Er fy mod wedi bod yn astudio darluniau ar hyd fy mywyd, mae ysgrifennu llyfr i nodi penblwydd Charles Burton yn 90 oed wedi gwneud i mi edrych o'r newydd arnynt. Mae astudio'r gwaith a wnaeth Burton yn ystod ei fywyd wedi fy helpu nid yn unig i werthfawrogi un meistr di-glod, ond hefyd i ystyried celfyddyd peintio yn fwy eang. Nid wyf i ar ben fy hun yn hyn o beth – meddai David Alston yn ei ragair i'r llyfr: 'Mae cwrdd â'r gwaith fel cwrdd â Charlie ei hun: cyfeillgar, hydrin ond treiddgar hefyd, yn wahoddiad i arsylwi ac ymchwiliad mwy manwl.'
Mae rhywbeth yn ei waith na allaf ond ei ddisgrifio yn dawelwch gloyw. Rhoddais y teitl Charles Burton: Painting Still i'r llyfr er mwyn cydnabod y llonyddwch tawel hwnnw yn ogystal â hirhoedledd creadigol yr artist. Am chwe degawd, bu Charles Burton yn un o fawrion y byd celf yng Nghymru ond i ryw raddau'n gyfrinach tu hwnt. Fe'i ganed ym 1929, gan dyfu i fyny yng nghanol tlodi Cwm Rhondda cyn y rhyfel. Enillodd glod i'w waith pan oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Gelf Caerdydd a chafodd ei waith ei brynu ar gyfer casgliadau cyhoeddus. Yn y Coleg Brenhinol, disgrifiodd Carel Weight ef yn un o'r artistiaid mwyaf bywiog mewn cenhedlaeth a oedd yn cynnwys Frank Auerbach, Peter Blake, Leon Kossoff a Bridget Riley. Drwy gydol y 1960au Burton oedd pennaeth paentiad yng Ngholeg Celf Lerpwl, ond fe ddychwelodd i dde Cymru ym 1970, lle bu'n peintio fyth oddi ar hynny.
Mae Charles yn galw peintio yn 'fusnes mochaidd' – serch hynny mae wedi dal ei sylw dros 70 o flynyddoedd. O'i arddegau hwyr hyd ei 20au diweddar, fe beintiodd ei gartref yng Nghwm Rhondda gyda didwylledd ac eglurder. Prynodd Casgliad Celf y Llywodraeth un o'i beintiadau, Tirlun Cymraeg, pan oedd yn 20 oed, a'i arddangos yn swyddfa Aneurin Bevan. Cyn iddo droi'n 22 oed, prynodd Oriel Glynn Vivian un o'i baentiadau ar gyfer ei chasgliad parhaol ac fe brynodd Cyngor y Celfyddydau ddau. Yn ddim ond 24 oed, enillodd Burton y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ei roi ef yng nghwmni ffigurau sefydledig megis Brenda Chamberlain ac ymhen amser Josef Herman, David Jones a Ceri Richards.
Mae hanes celf yng Nghymru yn cydnabod ei ddylanwad fel prif ffigwr Grŵp Rhondda, sef clwstwr o fyfyrwyr oedd yn nodedig am eu hymrwymiad i baentio'r hyn oedd ar garreg eu drysau ym meysydd glo de Cymru yn hytrach na phynciau egsotig neu ddychmygol. Roedd eu gwaith yn annog artistiaid eraill i droi sylw at destunau a phynciau a ystyrir yn draddodiadol yn 'an-arluniadol'.
Mae'r realaeth ddidwyll a ddaliodd cymaint o sylw yn amlwg yn un o'r paentiadau a brynodd Cyngor y Celfyddydau ym 1951, Eira yn Nhreherbert. Mae'r llun yn dangos yr olygfa uwchben iardiau cefn y glowyr y tu ôl i'w deras ef yng Nghwm Rhondda – pwnc anaddawol yn ôl disgwyliadau'r byd celf. Roedd ei driniaeth syml yr un mor annisgwyl: techneg ddi-lol, gydag arwynebeddau fflat, heb un motiff amlwg i ganolbwyntio sylw. Ac eto fe gaiff yr olygfa ei hail-ddychmygu gan Burton mewn ffordd gywrain. Mae lliwiau oeraidd y waliau a'r haearn crychiog, y capel, a'r awyr dywyll yn cael eu bywiogi gan ddafnau o baent coch a brown cynnes. Er mor gyfyng yw'r olygfa, mae'r eira ar y toeon fel grisiau sy'n codi o'r dryswch, o linellau fertigol y simneiau, polion a ffenestri'r capel, i lethr y mynydd tu draw. Mae'r cyfansoddiad yn gain: y goleuni disglair rhwng y simnai fawr a'r ffenestr, y wal dywyll sy'n cynnig sail i'r cyfansoddiad, a'r teils crib a'r pen euraidd sy'n dynodi'r Golden Section.
Y rhyfeddod ynglŷn â'i weithiau cynnar o'r 1950au oedd eu bod nhw'n dangos cymunedau'r maes glo yn gysurus ac yn gartrefol – nid darluniadau o dlodi ac amddifadedd mo'r rhain. Mae Farmers on Horses yn portreadu llonyddwch un noswaith yn Nhreorci. Mae'r ffordd yn ein gwahodd tuag at y bryniau; mae dau ffermwr yn teithio i'r dref ar eu ceffylau a cherddwyr yn pasio heibio wrth i wraig tŷ mewn ffedog gwylio, gyda phlentyn bach wrth ei thraed. Mae cŵn yn prancio a phlant yn pipio'n chwareus rownd y gornel. Mae ehangder yr heol a'r palmant yn awgrymu trefn yn y gofod cyhoeddus hwn, ac yn cyfrannu at harmoni lliw y llwydion a'r gwyrddion sy'n priodi'r heol â'r awyr, a'r meysydd â'r coed.
Roedd llawer o'r paentiadau a wnaeth Charles pan oedd yn fyfyriwr yn gwrthod traddodiadau academaidd o blaid pleser pur – plentynnaidd, bron - yn ei gynefin. Gwelwn hwn yn ei goed, sy'n ymddangos bron fel lolipops syml. Mae ei liwiau'n ddirlawn, heb fawr o fodelu, ac mae'n cyflwyno'i bynciau'n blwmp ac yn blaen. Mae Mynydd Rhondda yn dangos ffermwr a'i gŵn yn cerdded ar lethrau mynydd sy'n ffres yn ei wyrddni; rhywbeth gwerth ei fynegi am dirwedd sy'n nodedig am ei domenni glo.
Erbyn yr amser y gadawodd Charles Goleg Celf Caerdydd, roedd yn artist adnabyddus: roedd wedi dylanwadu ar eraill ac roedd ei waith mewn casgliadau cyhoeddus. Roedd hwnnw'n gyflawniad anghyffredin iawn i ddyn ifanc 22 oed. Enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol yn 24, am Yn ôl o'r Clwb, a dwedodd y beirniaid: 'Dyn ifanc yw'r artist hwn o hyd, gyda gyrfa paentiwr o'i flaen, ond mae ef eisoes wedi ei sefydlu ei hun yn artist o graffter a dealltwriaeth fawr.' Efallai mai'r paentiad hwn – golygfa ddychmygol yn dangos heol yn rhedeg trwy ganol y cyfansoddiad - oedd uchafbwynt ei arddull 'diniwed'. Amlinellol yw'r muriau, coed a'r tai teras. Cerddai'r ffigurau syml i fyny'r heol, rywfaint yn sigledig wedi treulio oriau yng nghlwb y gweithwyr.
Yn y Coleg Brenhinol, arbrofodd gyda dulliau amrywiol, fel yn y llun Gentle Houses, sy'n darlunio byd a fyddai wedi bod yn gyfarwydd i'w gyfaill ym Merthyr Tudful, Heinz Koppel – yr artist mynegiadol a cheisiwr lloches - yn y modd y mae siapiau gwrthrychau yn y nos yn symud, chwyddo, a gwreichioni gydag amlinelliadau lliwgar. Mae'r toeau llechi, y coed a'r tai teras yn nodweddiadol o Gwm Rhondda ond yn awgrymu'r syniad o gartref yn fwy eang, a'r lloches y mae'n ei gynnig.
Magodd paentiadau eraill o'r cyfnod hwn eglurder tawel ac arddull naturiol, megis Cerdded yn yr Eira - cynghanedd o wynion, llwyd ac ocr, yr un mor gynnil â darluniau bywyd llonydd Morandi. Mae tri llygedyn o liw llachar – coch, glas a phinc - yn egnïo'r llun. Mae'r olygfa i lawr Cwm Rhondda yn cynnwys ffigurau – par o gariadon fraich yn fraich, gwyliwr yn y ffenestr, ci bach yn rhuthro drwy'r eira – ond hynny heb ansefydlogi'r cyfansoddiad. Cafodd ei arddangosfa unigol gyntaf yn Llundain ym 1956 adolygiad yn The Times: 'tra bod y paentiad yn ddigon realistig i fynegi mannau a welwyd yn eu gwirionedd, mae eu naws mor farddonol eu bod nhw'n ymddangos hefyd yn swynol, fel ffantasïau breuddwydiol.'
Ym 1956 fe aeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Celf Lerpwl, lle daeth yn fuan yn Bennaeth Paentiadau. Ymhlith ei fyfyrwyr roedd John Lennon a Stuart Sutcliffe. Erbyn iddo ymadael, ym 1970 i fynd yn Bennaeth Celfyddyd Gain yn Institiwt Addysg De Morgannwg, y farn oedd mai Lerpwl oedd un o'r ysgolion gorau trwy'r wlad ym maes peintiadau.
Mae'n bodoli rhwng amserau, yn rhuddin drwy'r gorffennol, ac mae'n ysbrydoli gwahanol ddarlleniadau: tawel a phrydferth neu apocalyptaidd.
Yn 51 oed, dychwelodd at arlunio yn llawn amser, er yr oedd e mor ofalus o ran ble roedd e'n arddangos fel nad oedd sylwebyddion gwybodus hyd yn oed yn gweld ei waith ef. Dilynwyd arddangosfa yn y Cyngor Prydeinig ym Mrwsel gan un yn oriel Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd o'r enw 'Family, Some Chairs, a Number of Tables and Mary Queen of Scots.' Mae e bob amser wedi darlunio pynciau y mae'n eu caru a'u hadnabod, gan geisio'r hollgyffredin yn ei hynodion personol: gwrthrychau ar ei aelwyd, aelodau ei deulu, y tu mewn i'w gartref.
Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y deunydd diffuant o baent er mwyn amlygu'r hyn yw paentiad yn y bôn - arwyneb o liwiau - wrth archwilio'r tyndra rhwng cynrychiolaeth a strwythur y darlun. Meddai ef: 'Rwy'n ceisio ymgyrraedd bob amser â thawelwch llwyr, ac yn aml, rwy'n dechrau gyda'r siapiau mwyaf lletchwith fel nad wyf i'n dibynnu ar raniad y cynfas mewn ffordd fathemategol yn unig ar gyfer darparu'r harmoni. Yn aml iawn, maen nhw'n ddwl o letchwith – fel darlun o gadair sydd o union faint y gadair, sy'n codi bob math o broblemau – ac fe fydda i'n gweithio arnyn nhw am hydoedd i'w cydbwyso nhw.'
Cwblhaodd gyfres o ddarluniau anghyffredin o du mewn i dai gyda chadeiriau unigol yn ganolbwynt. Roedd pob un ohonyn nhw o chwe throedfedd sgwâr - mor fawr fel ei bod hi'n naturiol i geisio edrych mewn i ofod y llun yn hytrach nag ar ei arwyneb, fel trompe l'oeil. Ond mae'r golygfeydd yn y darluniau hyn ymhell o fod yn naturiol. Mae Cadair Ledr gyda Phaentiad o Marion yn cyfleu gofod gwyllt o fordiau lloriau, waliau, darluniau yn gogwyddo a ffenestri onglog - ac eto mae'n cloddio am dawelwch. Mae ei drem am i lawr yn darparu sylfaen gadarn; mae mat hirgrwn yn cynnig siâp i'r hyn a fyddai fel arall yn dywyllwch ar ben tywyllwch. Mae sawl dyfais yn rhwystro rhuthro'r llygad: bordiau wedi eu troi yn groes, y mat agosach rhyw fymryn bach o'i aliniad, goleddf y ffenestr fae sy'n cau'r persbectif.
Jygiau Marion yw un o'r paentiadau cynharaf o lestri seramig a baentiodd gyda'i ffrind Marion McMullen yn Ffrainc. Fe ddisgrifiodd ei broses fel hyn: 'Paentiad adferedig oedd hwn o jygiau mewn perthynas â'i gilydd a'u hamgylchedd. Ymhen amser nid oedd hynny'n teimlo yn briodol, fe weithiais i ar y darlun a daeth pob jwg i fodoli yn ei hawl ei hun heb berthynas i'r jygiau eraill ac mewn lle gwag. Pe byddai'r jygiau yn bobl, ac fe allen nhw fod wedi bod yn rhwydd, fe fyddai pob un wedi bod yn edrych yn fewnol, nid yn cyfathrebu ac yn sefyll fel gallai rywun fod yn ei wneud mewn parti diod chwithig.'
Yn y 1990au hwyr, torrodd drwy'r rwystr a deimlai o ran darlunio Cwm Rhondda, a oedd wedi newid mor sylfaenol ers y dyddiau pan roedd e'n byw yno. Yn sydyn, sylweddolodd y gallai ddilyn Constable ac eraill drwy beintio'r cof: 'mae'r sylweddoliad bod y gorffennol yn preswylio ym mhob un ohonom ni wedi ei gwneud hi'n bosibl i mi beintio darluniau o'm gwreiddiau i.'
Daeth â phedwar degawd arall o ddysg i'r pwnc a ymaflodd ynddo mor uniongyrchol ar un adeg. Un o gampweithiau'r cyfnod hwn yw darlun enfawr Ton Pentre, yn grimp yn ei olau llachar a'i strydoedd gwag. Mae'r gwaith glo wedi mynd ond does dim ceir hyd yma, mae'r tai teras dal i fod â'u toeau llechi, ac nid yw'r eglwys wedi ei dymchwel. Mae'n bodoli rhwng amserau, yn rhuddin drwy'r gorffennol, ac mae'n ysbrydoli gwahanol ddarlleniadau: tawel a phrydferth neu apocalyptaidd. Dywedodd ef ryw 40 mlynedd yn ôl: 'Rwy'n hoffi i gyn lleied â phosibl ddigwydd mewn darluniau. Mewn ffordd rwy'n hoffi meddwl eu bod nhw ychydig fel dramâu Chekhov, lle ceir swm aruthrol o deimladrwydd ac nid oes fawr o ddim yn digwydd.'
Yn 90 oed, mae Charles yn dal i deimlo: 'o'm safbwynt i nid oes ond un peth yn y byd sy'n werth ei wneud, a pheintio yw hwnnw.'
Peter Wakelin, awdur a churadur
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Cyhoeddir Charles Burton: Painting Still gan Peter Wakelin gan Sansom & Company
Roedd 'Charles Burton: 90th Birthday Exhibition' yn Oriel Martin Tinney, Caerdydd, o 14eg hyd 29ain Awst 2019