Mae'n bleser gan Art UK gyhoeddi lansiad canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects. Mae fersiwn Saesneg o'r erthygl hon hefyd.

Mae ap Bloomberg Connects yn ganllaw digidol rhad ac am ddim lle gallwch archwilio cynnwys gan nifer o sefydliadau diwylliannol. Ble bynnag yr ydych yn y byd, gallwch gael mynediad at amrywiaeth o gynnwys, naill ai i ychwanegu at eich profiad yn gwylio'r oriel yn y cnawd, neu i'w fwynhau o gysur eich cartref eich hun. Mae canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn ychwanegiad cyffrous at yr amrywiaeth eang o sefydliadau diwylliannol a gynrychiolir ar yr ap ar hyn o bryd.

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yw'r canllaw cyntaf i'w lansio ar Bloomberg Connects yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Comisiynwyd Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful gan y meistr haearn William Crawshay ym 1824 ac fe'i cynlluniwyd i edrych dros waith haearn hynod lwyddiannus y teulu Crawshay. Gwerthwyd y castell i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ym 1908 ac agorwyd yr amgueddfa a'r oriel gelf ym 1910.  

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Heddiw mae Castell Cyfarthfa yn gartref i amrywiaeth o arddangosion, gyda'r uchafbwyntiau yn cynnwys arddangosfeydd yn archwilio hanes diwydiannol Merthyr Tudful ac ystafelloedd hanesyddol yn arddangos casgliadau amrywiol. Gallwch archwilio hyn i gyd a mwy yng nghanllaw Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects. 

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Yn adran Arddangosfeydd Seler Gwin y canllaw, gallwch ddarganfod mwy am drawsnewidiad Merthyr Tudful yn ganolfan fyd-eang cynhyrchu haearn. Fel yr eglura'r canllaw, 'Eisteddai Merthyr Tudful ar Faes Glo De Cymru, ac roedd yn y man allweddol i fanteisio ar y cyfoeth mwynol oedd ar gael i wneud haearn.' Mae'r recordiad sain sy'n cyd-fynd yn pwysleisio, 'Yn ei anterth, Cyfarthfa oedd y gwaith haearn mwyaf llwyddiannus yn y byd.'  

Cyfarthfa Steel Works at Dusk

Cyfarthfa Steel Works at Dusk 1896

Thomas Prytherch (1864–1926)

Merthyr Tydfil Leisure Trust

Gallwch hefyd ddod o hyd i amrywiaeth o gynnwys yng nghanllaw Castell Cyfarthfa sy'n archwilio'r ystafelloedd lle bu'r teulu Crawshay yn byw ar un adeg. Mae detholiad o weithiau celf ac arteffactau sy'n gysylltiedig â'r teulu i'w gweld yn Orielau'r Llawr Gwaelod, gan gynnwys portreadau o aelodau'r teulu Crawshay sy'n cael eu harddangos yn yr Ystafell Fwyta.  

Mae'r portread hwn, er enghraifft, yn darlunio Robert Thompson Crawshay, yr 'Haearnfeistr olaf i oruchwylio'r gwaith o gynhyrchu haearn yng Nghyfarthfa.' 

Robert Thompson Crawshay (1817–1879)

Robert Thompson Crawshay (1817–1879) c.1860

Carl Süssnapp (1828–1891)

Merthyr Tydfil Leisure Trust

Yn y Parlwr Crwn, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o baentiadau gan Penry Williams wedi'u harddangos ochr yn ochr â cerameg Nantgarw ac Abertawe. 

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Canllaw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ar ap Bloomberg Connects

Fel yr eglura'r canllaw, 'Roedd Penry Williams yn fachgen lleol o Ferthyr ac fe gafodd fagwraeth gyffredin. Fe ddaeth yn adnabyddus fel y "Turner Cymreig" a chafodd ei waith sylw yn ystod agoriad swyddogol yr Amgueddfa ym 1910, ac mae wedi parhau i fod yn rhan greiddiol o'r casgliad.' 

Waterfall in the Neath Valley

Waterfall in the Neath Valley 1819

Penry Williams (1802–1885)

Merthyr Tydfil Leisure Trust

I archwilio mwy o Gastell Cyfarthfa, lawrlwythwch ap Bloomberg Connects heddiw!

Sganiwch y cod QR i lawrlwytho ap Bloomberg Connects

Sganiwch y cod QR i lawrlwytho ap Bloomberg Connects

Jolif Guest, Swyddog Cynnwys a Chyswllt Casgliadau

Cyfieithiad Cymraeg gan Helo Blod