Mae Rhamantiaeth wedi ysgubo fesul ton ar draws maes celf tirluniau Cymru – yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, tua chanol yr ugeinfed ganrif, ac mewn celf cyfoes. Yng Nghymru, mae Brycheiniog yn sir enwog am 'Ramantiaeth', dan gysgod enfawr Bannau Brycheiniog a'r Mynyddoedd Duon, â'r gwynt yn sgubo drostynt, blaenau Dyffryn Gwy a gwlad sgydiau Afon Nedd. Tua dechrau'r Oesoedd Canol, teyrnas Brychan Brycheiniog ydoedd. Fel man toreithiog ar gyfer tirluniau Rhamantaidd, fe'i cynrychiolir nid yn unig mewn casgliadau lleol, ond ledled y byd.

Evenfall, Ystradgynlais, Powys

Evenfall, Ystradgynlais, Powys 1948

Josef Herman (1911–2000)

Leicester Museums and Galleries

Dechreuodd y mudiad Rhamantiaeth tua diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymateb i natur, dychymyg a theimlad. Disgrifia William Vaughan y mudiad fel un sy'n pwysleisio 'gwedd gysylltiadol' creu lluniau o'i gyferbynnu â chelf glasurol oedd yn pwysleisio  'gwerthoedd ffurfiol'.

Doi'r artist o Gymru Richard Wilson o draddodiad peintio clasurol yn y Dull Mawreddog, ond eto cafodd ei alw gan John Ruskin yn Dad 'celf tirweddol diffuant a seiliwyd ar gariad myfyriol am natur.' Yn Llyn-y-Cau, Cader Idris, crëodd y paentiad cyntaf erioed, mae'n debyg, a leolwyd ynghanol mynyddoedd, gan gymryd arweiniad efallai oddi wrth syniadau Edmund Burke am y peryglus a'r aruchel (the sublime) fel peth amgen i harddwch.

Llyn-y-Cau, Cader Idris

Llyn-y-Cau, Cader Idris ?exhibited 1774

Richard Wilson (1713/1714–1782)

Tate

Er nad ymddengys fod Wilson wedi peintio yn Sir Frycheiniog, un o'i ddisgyblion oedd Thomas Jones o Bencerrig, ar y ffin rhwng Brycheiniog a Maesyfed, a ddaeth â diffuantrwydd Wilson i'r tirweddau oedd mor annwyl ganddo. Dengys Glyn Pencerrig (The Vale of Pencerrig) yr olygfa o gefnen y Carneddau. Fel ei feistr, dringodd Jones i'r 'diffeithdir', ble gallai weld cyn belled â'r Mynyddoedd Duon.

The Vale of Pencerrig

The Vale of Pencerrig 1776

Thomas Jones (1742–1803)

Yale Center for British Art

Darganfuwyd Cymru gan genhedlaeth o artistiaid teithiol pan barodd y Rhyfeloedd â Ffrainc i'r Daith Fawr fod yn amhosib. Cawsent eu denu i Gymru gan ei gwylltineb a'i anghynefindra, eangderau'i mynyddoedd a'r iaith a hanes unigryw. Cawsent eu denu hefyd gan theorïau William Gilpin, oedd yn rhoi gwerth ar yr afreolaidd a'r gwyllt uwchlaw'r cymesur a'r taclus. Wrth iddynt gyrraedd, roedd llawer o'r teithwyr artistig hyn mewn oedran pan allai dylanwadau newydd fod yn drawsnewidiol (roedd Turner yn 17, John Sell Cotman yn 18) ac roedd y rhan fwyaf yn gweld nentydd y mynydd a llethrau creigiog am y tro cyntaf yn eu bywydau.  

Brecon Bridge and Castle

Brecon Bridge and Castle c.1795

Joseph Mallord William Turner (1775–1851)

Manchester Art Gallery

Bu Turner yn darlunio yng Nghrughywel, Tretŵr, ac Aberhonddu, ble mae'i ddyfrlliwi'n troi oddi wrth  bywyd y dref, a thuag at is-fyd y torlannau cysgodol, ac amlinell adfeilion y castell. Roedd Cotman, wrth ddarlunio'r un olygfa yn 1803, yn dysgu i symleiddio gydag arlliwiau gwastad, a pharodd i'r bont gyfagos fod yn syfrdanol o lachar.

Brecon Bridge

Brecon Bridge

c.1803, gray & black wash over graphite on paper by John Sell Cotman (1742–1842)

Peth prin oedd gweld artistiaid benywaidd yn mynd ar deithiau paentio, ond un a ddaeth drwy Frycheiniog oedd Amelia de Suffren, bonheddwraig o Ffrainc a alltudiwyd gan y Chwyldro, a gyhoeddodd acwatintau yn 1802 dan y teitl A Picturesque Journey around South and North Wales. Mae'i golygfa o Geunant Clydach yn cyfosod gwaith natur â llaw dyn: olwyn ddŵr ymysg y coed, a'r bryniau uwchlaw'r gweithwyr wedi eu chwyddo i faint mawreddog yr Alpau.

Brick Kiln at Clydach, Monmouthshire

Brick Kiln at Clydach, Monmouthshire

c.1795, aquatint by Amelia de Suffren

Interior of the Cave at Porth yr Ogof

Interior of the Cave at Porth yr Ogof 1819

Thomas Hornor (1785–1844)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Darganfu cyfres o artistiaid ardal raeadrau Brycheiniog – neu Wlad y Sgydau fel y'i gelwir heddiw. Cynhyrchodd Thomas Hornor ddelweddau breuddwydiol ar hyd yr afonydd. Cynigiodd Penry Williams o Ferthyr Tydfil, ac yntau'n dal yn ei arddegau, fawredd oriog i'r sgydau, cyn iddo symud i Rufain, pan ddatblygodd ei baentiadau arddull Neo-Glasurol.

Eionon Garn on the Perddyn or Ysgwd or Scwd Fall, Neath Valley

Eionon Garn on the Perddyn or Ysgwd or Scwd Fall, Neath Valley 1819

Penry Williams (1802–1885)

Merthyr Tydfil Leisure Trust

Dechreuodd artistiaid encilio rhag Rhamantiaeth tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hi'n nes at y 1930au pan gychwynnodd cenhedlaeth o artistiaid Neo-Ramantaidd don newydd o ymateb emosiynol i dirwedd, wedi'u bywiocáu gan Fynegiannaeth, Swrealaeth a Haniaeth. Trawsnewidiwyd gwaith Graham Sutherland yn Sir Benfro, ond buan wedyn fe ddarganfu'r gweithfeydd glo brig ar ffin Sir Frycheiniog, ble gwyliai haenau o fynyddoedd yn cael eu rhwygo ynghyd gan beiriannau fel bwystfilod.

Outcast Coal Production – Depositing Earth from Buckets

Outcast Coal Production – Depositing Earth from Buckets 1943

Graham Vivian Sutherland (1903–1980)

Aberdeen Art Gallery & Museums

Gellir gweld ymateb David Jones i dirwedd ym Mrycheiniog fel llygedyn cynnar o Neo-Ramantiaeth. Byddai'n ymweld yn rheolaidd â Chapel-y-ffin yng nghwm Llanddewi Nant Hodni rhwng 1924-7 ac fe'i cyffyrddwyd gan rythmau'r bryniau a'r nentydd, a'i ymdeimlad o gysylltiad y wlad â llenyddiaeth hynafol, ac â gwreiddiau Cymreig ei dad. Byddai'r cwm yn llenwi'i ddychymyg weddill ei fywyd. Lleolwyd y paentiad olaf iddo'i gwblhau, Y Cyfarchiad i Fair, yn y bryniau o gwmpas Capel.

The Annunciation in a Welsh Hill Setting

The Annunciation in a Welsh Hill Setting 1962–1963

David Jones (1895–1974)

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Dilynodd Eric Ravilious yn ôl troed Jones yn 1938. Gyda maint ei dirluniau fe lwyddodd yntau i gyfleu ias o hynodrwydd ac ymedimlad o'r aruchel. Ysgrifennodd: 'mae'r bryniau mor enfawr, mae'n anodd gadael lle iddyn nhw ar y papur.'

Wet Afternoon, Capel-y-ffin

Wet Afternoon, Capel-y-ffin

c.1938, watercolour & pencil on paper by Eric Ravilious (1903–1942), private collection

Daeth ei gyfeillion John a Myfanwy Piper i ymweld, a dychwelodd John i baentio adfeilion bythynnod. Trawsnewidodd ef y motiff Rhamantaidd o'r cartref gwag, ei wyngalch yn pefrio yn y tywyllwch, gan ei lygad modernydd am ffurf a gwead haniaethol.  

Derelict Cottage, Llanthony

Derelict Cottage, Llanthony 1941

John Piper (1903–1992)

Leeds Museums and Galleries

Y lleoliad terfynol ble llewyrchodd Neo-Ramantiaeth oedd Ystradgynlais, pentref yn maes glo'r de. Daeth y ffoadur Pwylaidd Josef Herman yma ar wyliau yn 1944 ac arhosodd am un mlynedd ar ddeg. Adnabu ar unwaith le a fyddai'n bwydo'i ddychymyg, a dechreuodd greu paentiadau o'r glowyr, y tomenni glo gwastraff a'r tai oedd yn swatio at ei gilydd. Deilliai ieithwedd paentiadau Herman o Fynegiannaeth Gwlad Belg, ond ym Mrycheiniog enillodd troad Ramantaidd, diolch i'r dirwedd gofleidiol, a'r gymuned a'i groesawodd mor llwyr.  

'Pen-y-Bont Inn', Ystradgynlais

'Pen-y-Bont Inn', Ystradgynlais c.1949

Josef Herman (1911–2000)

y Gaer Museum, Art Gallery & Library
 

O fewn degawd, dirgrynwyd y byd celf Brydeinig gan Fynegiannaeth Haniaethol Americanaidd a mudiadau eraill. Serch hynny, parhaodd artistiaid unigol i ymdrin â materion Rhamantaidd, boed hynny er budd ymchwydd natur, parhad â'r dyfodol neu rym cynefinoedd. Denwyd sawl artist i ardaloedd a arferai fod yn lleoedd diwydiannol ar ffiniau deheuol y sir. Canfu Bert Isaac ddeunydd cyfoethog yn adfywiad natur mewn hen chwareli a thomenni glo. Mae Dick Chappell yn defnyddio sgrafellu a sgraffito i gonsurio'r bryniau toredig a ecsbloetiwyd gymaint.  

Mining Area

Mining Area

Bert Isaac (1923–2006)

MOMA MACHYNLLETH

At Night

At Night 2004

Richard (Dick) Chappell (b.1954)

Glynn Vivian Art Gallery

Mae artistiaid wedi canfod themâu cyfoethog o ymgysylltiol yng nghanol y sir hefyd. Ar fryniau dyffryn Wysg, mae Robert MacDonald yn creu paentiadau a drwythwyd yn yr anweledig yn ogystal â'r gweledig, gan bortreadu'r byd byw o'i gwmpas a thro'r tymhorau.  

1993, watercolour by Robert Macdonald (b.1935)

Overlooking Parcside and Wernfawr

1993, watercolour by Robert Macdonald (b.1935)

(Robert Macdonald, Edrych dros Parcside a Wernfawr, dyfrlliw, 1993)

Defnyddiodd Ifor Davies bridd o faes tanio'r fyddin ar fynydd Epynt, mewn ystod o baentiadau o fferm fynyddig a larpiwyd gan ffrwydron, gan arddeisyf ar i Taranis, duw Celtaidd y taranau, fynegi'i ddicter ar droi allan cymunedau.

Taranis (Thundergod)

Taranis (Thundergod) 1992

Ivor Davies (b.1935)

y Gaer Museum, Art Gallery & Library

Nododd Clive Hicks-Jenkins berthynas tirwedd Brycheiniog ag arferion gwerin a hanes personol, gan drawsnewid y castell yn Nhretŵr yn wyliedydd darluniadol, dan ddylanwad y braw a deimlai'i ddiweddar dad yn wyneb traddodiad y Fari Lwyd.

Deposition III

Deposition III

2002, Conté by Clive Hicks-Jenkins (b.1951), National Library of Wales, Aberystwyth

Heddiw, bydd artistiaid a leolir ym Mrycheiniog yn parhau i ymgysylltu ag ystyron a chysylltiadau'r dirwedd, mewn aml i gyfrwng. Mae Pip Woolf yn archwilio cwestiynau emosiynol a gwleidyddol ar ran yr amgylchedd; yn 2023, dechreuodd Penny Hallas a Susan Adams ar brosiect mewn ymateb i straeon cudd adfail ysbyty meddwl Canolbarth Cymru. Mae'r traddodiad Rhamantaidd yn parhau i ganfod ysbrydoliaeth yn nhir a daear Brycheiniog ar ôl 250 o flynyddoedd.  

Peter Wakelin, awdur a churadur

Cefnogwyd y cynnwys hwn gan gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru

Cyfieithiad o'r Saesneg

Darllenwch fwy o straeon yn y Gymraeg

Darllen pellach

Peter Wakelin, 'Breconshire Landscapes and the Romantic Tradition in Painting', Brycheiniog, cyfnodolyn Cymdeithas Brycheiniog, rhifyn 55, Mawrth 2024

Edmund Burke, A Philosophical Enquiry into the Origins of our Ideas of the Sublime and Beautiful, 1757

William Vaughan, Romantic Art, Thames & Hudson, 1978

William Gilpin, Observations on the River Wye, and Several Parts of South Wales, etc. Relative Chiefly to Picturesque Beauty; made in the Summer of the Year 1770, 1782