Dyma gyfweliad rhwng yr artist Geraint Evans a Robert Priseman – sylfaenydd Casgliadau Priseman Seabrook. Yma maent yn trafod dylanwad Cymru maestrefol, tirluniau mynyddig Canada a llyfrau Ladybird ar waith paradocsaidd, darluniadol a digri Geraint.
Robert Priseman: Mae'n ymddangos bod paradocs wrth galon pob un darn o dy waith. Rydyn ni'n edrych ar rywbeth, megis ffigwr mewn tirlun neu gwt wrth ymyl coeden, ond wrth edrych yn agosach, fe welwn fod y tirlun yn gefnlun artiffisial neu fod y goeden yn goeden Nadolig artiffisial. Beth sy'n apelio gymaint atat ti am greu gwrthddywediadau gweledol?
Geraint Evans: Ar lefel sylfaenol, mae diddordeb gen i mewn synnu'r gynulleidfa a chreu cyfosodiadau annisgwyl, a sut mae'r cyfosodiadau hyn yn gallu drysu neu herio'n persbectif ar y byd. Gall y ffordd yma o weithio hefyd greu hiwmor yn y gwaith. Mae ambell i gyfosodiad yn ffantasi pur, megis dangos llosgfynydd byw ar reid mewn parc thema neu feudwyaid yn llechu ar rodfeydd neu mewn gerddi. Mae eraill yn dod o brofiadau go iawn, megis gweld lifft boncyff coeden cochwydden anferthol mewn siop adrannol. Roedd yr efelychiad chwareus hwn i'w weld ar un pryd yn yn y siop Mothercare yn Purley Way, Croydon – symbol o dirwedd eang, wyllt mewn lleoliad gwbl ddinesig.
Ers amser mae diddordeb gen i yn y ffyrdd y byddwn ni'n profi a dehongli'r byd naturiol, yn enwedig o bersbectif dinesig. Caff tirluniau eu gweld drwy lens ddiwylliannol ac rydym yn gyson yn ceisio rheoli, llywio neu efelychu'r byd naturiol. Yn aml caiff ein profiadau eu cyfryngu gan dwristiaeth a chaiff ein canfyddiadau eu dylanwadu gan gonfensiynau hanesyddol a diwylliannol. Mae diddordeb gen i weld sut mae hyn yn amlygu ei hun mewn gerddi a pharciau cenedlaethol, parciau thema, neu hyd yn oed y stryd fawr neu'r ganolfan siopa. Yn naturiol, mae hyn yn creu 'gwrthddywediadau gweledol' fel y nodwch.
Robert: Fe ges di dy fagu yng Nghymru - lle sydd, fel y gwyddwn, â thirwedd brydferth a 'gwyllt' sy'n cynnwys llawer o fynyddoedd ac arfordir hir sy'n denu llawer o dwristiaid bob blwyddyn. Dw i'n teimlo bod ein cynefin, yr amgylchfyd ei hun, yn helpu siapio ein hunaniaeth ddiwylliannol. Wyt ti'n teimlo bod tirwedd ac amgylchfyd dy ieuenctid wedi dylanwadu arnat ti fel artist ac ar y paentiadau yr wyt yn eu creu?
Geraint: Symudais i Abertawe yn blentyn un oed. Mae fy rhieni ill dau, yn siaradwyr Cymraeg – magwyd fy mam yng nghefn gwlad gorllewin Cymru ac mae fy nhad o bentref glofaol bychan, Garnant. Fe gafodd ddiwylliant Cymreig ddylanwad mawr ar fy ngwaith pan oeddwn yn fyfyriwr. Yn ystod fy nghwrs BA ym Manceinion cefais fy nylanwadu gan gerddi Dylan Thomas a Vernon Watkins a phaentiadau Ceri Richards. Dw i'n credu bod cofleidio diwylliant fy nghynefin wedi bod yn gymorth i mi i adael cartref a sefydlu fy hunaniaeth annibynnol.
Ychydig ar ôl gadael i fynd i'r coleg, penderfynais droi fy sylw at bethau eraill, ond mae dylanwad Cymru yn parhau, er enghraifft gyda chyfeiriadau at siop fyrbrydau'r Big Apple yn y Mwmbwls, maes parcio ar droed yr Wyddfa, atyniad ar ddiwedd pier Llandudno, parc dinosoriaid Dan-yr-Ogof, a phentref fodel ar Ynys Môn. Dw i'n credu mai tirwedd ddinesig Abertawe – y maestrefi ar gyrion y ddinas lle mae'r dinesig a'r naturiol yn cwrdd – dyna sydd wedi cael y dylanwad fwyaf ar fy ngwaith, yn hytrach na thirwedd 'wyllt' Cymru.
Pan rwy'n edrych ar dy waith mae'n dwyn i gof ffenestri gwydr lliw, ond wedi'i ddehongli fel ffurf gelfyddyd seciwlar a 'dirfodol' yr ugeinfed ganrif ar gyntaf.
Robert: Mae'n hynod ddiddorol gwrando ar sut yr wyt wedi ymwneud â chynifer o ffactorau allanol i ddatblygu dy iaith weledol bersonol.
Wrth edrych ar dy waith dw i'n sylwi bod newid sylweddol wedi digwydd tua 2002. Ar ôl 2002 mae dy baentiadau yn ymddangos yn fwy gweadog, o ran eu cynnwys gweledol a deallusol. Wyt ti'n gallu dweud wrthon ni pam?
Geraint: Mae'n ddiddorol dy fod yn dweud hyn. Dw i'n teimlo bod y newid wedi digwydd tua thair blynedd yn gynharach, ym 1999. Yn ystod y cyfnod hwn, ar hap a dweud y gwir, fe gychwynnais ddefnyddio ffotograffau – lluniau a dynnais yn ystod preswyliad yng Nghanolfan Gelfyddydau Banff, Alberta, Canada ym 1994, blwyddyn ar ôl graddio o Ysgolion yr Academi Frenhinol. Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Banff, tirwedd fynyddig drawiadol sy'n gartref i rai o ryfeddodau naturiol enwocaf Canada, megis Llyn Louise a Llyn Moraine. Roedd y preswyliad yn brofiad ardderchog ond roedd angen amser a phellter arnaf i ddeall sut i ymateb i'r dirwedd yn fy ngwaith.
Mae Terry, a baentiwyd ym 1999, yn dangos artist amatur ffuglennol yn ei fflat un-ystafell yn paentio tirlun o'r Mynyddoedd Rocky – tirwedd na fyddai fyth yn ymweld â hi. Mae cyfansoddiad y tirlun yn bwrpasol fflat ac yn artiffisial, a chanddi naws amaturaidd iddi. Mae'r paentiad yn cynnwys nifer o'm diddordebau a'm mhrofiadau – megis y daith i Banff, gweithio yn Orielau'r Mall yn gosod paentiadau ar y waliau – orielau a fyddai'n cynnal arddangosfeydd gan nifer o gymdeithasau celf diddorol, megis Cymdeithas Frenhinol Artistiaid y Môr. Roedd gennai ddiddordeb yn yr artist amatur, y maestrefi a'r portread. Mewn sawl ffordd mae'r gwaith hwn yn hunan-bortread, achos fe baentiais yr un dirwedd ddelfrydol a phell drosodd a throsodd.
Robert: Pan rwy'n edrych ar dy waith mae'n dwyn i gof ffenestri gwydr lliw, ond wedi'i ddehongli fel ffurf gelfyddyd seciwlar a 'dirfodol' yr ugeinfed ganrif ar gyntaf. Sut wyt ti'n teimlo am hyn?
Geraint: Dydw i erioed wedi meddwl am fy ngwaith yn y ffordd yma. Efallai bod hyn yn ymwneud â sut mae'r gwaith yn edrych – ei iaith weledol fflat ac artiffisial? Fe ddatblygwyd hyn o ddiddordeb mewn darlunio pan roeddwn i yn y coleg – o Lyfrau Ladybird i ddarluniau meddygol Oes Fictoria, i ddiagramau mewn llawlyfrau iechyd a diogelwch cyfoes. Mae darlunwyr Llyfrau Ladybird yn uchel iawn eu parch wrth gwrs, gydag artistiaid megis Harry Wingfield yn dangos ei waith mewn orielau megis y New Gallery Walsall. I'r gwrthwyneb, mae darluniau mewn canllawiau iechyd a diogelwch yn fwy ymarferol a didactig, ac eto eu nod yw dangos adegau o drawma a phanig. Dw i'n gweld y paradocs yma'n ddiddorol a braidd yn absẃrd.
Mae'n bosib bod defnydd y gwaith o naratif a chyfansoddiad uniongyrchol hefyd yn rhan o hyn. Rydw i wedi paentio meudwy, pwnc traddodiadol ar gyfer paentiadau crefyddol, sawl tro. Er bod diddordeb gennyf yn y nifer o baentiadau o Sant Jerôm sydd i'w gweld ar hyd hanes celf – Sant Jerôm mewn Tirlun Creigiog – sydd wedi'i briodoli i stiwdio'r artist Joachim Patinir yng nghasgliad y National Gallery yw un o fy hoff baentiadau – y meudwy addurnol sy'n fy niddori. Daeth y meudwy addurnol i'r amlwg yn y ddeunawfed ganrif yn sgil traddodiad tirlun gerddi Lloegr. Fel mae'r enw'n awgrymu, nid feudwyaid go iawn mo rhain, ond gweithwyr a gyflogwyd i fyw ar dir ystadau gwledig mawr, o fewn meudwyfeydd a grotos pwrpasol. Byddai'r meudwyaid hyn yn ymddangos i adlonni'r perchennog a'i westeion. Mae'r pwnc yma yn ddifyr i mi hyd heddiw.
Robert: At ba beintwyr wyt ti'n tueddu i droi atynt am ysbrydoliaeth?
Geraint: Fe atgoffodd yr arddangosfa ôl-syllol ddiweddar o waith David Hockney yn Tate Britain mor bwysig oedd ei waith i mi pan oeddwn yn fyfyriwr. Mae artistiaid hanesyddol megis Van Eyck, Zurbarán a Velázquez yn bwysig i mi. Yn fwy perthnasol mae'r Hudson River School – Thomas Cole, Frederic Edwin Church, Albert Bierstadt, Thomas Moran – artistiaid a ymddangosodd yn yr arddangosfa 'American Sublime: Paentio Tirluniau yn yr Unol Daleithiau 1820–1880' yn Tate Britain yn 2002. Dw i'n cofio'r sioe hon fel agoriad llygad i mi a ddatgelodd llawer o syniadau ynglŷn â'r ffordd mae artistiaid yn cyfleu'r byd naturiol a sut y gallwn weld tirlun ar delerau gwleidyddol.
Yn y stiwdio byddaf yn aml yn cyfeirio at gatalog gan Tilo Baumgärtel er mwyn atgoffa fi fy hun o'r math o artist yr hoffwn i fod – gyda'i fyd dyfeisgar ac idiosyncratig, ei waith paentio mynegiannol a'i ddefnydd teimladwy o olau a lliw.
Robert: O'r rhestr yma o artistiaid mae'n hawdd gweld sut mae realaeth, lliw a drama yn allweddol i dy waith fel paentiwr. Sylwais yn gynharach hefyd sut mae cyfosodiadau annisgwyl yn aml yn creu hiwmor yn dy waith. Fel artist mae hiwmor yn gallu bod yn beth anodd ei gael yn iawn, ond mi rwyt ti yn llwyddo. Mae'r hiwmor yn dy waith yn gynnil a rhywsut yn aflonyddu, ac o bosib mi faswn yn ei ddisgrifio fel elfen swreal. Beth wyt ti'n ei feddwl o'r disgrifiad yma?
Geraint: Dw i'n cytuno bod yna rinwedd absẃrd i'r hiwmor sydd i'w weld yn y gwaith. Fe grëir yr hiwmor gan y 'gwrthddywediadau gweledol' neu'r cyfosodiadau annisgwyl y soniaist amdanynt.
Fel dywedais gynt, mae nifer o'r cyfosodiadau hyn wedi'u dyfeisio, ond yn seiliedig ar bethau yr wyf wedi eu gweld. Mae gennym ni duedd i dderbyn pethau absẃrd o fewn y cyd-destun cywir: rhaeadrau mewn canolfannau siopa neu nofio mewn llynnoedd egsotig dan dôm anferthol gwydr Center Parcs. Yn Disneyland gallwch fynd ar drên drwy Everest neu wylio eirth robotaidd yn chwarae cerddoriaeth gwlad. Ond y ffocws y mae celf yn ei roi ar y rhain – drwy ddwyn ein sylw atynt a gofyn i ni graffu ar yr elfennau absẃrd, dyma sy'n creu'r hiwmor.
Robert: Diolch o galon am rannu rhai o dy feddyliau a dy syniadau gyda ni, Geraint.
Robert Priseman, artist, casglwr, awdur, curadur a chyhoeddwr
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru