Ym mhaentiadau Ernest Zobole mae pobl yn lleihau a bryniau'n tyfu. Mae'r profiad fel glanio rhywle rhyfedd: man lle mae'r persbectif yn anesmwyth ac yn newid yn barhaol. Mae bryniau'n bethau da am gyfleu hynny. Gallant guddio pethau neu eu datgelu nhw. Gallant ganiatáu i ni weld pethau o ongl wahanol neu gael cipolwg ar y darlun mwy. Mae'r paentiadau'n ein hatgoffa nad ydym bron byth yn cael profi lle o un safbwynt yn unig. Roedd Zobole yn honni mai'r 'syniad o giplun un safbwynt [oedd y peth] annaturiol, afreal.'
Yn ei fyd ef, mae'r dirwedd wedi ei smwddio allan, ei gosod yn wastad ar y cynfas, ac mae'r ffiniau rhwng y tu allan a'r tu mewn yn aml yn aneglur. Mae'r gweithiau'n dangos cysylltiad dwfn â lle – maen nhw bron yn genedlaetholgar yn eu hymroddiad i gynefin, ymhob tymor a phob amser o'r dydd.
Ganed Zobole yn Ystrad yng Nghwm Rhondda, yn fab i fewnfudwyr o'r Eidal. Ac eithrio ryw lond llaw o flynyddoedd a dreuliodd yn gweithio fel athro ar Ynys Môn, arhosodd yn Ystrad bron ar hyd ei fywyd ac, o ganlyniad, byddai ei waith yn dod yn deyrnged i'r dref hon sy'n swatio ymysg y bryniau glo. Cafodd ei ymroddiad i'r Rhondda ei ddisgrifio gan yr hanesydd celf David Fraser Jenkins, fel 'uniaethiad llwyr, yn mynd y tu hwnt gyflenwad o bynciau'n unig.'
Aeth Zobole i Ysgol Gelf Caerdydd rhwng 1948 a 1953, lle'r oedd yn rhan o Grŵp Rhondda a addysgwyd gan Joan Baker. Bu Baker yn addysgu yng Nghaerdydd am bron i 40 mlynedd ac, fel artist, roedd ei gwaith yn ymwneud yn fanwl â darlunio bywyd y ddinas o'i chwmpas.
Yn Noson o Wanwyn, o gasgliad Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, mae'r bryniau'n ymddangos yn las a chrwm yn erbyn yr awyr. Mae'r olygfa'n fyw gydag awel y gwanwyn wrth i ni weld trên yn cyrraedd ar ddiwedd diwrnod gwaith. Mae edau o ffigurau wedi'u chwythu gan y gwynt – ar eu ffordd adref – yn gwau drwy'r gwaith ac yn dilyn pob un mae cysgod indigo ysgafn wedi'i daflu gan olau'r cyfnos.
Mae Baker yn cyfleu naws y barddol yn y pethau cyffredin: y lleuad gilgant yn pwyso yn erbyn yr awyr a changhennau'n dawnsio yn yr awel, y patrwm o bedwar llaw ger canol y gwaith sydd bron â chyffwrdd. Mae'n cynnig i ni ymdeimlad o ddinas sy'n tyfu, yn dod ychydig bach yn fwy dienw gyda phob blwyddyn sy'n pasio, ac artist sy'n parhau'n ffyddlon i'r syniad o weld pob un o'i manylion bach. Mae'n cynnig cymhlethdod a naratif mewn ffordd sy'n herio'r 'ciplun un safbwynt' y byddai Zobole hefyd yn dod i'w wrthod.
Mae dylanwad Baker ar Zobole yn arbennig o glir efallai yn y gweithiau a wnaeth yn ystod ei amser yn yr ysgol gelf, fel y darluniad ffigurol o fywyd dyddiol a welir yn Ffigurau gyda Phram mewn Stryd, Ystrad. Mae'r paentiad yn debyg hefyd i waith L. S. Lowry yn y ffordd y mae'n symleiddio ffurfiau a'i bersbectif gwastad. Roedd Zobole wedi darganfod ei bwnc ac roedd yn dechrau datblygu ei iaith unigryw ei hun mewn peintio a fyddai'n parhau i esblygu yn ystod ei yrfa.
Yng ngwaith Zobole, fel gwaith Baker, gwelwn artist yn ceisio cofnodi lle drwy ei lygaid ei hun. Mae ei baentiadau'n archwilio newidiadau mewn tref lofaol dros gwrs bywyd, lle'r unig beth cyson a dibynadwy yw presenoldeb y bryniau crwm enfawr sydd o'i amgylch.
Weithiau mae'r bryniau'n eistedd yn gyfeillgar ar ymylon y gwaith. Maen nhw'n ymddangos, yn haniaethol a chreigiog, drwy ffenestri Mewn Ystafell, o gasgliad Amgueddfa Cymru, fel petaen nhw'n aros i gael eu gwahodd i mewn ar hyd llwybr o heulwen goch sy'n ymestyn ar draws y llawr. Weithiau maen nhw'n tywynnu – fel petaen nhw wedi eu dal yn heulwen gwan y gaeaf – yn cysgodi tref o dai toeon cribog a strydoedd troellog. Weithiau maen nhw'n ymestyn ymhell uwchlaw ymylon y cynfas ac yn llithro allan o'r golwg. Maen nhw'n las, du, gwyrdd a phinc. Maen nhw'n tyfu ac yn newid, ac eto maen nhw'n aros yn elfennau cyson a hanfodol o fyd Zobole.
Ar brydiau, mae'r bryniau'n gwasgu i mewn i'r fath raddau nes y gallwn bron – fel y mae'r hanesydd Ceri Thomas yn ei awgrymu – gael cipolwg ar ragarwydd o drychineb Aberfan yn 1966 a'r dinistr y gall tirweddau o'r fath eu hachosi. Mae Yn y Cwm Rhif 7 yn darlunio tirwedd sy'n glawstraffobig. Yma, mae'r bryniau'n gwthio ffigurau yn goesau matsys ac yn dynesu'n agosach drwy'r amser – tuag atom ni, tuag at Zobole, tuag at y dref, tuag at ei gilydd.
Mae natur yn anwadal ac yn newid drwy'r amser. Mewn ennyd, gall y bryniau mewn cwm weddnewid o lochesu lle i achosi sefyllfa lle mae dinistr llwyr y lle hwnnw'n anochel.
O'm profiad fy hun, rwy'n pendroni a yw byw yng Nghymru yn golygu bodoli mewn cydbwysedd o'r fath. Bod yn gwbl ddibynnol ar y byd naturiol ac eto beidio bod ag unrhyw reolaeth o gwbl drosto. Cydweddu'ch hun ag ysbrydion y tirweddau hyn a gweld peryglon byw oddi mewn iddynt ochr yn ochr â'r rhyfeddodau.
Cefais fy magu rhwng y bryniau, ond llethrau gwyrdd oedd y rhain mewn pentref yng ngogledd Cymru, nid twmpathau glo a chwareli'r cymoedd. Mae Zobole yn gwybod y gwahaniaeth. Mae ei dirweddau yn aml yn dywyll a diwydiannol, gyda llinellau chwarel yn dringo i fyny tua'r awyr.
Mewn gweithiau diweddarach, fel Paentiad y Nos, mae'r strydoedd wedi eu goleuo gyda fflworolau – y golygfeydd yn llewyrchu ac yn dawnsio. Mae'r goleuadau stryd yn taflu cysgodion ar hyd palmentydd cul ac mae'r awyr yn tywynnu gyda llygredd golau. Rydym yn cwrdd â lle sy'n llawn elfennau hynod a chyferbyniadau – yn wledig ac yn ddiwydiannol, yn anghysbell ac yn gysylltiedig, yn newid ac eto'n gyfarwydd. Daw Zobole yn dyst i le sydd yn aml yn cael ei anwybyddu, gan ei ddangos o'i nifer o wahanol onglau.
Yn Edrych Allan a Peintiwr a'i Amgylchoedd Rhif 1 mae'r bryniau wedi eu hadlewyrchu mewn ffenestri a drychau; maen nhw wedi eu torri'n ddarnau, yn blygedig ac yn gymhleth. Ond eto, maen nhw yno bob amser, ochr yn ochr â'r artist – y darnau bach o fydysawd wedi ei beintio sy'n cael eu rhoi at ei gilydd dro ar ôl tro a'u had-drefnu. Fel y dywedodd Meic Stephens yn The Independent, 'mae fel petai'n ceisio gwneud cysylltiad â phopeth – y lleuad, y bryniau, y ffordd wlyb, y goleuadau stryd, y tai, y ffigurau'n brysio drwy'r glaw – ac i fod ymhob man ar yr un pryd.' Mae Zobole yn archwilio nid yn unig agweddau gweledol lle ond hefyd y profiad o fod wedi eich cwmpasu'n llwyr ganddo.
Ellie Evelyn Orrell, ysgrifennwr
Cyfieithiad o'r Saesneg
Cefnogwyd y cyfieithiad gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg
Darllen pellach
Ceri Thomas, Ernest Zobole: A Life in Art, Seren, 2007
David Fraser Jenkins, Cyflwyniad, Recent Paintings by Ernest Zobole, Casnewydd 1986
Peter Wakelin, Art Accustomed Eyes, Amgueddfa Cymru, 2004
Peter Wakelin, 'Er Cof: Ernest Zobole', The Guardian, 1999
Meic Stephens, 'Er Cof: Ernest Zobole', The Independent, 1999
Peter Lord, The Tradition: A New History of Welsh Art 1400–1990, Parthian Books, 2023