Mae gogledd-orllewin Cymru wedi denu artistiaid ers canrifoedd, byth ers i'r artist tirluniau arloesol o Gymru, Richard Wilson bortreadu mawredd yr ardal yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Wedi hynny, dilynodd nifer lu o artistiaid eraill, wedi'u hudo gan ddrama ac awyrgylch y dirwedd naturiol – y mynyddoedd uchel, y tir garw a'r golygfeydd eang.

Snowdon from Llyn Nantlle

Snowdon from Llyn Nantlle 1765–1766

Richard Wilson (1713/1714–1782)

Walker Art Gallery

Ond sawl artist drodd eu sylw at dirwedd ddiwydiannol gogledd-orllewin Cymru: y llethrau garw, llwyd, wedi'u naddu a'u ffurfio gan waith cloddio llechi dwys? A pha le sydd gan lechi – a'r golygfeydd sy'n gysylltiedig – yn y celfyddydau gweledol?

Yn ddiweddar dynodwyd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae'r dynodiad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol chwe ardal chwareli llechi a'r cymunedau a ffurfiwyd o'u hamgylch.

Grey Shades, Blaenau Ffestiniog

Grey Shades, Blaenau Ffestiniog 1970s

Jonas Plosky (1940–2011)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn y degawdau wedi i Wilson baentio'i olygfeydd o Eryri, trawsnewidwyd yr ardal fynyddig hon gan dwf syfrdanol y diwydiant llechi. Roedd chwareli bychain wedi bodoli ers amser, ond bu ffrwydriad o weithgaredd yn sgîl y chwyldro diwydiannol wrth i ddinasoedd mawr dyfu a'r galw am lechi to gynyddu.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd y gornel fechan hon o Gymru wedi tyfu'n un o brif ddarparwyr llechi'r byd: roedd llechi o Gymru yn cynrychioli tua traean o'r holl lechi a gynhyrchwyd ledled y byd. Roedd y llechi'n cael eu hallforio i sawl cyfandir i'w defnyddio ar gyfer toeau ac adeiladau, byrddau duon mewn ysgolion, a llechi ysgrifennu.

Cawn gipolwg ar brysurdeb y diwydiant llechi mewn paentiad o Chwarel Penrhyn ger Bethesda yn Nyffryn Ogwen, a baentiwyd gan Henry Hawkins ym 1832. Yn yr olygfa syfrdanol hon, mae'r artist yn dangos y chwarel fel un o ryfeddodau'r byd diwydiannol. Wedi iddi gael ei hehangu yn y 1770au, erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hon oedd un o chwareli mwyaf y byd.

The Penrhyn Slate Quarry

The Penrhyn Slate Quarry 1832

Henry Hawkins (1796–1881)

National Trust, Penrhyn Castle

Ar waelod y llun, ar y dde mae Hawkins  wedi cynnwys ei hun yn paentio'r cannoedd o chwarelwyr yn dringo wyneb y graig gyda phicasau. Mae'r ffigyrau yn fan a di-nod o'u cymharu â'r waliau anferthol a'r chwarel sydd fel petai'n ddi-ddiwedd: nid unigolion mohonynt ond rhannau bychain mewn peirianwaith mawr slic – safbwynt a fyddai, heb os, wedi plesio perchennog cyntaf y paentiad, a oedd hefyd yn berchen ar y chwarel.

Pan baentiwyd y cynfas hwn, George Hay Dawkins-Pennant oedd piau'r chwarel. Roedd e wedi'i etifeddu gan gefnder ei dad, Richard Pennant, Barwn Cyntaf Penrhyn. 

Sail ffortiwn enfawr Penrhyn oedd siwgr a llechi – cyfoeth a grëwyd drwy elwa o lafur caethweision ar blanhigfeydd yn y Caribî, ac ecsbloetiaeth gweithwyr lleol yng Nghymru. Roedd  cyflogau'r chwarelwyr yn isel a'u hamodau gwaith yn beryglus, ac fe arweiniodd hyn at ddwy streic: un ym 1896 ac yna'r Streic Fawr, a ddechreuodd ym 1900 ac a barhaodd am dair blynedd hir. Chwe mis i mewn i'r anghydfod, dychwelodd rhai dynion i'r gwaith, gan arwain at rwygiadau chwerw yn y gymuned a barhaodd am genedlaethau.

Roedd y chwareli mwyaf yn gyrchfan nid yn unig i weithwyr ac artistiaid ond hefyd i dwristiaid. Mor gynnar â dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd chwarel Penrhyn yn denu ymwelwyr a oedd am weld y dirwedd ryfeddol hon gyda'u llygaid eu hunain. Ym 1832, y flwyddyn y paentiodd Hawkins ei lun, daeth y Dywysoges (yn ddiweddarach y Frenhines) Fictoria i weld y chwarel. Mewn paentiad arall o chwarel Penrhyn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gellir gweld grŵp o ymwelwyr mewn dillad smart wedi ymgasglu ar gyrion y chwarel, 

Penrhyn Slate Quarry, Property of Lord Penrhyn

Penrhyn Slate Quarry, Property of Lord Penrhyn 19th C

unknown artist

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Mae'r paentiad hwn ar lechen, sy'n ein hatgoffa bod chwareli hefyd yn cynnig deunydd artistig – byddai'r chwarelwyr lleol yn cerfio a cherflunio llechi. Roedd y gelfyddyd boblogaidd, werinol hon yn galluogi gweithwyr i droi eu sgiliau torri cain at ddibenion creadigol. Byddant yn cerfio motifau cywrain fel blodau a gwyrddni addurniadol, elfennau seryddol fel cylchoedd a sêr, a motifau ffigurol fel tai neu anifeiliaid – a hyd yn oed sgorau cerddoriaeth.

Carved Slate

Carved Slate 19th C

unknown artist

STORIEL

Yn debyg i sampleri, roedd y cerfiadau hyn yn hynod bersonol ac yn adlewyrchu diddordebau pob gwneuthurwr unigol. Mae'r llechi'n amrywio o ran maint a siâp: o baneli hirsgwar hir a fwriedwyd fel amgylchoedd tân, i wrthrychau tri dimensiwn fel gwyntyllau neu ddodrefn ar raddfa fach. Ar gyfer dibenion domestig y gwnaed y rhan fwyaf o'r enghreifftiau hysbys, ac maent yn deillio o Ddyffryn Ogwen y 1820au hyd at y 40au. Adfywiodd yr artist cyfoes o Gymru, Bedwyr Williams, y traddodiad hwn drwy lunio eitem ffasiwn fodern o lechen yn ei waith Sbectol Haul Llechi (Slate Sunglasses).

Slate Sunglasses

Slate Sunglasses 2008

Bedwyr Williams (b.1974)

British Council Collection

Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, parhaodd y dirwedd lechi a chymunedau chwareli gogledd-orllewin Cymru i ysbrydoli artistiaid. Paentiodd yr artist Almaenaidd-Iddewig, Martin Bloch chwarelwyr yn dychwelyd o'u gwaith mewn paentiad a arddangoswyd yng Ngŵyl Prydain ym 1951. Efallai y byddech yn disgwyl i dirwedd llechi fod yn llwyd, ond mae Bloch yn llenwi'r olygfa â lliwiau cyfoethog, gan animeiddio'r cyfan â llinellau crwm – arddull sy'n datgelu dylanwad y Mynegiadwyr Almaenaidd, a blynyddoedd ffurfiannol Bloch ym Merlin, Munich a Pharis.

Daeth Bloch i Brydain ym 1934 er mwyn ffoi Ewrop Natsiaidd ac er mai Llundain oedd ei gartref, byddai'n ymweld â Chymru'n rheolaidd yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel. Roedd ei gyfaill a'i gyd-alltud, Josef Herman wedi ymgartrefu yn Ystradgynlais yn ne Cymru, ac er mai glowyr oedd prif ddiddordeb Herman, chwarelwyr gogledd Cymru a ddenai sylw Bloch.

Down from Bethesda Quarry

Down from Bethesda Quarry 1951

Martin Bloch (1883–1954)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Artist alltud arall o Ewrop Natsiaidd a dreuliodd amser yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Fred Uhlman. Yn wreiddiol o'r Almaen, roedd Uhlman yn gweithio yn Llundain ond roedd ganddo dŷ yn Nyffryn Croesor ger Blaenau Ffestiniog, 'prifddinas llechi'r byd'. Byddai'n treulio ei hafau yno ac yn paentio'r chwareli llechi yn aml, gan ganolbwyntio ar eu silwét garw – naill ai'n paentio amlinelliadau'r chwareli mewn lliwiau llachar, golau, neu'n gosod eu ffurfiau rhiciog, anwastad yn erbyn awyr danllyd.

The Slate Mines

The Slate Mines

Fred Uhlman (1901–1985)

Herbert Art Gallery & Museum

Daeth y tirweddi llechi o amgylch Blaenau Ffestiniog a Bethesda hefyd yn ysbrydoliaeth i Peter Prendergast. Yn wreiddiol o ardal lofaol yn ne Cymru, ym 1970 ymgartrefodd Prendergast yn Neiniolen, pentref a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr Chwarel Dinorwig. Wrth baentio'r chwareli, y dirwedd a'r trefi cyfagos, llwyddodd Prendergast i gyfleu cymeriad cadarn, eofn y rhanbarth gyda chlytiau eang o liw cryf wedi'u gosod gyda gwaith brwsh cryf a'u hamlinellu mewn du.

Bethesda Quarry

Bethesda Quarry 1980–81

Peter Prendergast (1946–2007)

Tate

Mae creithio'r tir yn sgîl canrifoedd o fwyngloddio – boed hynny'n blwm yng Ngheredigion neu'n llechi yn Eryri – yn thema ganolog yng ngwaith Mary Lloyd Jones. Mae hi hefyd yn ymddiddori yn y cysylltiad rhwng tirwedd a hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol. Mae ei darlun Dyffryn Nantlle, Llais Nantlle wedi ei ysbrydoli gan yr un dyffryn a ddarluniwyd mor ddelfrydol gan Richard Wilson: Nantlle, lle datblygwyd cyfres o fwyngloddiau bychain, dwfn, annibynnol o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r marciau ar y dde uchaf yn atgoffa rhywun o'r wyddor Ogham a Barddol gynnar yn rhoi mynegiant gweledol i'r teitl – ‘llais Nantlle' – gan ein hatgoffa bod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o'r cymunedau llechi.

Dyffryn Nantlle Llais Nantlle

Dyffryn Nantlle Llais Nantlle 1996

Mary Lloyd Jones (b.1934)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Yn olaf, yn ogystal â bod yn destun celfyddyd, ar un adeg daeth un o chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru yn gadwrfa i drysorau artistig mwyaf Prydain ar un adeg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dewiswyd hen chwarel y Manod fel lloches i baentiadau mwyaf gwerthfawr y genedl. Ym 1940, dywedodd Winston Churchill: 'Cuddiwch nhw mewn ogofeydd a seleri, ond ni fydd un llun yn gadael yr ynys hon.' Ac felly rhwng 1941 a 1945, bu casgliad yr Oriel Genedlaethol yn y lleoliad tanddaearol anghysbell hwn yn y bryniau uwchben Ffestiniog. Oriel Genedlaethol gyfrinachol yn ogofâu llechi gogledd Cymru!

O'r paentiadau o chwareli llechi felly i weithiau celf a ysbrydolwyd ganddynt, ac o lechi fel deunydd celf i'r orielau cudd o fewn y chwarel: mae'r cysylltiadau rhwng celfyddyd a llechi yng ngogledd-orllewin Cymru mor aml-haenog ag ydynt yn gyfoethog.

Mari Griffith, awdur a hanesydd celf

Cyfieithiad o'r Saesneg 

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg