfa deithiol ym 1997. Dywedodd y prynwr, Mathew Prichard, y byddai wrth ei fodd petai wedi gallu prynu pob un.
Pam casglu celfyddyd gyfoes Cymru? Dros dair genhedlaeth mae casglu wedi cefnogi llawer o artistiaid gorau Cymru, wedi bywiogi'r sector greadigol, wedi ysbrydoli nifer o bobl mewn amryw o ffyrdd ac wedi helpu Cymru i rannu ei stori. Rhwng y 1930au a'r presennol, mae celf Cymru wedi'i drawsnewid.
Arddangoswyd 'Ddoe a Heddiw: 80 Mlynedd o Gasglu Celfyddyd Gyfoes Cymru' yn:
- Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, mewn cydweithrediad â'r Eisteddfod Genedlaethol, 4 Awst tan 11 Awst 2018
- Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, 7 Hydref tan 25 Tachwedd 2018
- MOMA Machynlleth, 8 Rhagfyr 2018 tan 26 Ionawr 2019
- Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, 9 Chwefror tan 12 Mai 2019
Mae catalog 72 tudalen o hyd ar gael ar-lein.
Peter Wakelin, awdur a churadur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru